Skip to main content

Cyfarpar ac addasiadau

Cyfarpar i helpu pobl â phroblemau symudedd neu ddeheurwydd

Pe hoffech chi gyfarpar arbenigol i helpu â phroblemau symudedd neu ddeheurwydd, mae modd eu cael yn ein cyfleuster Vision Products sydd ag ystod o gyfarpar a all ddiwallu amryw o anghenion. Fe gewch chi ymweld â nhw yn un o’u canolfannau ym Mhont-y-clun neu Aberdâr, neu’u ffonio nhw i gael rhagor o fanylion:

Vision Products

Ystad Ddiwydiannol Coedcae Lane, 
Pont-y-clun  
CF72 9HG

E-bost: www.visionproductspontyclun.co.uk

Ffôn: 01443 229988

Cyfarpar i helpu’r sawl sydd â nam ar ei olwg neu ar ei glyw

Gall ein Carfan Gwasanaethau’r Synhwyrau roi cyngor i chi ynglŷn â chyfarpar arbenigol a all helpu pobl sydd â nam ar y golwg neu ar y clyw. Yn yr achos yma, cysylltwch â’n Carfan Ymateb ar Unwaith a gofyn am asesiad o’ch anghenion.

Cyfarpar i helpu’r sawl sydd ag anableddau yn ymwneud a’r corff, y meddwl ac anableddau dysgu.

Mae cyfarpar arbenigol ar gael hefyd trwy wasanaethau Teleofal (Telecare). Synwyryddion yw’r cyfarpar yma, sy’n cael eu gosod yn y cartref i fonitro diogelwch y preswylwyr.   

Yn dilyn asesiad o’ch anghenion, gall ein Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol  eich helpu chi i oresgyn anawsterau gydag anabledd corfforol neu salwch hirdymor. Yn ogystal â hynny, gall y gwasanaeth gefnogi pobl sy’n cael anawsterau wrth fyw eu bywydau o ddydd i ddydd o ganlyniad i afiechydon y meddwl neu anabledd dysgu.

 Mae anghenion pawb yn wahanol, felly bydd y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig i bob unigolyn yn benodol iddo fe.

Gall y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu i chi gynnwys: 

  • cynnig argymhellion a chymorth ymarferol ar sut i ddatrys problemau arbennig yn ddiogel. Gall hyn gynnwys eich cynghori ar ddefnyddio technegau newydd i ymdopi’n well â bywyd bob dydd (fel gwisgo, ymolchi, cael bath neu gawod, symudedd, coginio a bwyta prydau, trosglwyddo i’r gwely, cadair neu’r toiled neu oddi arnyn nhw)
  • goresgyn colli symudedd a deheurwydd drwy ddarparu offer arbenigol i helpu gyda thasgau bob dydd 
  • edrych ar ffyrdd i addasu’ch cartref fel ei fod yn fwy hygyrch a thrafod grantiau rydych chi’n gymwys ar eu cyfer nhw i’ch helpu chi i dalu am y gwaith 
  • eich cynghori ynghylch y dewisiadau sydd gyda chi pan fyddwch chi’n ystyried symud i lety mwy addas, os bydd addasu’ch cartref presennol yn anodd
  • darparu cymorth a chyngor ymarferol i’ch cynhaliwr, os oes un gyda chi, i’w alluogi i barhau i ofalu amdanoch chi mewn modd diogel a chyfforddus
  • eich anfon chi at ein Carfan Ail-alluogi pe baen ni’n cytuno y byddech chi’n elwa o gyfnod o adferiad ymarferol i wella’ch annibyniaeth ac ansawdd eich bywyd

Gwasanaeth Ymateb ar Unwaith 

E-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn:  01443 425003

Mae’r Gwasanaeth Argyfwng Tu allan i oriau yn ymateb ar frys i argyfwng gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar wŷl y banc ac ar y penwythnos. Ffôn: 01443 743665 / 01443 657225