Skip to main content

Cerdyn Argyfwng i Gynhalwyr

Ydych chi'n poeni ynghylch beth fyddai'n digwydd i'r sawl rydych chi'n rhoi gofal iddo petaech chi'n mynd yn sâl neu'n cael damwain?

Os YDYCH chi, efallai byddai Cerdyn Argyfwng Gwasanaeth Cymorth Rhondda Cynon Taf o gymorth i dawelu'ch meddwl chi.

Pobl sy'n rhoi gofal yn lleol ofynnodd am y gwasanaeth, oherwydd roedden nhw'n poeni ynghylch beth fyddai'n digwydd petaen nhw allan ar eu pennau'u hunain ac yn cael damwain neu'n mynd yn sâl. Roedden nhw eisiau gwasanaeth allai dawelu'u meddyliau a oedd ar gael drwy'r dydd, bob dydd. Roedden nhw hefyd eisiau gwasanaeth fyddai'n rhoi'r diogelwch gorau posibl i'r bobl roedden nhw'n rhoi gofal iddyn nhw.

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio

Byddwch chi'n gallu mynd â'r cerdyn, sydd yr un maint â cherdyn credyd, gyda chi ar bob adeg. Byddai'n cael ei ddefnyddio fel cerdyn adnabod pe baech chi mewn damwain neu'n mynd yn sâl yn sydyn. 

Bydd Gwasanaeth Gwifren Achub Bywyd (Lifeline) y Cyngor yn cadw cofnod o'ch rhif cofrestru a'ch manylion chi fel bod modd iddo drefnu cymorth i'r ddau ohonoch, tra byddwch chi'n cael sylw. Drwy wneud galwad sydyn, bydd rhywun wrth law i ofalu am y person yn eich lle.  Mae gweithwyr yn staffio’r Wifren Achub Bywyd 24 awr y dydd, bob diwrnod o’r flwyddyn.

Cyflwynwch gais ar-lein

Gwnewch gais am Gerdyn Argyfwng i Ofalwyr drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein
Bydd y ffurflen yma'n cynnwys gwybodaeth amdanoch chi, y sawl rydych chi'n rhoi gofal iddo a manylion am yr hyn byddai angen ei wneud petai argyfwng.
Cynllun Cynnal y Cynhalwyr

11-12 ffordd Gelliwastad
Pontypridd
CF37 2BW

Ffôn: 01443 281463