Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Hafan

Vision Products

Rydyn ni'n darparu ystod amrywiol o gynnyrch a gwasanaethau wrth ddarparu cymorth, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i unigolion ag anableddau yn y gymuned leol.

Team-Icon

Pwy ydyn ni

Mae Vision Products yn fusnes sy'n cael ei gefnogi ac sy'n rhan o Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'n darparu cymorth  ystyrlon, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau.

Team-Work-Icon

Beth ydyn ni'n ei wneud

Rydyn ni'n cynnig ystod amrywiol o gynnyrch a gwasanaethau i'r sector cyhoeddus a'r sector preifat, sy'n ein galluogi ni i gefnogi unigolion ag anableddau yn y gymuned ac yn ein gweithlu.

Ein Cynnyrch a'n Gwasanaethau
Vision-Mobility-Showroom

Vision Mobility

Dewch i ymweld ag un o'n siopau Symudedd, lle rydyn ni'n arbenigo mewn cymhorthion byw bob dydd a chynnyrch symudedd!

Vision-Products-UPVC---Web-Images-55

Vision Windows

Rydyn ni'n arbenigwyr mewn gweithgynhyrchu a gosod Ffenestri a Drysau PVCu o safon yn Ne Cymru ers dros 25 blynedd.

Community-Equipment-Maintenance

Technoleg a Gwaith Cynnal a Chadw

Mae gyda ni garfan sy'n arbenigo mewn gwaith gosod a gwasanaethu ystod amrywiol o offer.

Lifeline-Vision-Mobility-Lady

Gwifren Achub Bywyd a Theleofal

Rydyn ni'n gweithredu gwasanaeth gosod a chynnal a chadw ar gyfer gwifren achub bywyd a gwasanaethau teleofal yn Ne Cymru.

Community-Equipment-Stock

Y Gwasanaethau Offer Cymunedol

Rydyn ni'n darparu gwasanaeth dosbarthu, casglu ac adnewyddu ar gyfer ystod eang o gyfarpar yn ein cymunedau lleol.

Croeso i Vision Products
Pam ein Dewis Ni?
Y Bobl - Y Gymuned - Gwasanaeth o Ansawdd
Vision-Products-Tick

Gwneud Gwahaniaeth  

Trwy weithio gyda ni, byddwch chi'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Byddwch chi'n gwneud hynny trwy ddarparu cyfleoedd gwaith i unigolion ag anableddau yn y gymuned leol.

Vision-Products-Tick

Ansawdd wedi'i Warantu

Caiff ein cynnyrch a'n gwasanaethau eu cyflawni i'r safon achrededig uchaf posibl a hefyd am bris cystadleuol ar gyfer pob un o'n cwsmeriaid. Caiff hyn ei adlewyrchu gan ein henw da yn y diwydiant

Vision-Products-Tick

Rhan o Gyngor RhCT

Rydyn ni'n falch o fod yn fusnes sy'n derbyn cymorth ac sy'n rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Vision-Products-Tick

Ein cwsmeriaid sy'n dod gyntaf

Rydyn ni wedi treulio dros 25 o flynyddoedd yn perffeithio ein gwasanaeth, gan ddarparu gofal i gwsmeriaid wedi'i deilwra a heb ei ail ar draws y busnes.

 

Achrediadau
Vision Products - Gwneud Gwahaniaeth
Ein Cyflawniadau 2019

Nifer y Staff a Gefnogwyd

60

Nifer y Tunelli a Ailgylchwyd

191.44

Gwasanaethau a Gyflawnwyd

4,478

Nifer y Ffenestri a Gynhyrchwyd

3629

Pwy Rydyn ni'n Gweithio â Nhw