Skip to main content

Newyddion

Gwaith ar Stryd Fawr Llantrisant – Cwestiynau Cyffredin

Mae'r Cyngor wedi ateb Cwestiynau Cyffredin am y gwaith sylweddol i atgyweirio wal fawr ar Stryd Fawr Llantrisant – gan gynnwys pam mae angen y system draffig unffordd dros dro yn ei ffurf bresennol

29 Ebrill 2022

Diweddariad: Gwaith Dŵr Cymru ar Stryd yr Afon yn Nhrefforest

Mae Dŵr Cymru angen cau ffordd ychwanegol i gwblhau'r gwaith dargyfeirio i'r brif bibell ddŵr. Bydd yn digwydd dros benwythnos Gŵyl y Banc (8am ddydd Sadwrn, 30 Ebrill, tan 6am ddydd Mawrth, 3 Mai)

29 Ebrill 2022

Adroddiad Adran 19 - Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 - Cwm-bach

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'r trydydd adroddiad ar ddeg yn unol ag Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn dilyn Storm Dennis. Mae'r adroddiad yma'n canolbwyntio ar achosion y llifogydd yng Nghwm-bach

25 Ebrill 2022

Merch cyn-filwr Rhyfel y Falklands yn cofio ei thad

Mae merch milwr Rhyfel y Falklands a gafodd ei ladd pan fomiwyd llong y Sir Galahad 40 mlynedd yn ôl wedi ymroi'n llwyr i gadw'r cof amdano'n fyw.

25 Ebrill 2022

Dyn wedi'i erlyn am werthu nwyddau ffug

Mae dyn o Ferthyr Tudful wedi cael ei erlyn yn llwyddiannus gan Adran Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf am weithredu busnes twyllodrus ac am fwriadu gwerthu nwyddau ffug a oedd yn ei feddiant.

22 Ebrill 2022

Cau ffyrdd a gwasanaeth bws gwennol yn Nhonpentre ar ddydd Sul

Mae'r Cyngor angen cau ffordd ar y tri dydd Sul nesaf yn Nhonpentre, er mwyn cwblhau'r gwaith o osod wyneb newydd ac ail-leinio ar gyfer gwaith parhaus ar y gylchfan fach yn Heol yr Eglwys

22 Ebrill 2022

Leisure - May Bank Holiday Opening

Mae canolfannau Hamdden am Oes wedi cadarnhau eu horiau agor dros gyfnod y Gwyl Banc Calon Mai 2022

22 Ebrill 2022

Trefniadau traffig dros dro yn Llantrisant er mwyn gwneud atgyweiriadau hanfodol i wal

Bydd system draffig unffordd dros dro yn cael ei gweithredu ar y Stryd Fawr a Stryd yr Eglwys yn Llantrisant. Mae hyn i sicrhau amgylchedd diogel i ddefnyddwyr y ffyrdd, cerddwyr a'r gweithlu, wrth i waith atgyweirio i wal gynnal barhau

20 Ebrill 2022

Wythnos Coetsys Cenedlaethol 2022

Mae Croeso Rhondda Cynon Taf yn Ne Cymru wedi croesawu cynrychiolwyr o Wythnos Coetsys Cenedlaethol 2022, am fod yr ardal yn un o brif gyrchfannau i grwpiau ar deithiau coetsys a bysiau.

20 Ebrill 2022

Gwaith atgyweirio ac adnewyddu ar Bont Imperial, Porth

Mae'r Cyngor yn rhoi rhybudd ymlaen llaw am gynllun adnewyddu sydd i'w gynnal ar Bont Imperial, Porth. Bydd angen cau ffordd ar ran y bont o Heol Pontypridd a bydd angen trefniadau bws dros dro yn lleol.

13 Ebrill 2022

Chwilio Newyddion