Skip to main content

Canolfannau Oriau Dydd Arbenigol

Mae canolfannau oriau dydd arbenigol gyda ni (canolfannau dydd craidd), ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf. Maen nhw’n darparu amrywiaeth o weithgareddau i’r bobl hynny sy’n gymwys i’w defnyddio nhw. Mae rhai ohonyn nhw yn gweithredu fel cyfleusterau gofal seibiant, sy’n rhoi seibiant i bobl sy’n rhoi gofal i eraill.

Mae canolfannau oriau dydd craidd yn rhoi cymorth i'r bobl sy'n eu mynychu trwy:

  • Helpu i gynnal eu lles corfforol a meddyliol
  • Bod o gymorth o ran eu trefniadau llety a gofal presennol
  • Lleihau'r peryglon i'w diogelwch
  • Eu hannog nhw i edrych ar ôl eu hunain trwy raglenni byw'n annibynnol
  • Caniatáu i bobl gyfarfod yn anffurfiol i oresgyn unigrwydd cymdeithasol
  • Diwallu eu hanghenion gofal personol oherwydd does dim modd eu darparu'n effeithiol yn eu cartrefi eu hunain
  • Darparu seibiant i'w cynhalwyr (gofalwyr) yn gymorth iddyn nhw ddarparu gofal yn y tymor hir

Mae'r staff a'r offer yn y canolfannau i gyd yn addas i ddiwallu'r ystod lawn o anghenion gofal personol priodol, gan gynnwys rhoi bath, os oes angen. Os ydych chi’n dymuno mynychu un o'n canolfannau oriau dydd craidd, cysylltwch â'r Gwasanaeth Ymateb ar Unwaith (gweler isod) a gofyn am asesiad o'ch anghenion.

Cysylltu â ni

Os ydych chi'n meddwl bod angen help arnoch chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdano, cysylltwch â'n:

Carfan Ymateb ar Unwaith.
E-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425003

Mae'r Gwasanaeth Argyfwng y Tu Allan i Oriau Swyddfa yn ymateb ar frys i achosion o argyfwng gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar ŵyl y banc ac ar y penwythnos.
Ffôn: 01443 743665