Skip to main content

Newidiadau Arfaethedig i Gasgliadau Sbwriel - o Finiau i Fagiau

Mae'r Cabinet yn ystyried cynigion i safoni casgliadau gwastraff ledled Rhondda Cynon Taf.

Bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor i'w drafod ddydd Mercher, 17 Gorffennaf  - dyma'r adroddiad llawn 

Byddai'r gwelliannau arfaethedig, pe bydden nhw'n cael eu cymeradwyo, yn arwain at gyflwyno casgliadau bagiau du ar draws POB ardal o'r Fwrdeistref Sirol.

Mae'r cynigion yma'n golygu y bydd angen i BOB preswylydd, gan gynnwys y rhai sy'n byw yn ardaloedd Cwm Cynon a Thaf-elái, roi eu gwastraff cyffredinol allan i'w gasglu mewn uchafswm o DRI bag du maint safonol (70L) YN UNIG (yn unol â'r lwfans presennol) o fis Medi 2024.

O dan y cynigion byddai:

  • DIM NEWID i ba mor aml y cesglir gwastraff preswylwyr, a fydd yn dal i fod bob 3 wythnos,
  • DIM NEWID i’r terfyn uchaf o 3 bag du fesul aelwyd, felly bydden nhw'n gallu rhoi’r un nifer o fagiau allan i'w casglu,
  • DIM NEWID i'w diwrnod na'r amser casglu.

 

3 bags

O dan y cynigion mae hawl i breswylwyr gadw biniau ar olwynion a'u defnyddio i storio sbwriel nes y diwrnod casglu, ond byddai angen tynnu'r bagiau du o'r biniau a'u rhoi allan i'w casglu ar ddiwrnod ac amser casglu arferol y preswylydd.

3 bags3 weeks 123 street

Byddai’r cynigion yn sicrhau:

  • Byddai preswylwyr ac ymwelwyr yn elwa ar strydoedd cliriach ar ôl casglu'r bagiau, trwy gael gwared ar y biniau sy'n achosi rhwystrau ar balmentydd rhwng casgliadau.
  • Troedffyrdd cliriach i bobl â nam ar eu golwg ac anableddau corfforol rhwng casgliadau.
  • Bydd y Cyngor yn derbyn llai o gwynion am finiau'n cael eu gadael ar y droedffordd ar ôl eu casglu.
  • Fydd dim rhaid i breswylwyr lusgo na chario biniau ar olwynion drwy eu cartrefi nac i fyny ac i lawr grisiau'r ardd.
  • Mae modd defnyddio cerbydau llai i gasglu bagiau du os dydy lorïau casglu mwy ddim yn gallu mynd i lawr stryd oherwydd bod ceir wedi'u parcio yno.
  • Bydd costau is drwy gael fflyd gasglu safonol ledled RhCT 
  • Mae gwasanaethau casglu gwastraff yn fwy effeithlon ar gyfer ein preswylwyr.
  • Mae'r Cyngor yn gwarchod ei amgylchedd lleol a'i strydlun wrth iddo ymdrechu i gadw'r Fwrdeistref Sirol yn lân, yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

Bydd hyn yn golygu:

3 bags3 weeks 123
  • Caiff cartrefi sy'n defnyddio bagiau du roi uchafswm o DRI bag du safonol (dim mwy na 70l) allan i'w casglu bob tair wythnos.
  • Mae modd cadw biniau ar olwynion ar gyfer storio gwastraff rhwng casgliadau, ond does DIM HAWL eu rhoi allan ar gyfer casgliadau.
  • Byddwn ni’n dal ati i gasglu nifer diderfyn o fagiau ailgylchu sych, ailgylchu cewynnau, ailgylchu gwastraff bwyd ac ailgylchu gwastraff gardd (tymhorol) bob wythnos.

Bydd y newidiadau arfaethedig yn ein helpu i gyrraedd y targed ailgylchu o 70%.

Os caiff ei wneud yn gywir, mae modd ailgylchu 80% o'r holl wastraff sy'n cael ei gynhyrchu gan gartref cyffredin, gan gynnwys cewynnau, gwastraff bwyd a gwastraff gardd. Rydyn ni'n casglu'ch gwastraff ailgylchu o ymyl y ffordd yn wythnosol am ddim, neu mae modd i chi fynd ag ef i'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned.

Gallai'r rheiny sy'n mynnu peidio ag ailgylchu wynebu dirwy o £100. Caiff dirwyon eu rhoi ar ôl cynnal ymgyrchoedd gwella ymwybyddiaeth ac ar ôl i gartref dderbyn hysbysiadau oddi wrth swyddogion gorfodi.

Bydd eithriadau i'r terfynau sydd wedi'u gosod ar wastraff bagiau du/biniau, a fydd yn cael eu diddymu dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Mae modd i gartrefi ag amgylchiadau eithriadol, gan gynnwys y rhai sy’n cael gwared ar ludw does dim modd ei ailgylchu, ofyn am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol ar-lein neu ofyn am Gasgliad â Chymorth ar-lein.