In Partnership with Rhondda Cynon Taf County Borough Council

Mae Carl yn Ysbrydoliaeth i Bawb

Cary May 2

Cafodd Carl May ei eni â phroblemau iechyd a chyflwr sy'n peryglu'i fywyd. Serch hynny, mae wedi cael gyrfa lwyddiannus gyda Vision Products ac yn byw bywyd prysur a llawn. 

Cafodd Carl, 46, ei eni ag un aren. Stopiodd yr aren honno weithio yn 1993, a chafodd Carl drawsblaniad yn 1995. Ond pum mlynedd yn ddiweddarach, methodd ei aren newydd ac mae Carl wedi bod ar ddialysis tair gwaith yr wythnos byth ers hynny. 

Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Trealaw ac Ysgol Gyfun y Porth, dechreuodd Carl weithio gyda chwmni Vision Products y Cyngor ym mis Rhagfyr 2001 - fel gyrrwr yn wreiddiol, cyn symud ar ôl wythnos i weithio'n y siop. A dyw e heb edrych yn ôl unwaith. 

Gyda chefnogaeth ei gyflogwr, mae Carl wedi parhau i weithio drwy gydol ei driniaeth. Mae e wrth ei fodd yn ei swydd ac yn gyd-weithiwr heb ei ail yn Vision Products. 

Carl, sy'n byw yng Nghwm Rhondda, yw goruchwyliwr PVCu y cwmni. Mae'n gyfrifol am oruchwylio gwaith y ffatri a'r siopau a hefyd yn rheoli gwneuthuriad a phroses adeiladu pob ffenest PVCu. 

Mae'n cynnig cymorth i'w garfan a phob aelod o staff ifanc a phrentisiad ac yn eu mentora. 

Mae Carl a'i garfan ymroddedig hefyd wedi bod yn gweithio ar greu cynllun llawr newydd i'r ffatri sy'n seiliedig ar ei syniadau ef. Roedd yn gweld potensial i wella llif cynhyrchiad ffenestri yn Vision Products. 

Ers i'r cynllun llawr newydd gael ei weithredu, mae effeithiolrwydd y broses gynhyrchu wedi gwella. 

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a'r Gymraeg: "Rydyn ni'n falch iawn o'r gweithlu cyfan yn Vision Products. Mae Carl wedi profi gymaint yn ei fywyd hyd yma ac mae ganddo gefnogaeth anhygoel wrth ei deulu a phawb yn y Cyngor a Vision Products. 

"Mae Carl a'i garfan wedi gweithio'n galed iawn i wireddu eu syniadau ac maen nhw wedi perchnogi a chymryd cyfrifoldeb am y cynllun. 

"Mae Carl yn unigolyn ymroddedig sy'n chwilio am ffyrdd newydd i wella darpariaeth, safon a dull cynhyrchu Vision Products o hyd - a thrwy gydol hyn mae e wedi llwyddo i weithio wrth gael triniaeth sy'n ei gadw'n fyw, sy'n wirioneddol ryfeddol. 

"Mae e'n unigolyn ysbrydoledig, sy'n amlwg eisiau parhau yn ei waith a dyw e byth, byth yn gofyn am driniaeth ffafriol. Mae Carl yn aelod hynod werthfawr a hollbwysig o garfan Vision Products ac mae ganddo flynyddoedd o brofiad, gwybodaeth ddi-ben-draw ac mae'n chwilio o hyd am ffyrdd arloesol i wella ei adran."

Doedd Carl ddim yn ymwybodol o'i gyflwr tan ei fod yn 18 oed, ac erbyn hyn mae e wedi bod ar y rhestr am drawsblaniad aren ers tair blynedd. Oni bai am 10 drallwysiad gwaed, fyddai e ddim yn fyw heddiw. 

Cafodd wybod bod y tebygolrwydd o ddod o hyd i drawsblaniad wedi gostwng i uchafswm o 15% ymhlith poblogaeth y byd. 

O ganlyniad i hynny, mae Carl wedi'i ddewis i gael triniaeth arloesol. Os fydd hynny'n llwyddiannus, mae modd dyblu'r siawns yna o gael aren i 30%. 

Dywedodd Carl May: "Dwi wedi cael cefnogaeth anhygoel gan Vision Products o'r cychwyn cyntaf, a hoffwn ddiolch i'r cwmni am wneud addasiadau yn y gweithle sy'n fy ngalluogi i barhau i weithio wrth ymweld â'r ysbyty tair gwaith yr wythnos ar gyfer dialysis. 

"Mae'n siŵr fydden i wedi marw heb y driniaeth yma, a gobeithio fydda' i'n gymwys am drawsblaniad aren arall cyn bo hir. Heb os, mae gweithio yn Vision Products yn rhoi rhywfaint o normalrwydd i fi."

Mae Vision Products yn fusnes sy'n cael ei gefnogi gan Gyngor RhCT. Mae'n darparu cyflogaeth a chyfleoedd datblygu i bobl gydag anableddau yn yr ardal.

Daw'r cyfleoedd hyn o ganlyniad i ddarpariaeth adran gweithgynhyrchu PVCu, y Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig, Siopau Symudedd a'r Adran Technoleg a Gwasanaethu.

Ar ôl adleoli i Bont-y-clun 25 mlynedd yn ôl, mae cwmni Vision Products wedi tyfu'n aruthrol dros y blynyddoedd, ond mae ei brif amcanion a gwerthoedd wedi aros yr un fath. 

Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae Vision Products wedi arallgyfeirio ei ddarpariaeth gwasanaeth ac mae bellach yn fusnes ffyniannus, gyda chronfa cwsmeriaid bellach yn cael ei ymestyn i Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd a Chymdeithasau Tai ledled Cymru.

Cyhoeddwyd: Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2019

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21st Ebrill 2020
VP-Feedback-Tab