Skip to main content
`

Cwestiynau cyffredin am y newid arfaethedig o finiau i fagiau

Mae'n debyg y bydd gyda chi gwestiynau am y newidiadau arfaethedig, ac rydyn ni wedi ceisio ateb rhywfaint ohonyn nhw isod.

Beth yw'r newidiadau arfaethedig?

Os cytunir arnyn nhw byddai'r newidiadau arfaethedig yn golygu na fydd gwastraff cyffredinol yn cael ei gasglu o finiau ar olwynion o fis Medi 2024 ymlaen. Yn syml, bydd angen i breswylwyr roi eu bagiau du (uchafswm o 3, maint safonol (70 litr)) yn y man casglu ar eu diwrnod arferol.

Pryd byddai'r newidiadau yma'n dod i rym?

Os caiff y cynnig ei gymeradwyo, bydd y newidiadau yma'n dod i rym ym mis Medi 2024.

Ydw i'n gallu cadw fy min ar olwynion?

Os caiff ei gymeradwyo, gall preswylwyr sy'n defnyddio bin ar olwynion ar hyn o bryd gadw'r bin i storio bagiau du rhwng casgliadau.

Pam mae'r Cyngor yn cynnig y newidiadau yma?

  • Bydd trigolion ac ymwelwyr yn elwa o strydlun gwell trwy gael gwared ar y biniau oddi ar y pafinau gan eu bod nhw'n rhwystro cerddwyr rhwng casgliadau; mae'r Cyngor yn derbyn llawer o gwynion am finiau ar droedffyrdd, yn enwedig ar strydoedd teras cul.
  • Bydd modd i'r Cyngor ddefnyddio ei fflyd casglu gwastraff yn fwy effeithlon trwy gael cerbydau safonol ar draws RhCT.
  • Fydd dim rhaid i breswylwyr lusgo na chario biniau ar olwynion drwy eu cartrefi nac i fyny ac i lawr grisiau'r ardd.
  • Bydd modd i'r Cyngor ddefnyddio cerbydau llai eraill i gasglu bagiau du os nad yw lorïau casglu mwy yn gallu mynd i'r stryd oherwydd ceir wedi parcio. 

A fydd Treth y Cyngor yn gostwng oherwydd eich bod yn bwriadu newid y casgliadau?

Na fydd. Mae'r Cyngor yn dal ati gyda'i wasanaeth casglu ailgylchu wythnosol fel bod modd i drigolion gael gwared ar eu gwastraff. Ar ben hynny, mae gwasanaethau ychwanegol ar gael sy'n cynnwys ailgylchu cewynnau, ailgylchu gwastraff gwyrdd a gwastraff bwyd ynghyd â Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Byddai unrhyw arbedion effeithlonrwydd o ganlyniad i'r cynigion yn cael eu hail-fuddsoddi yng ngwasanaethau'r Cyngor ac yn gwella'r gwasanaethau ailgylchu a gwastraff rydyn ni'n eu darparu. 

A fydd fy nghasgliadau â chymorth yn parhau oherwydd fy anabledd/anallu i gyrraedd fy man casglu bin arferol?

Byddan. Bydd unrhyw gytundeb sydd yn ei le ar hyn o bryd i gynorthwyo gyda chasglu bagiau/biniau yn parhau os bydd y cynigion yn dod i rym. Os nad oes gennych chi gytundeb ar waith ond yn teimlo y byddai'r newidiadau arfaethedig yn golygu bod angen casgliadau â chymorth arnoch chi, mae modd gwneud cais ar-lein am Gasgliadau â Chymorth, ond byddwch cystal ag aros nes y bydd penderfyniad terfynol wedi'i gadarnhau cyn gwneud hyn.

A oes modd i fi fynd â fy magiau du i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned?

Nac oes. Dydy Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ddim yn derbyn gwastraff bagiau du neu eitemau ailgylchu cartref – dydyn nhw erioed wedi derbyn yr eitemau yma. Rhaid rhoi y rhain yn y man casglu yn rhan o'ch casgliad ymyl y ffordd.

A oes unrhyw newidiadau i ailgylchu?

Dydy'r cynigion ddim yn cynnwys newid eich casgliadau ailgylchu wythnosol.

 

  • Byddwn ni’n dal ati i gasglu nifer diderfyn o fagiau ailgylchu sych, ailgylchu cewynnau, ailgylchu gwastraff bwyd ac ailgylchu gwastraff gardd (tymhorol) bob wythnos.

Sut galla i leihau fy ngwastraff biniau du?

Mae modd ailgylchu hyd at 80% o wastraff, felly bydd modd cael gwared ar y rhan fwyaf o wastraff eich cartref bob wythnos. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ailgylchu bwyd, plastigion, papur, cewynnau, gwastraff gwyrdd a rhagor, ewch i www.rctcbc.gov.uk/Ailgylchu

Pa faint y dylai’r bagiau du fod?

Cynigir y bydd 3 bag du safonol (70l) yn cael eu casglu. Fyddai unrhyw fagiau du sy'n rhy fawr ddim yn cael eu casglu, na bagiau du maint bin ar olwynion/maint diwydiannol.

Oes rhaid i'r bagiau fod yn ddu?

Oes. Os caiff y cynnig ei gymeradwyo bydd angen i'r bagiau fod yn ddu a dim mwy na 70l. Dydy'r carfanau gwastraff ddim eisiau casglu bag sydd wedi'i fwriadu ar gyfer elusen trwy gamgymeriad. Mae defnyddio bagiau du ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn cael gwared ar unrhyw ddryswch.

Ga i adael fy min ar olwynion ar y briffordd rhwng casgliadau?

Na chewch. Mae'r cynigion yn cynnwys symud pob bin o'r briffordd a'u cadw o fewn ffiniau eich eiddo i'w defnyddio at ddibenion storio YN UNIG. Fydd bagiau du sydd mewn biniau ar olwynion ar ymyl y ffordd DDIM yn cael eu casglu.

 

Byddai angen tynnu bagiau du allan o'r biniau a'u rhoi yn y man casglu ar ddiwrnod ac amser casglu arferol y preswylydd.

Allwch chi fy helpu i os ydw i'n cael trafferth cario fy magiau du i'r man casglu?

Gallwn. Rydyn ni bob tro yma i helpu preswylwyr cymaint â phosibl a bydd modd i breswylwyr wneud cais am lwfans bagiau du ychwanegol a fydd yn caniatáu iddyn nhw gael rhagor o fagiau du. Bydd hyn yn eu galluogi i'w defnyddio nes eu bod nhw'n hanner llawn fel eu bod nhw'n haws eu cario. Os yw preswylwyr yn dal i gael trafferth, gallan nhw hefyd wneud cais am gasgliad â chymorth. 

 

Gwnewch gais ar-lein am lwfans bagiau du ychwanegol.

Mae modd ichi ofyn am gasgliad â chymorth ar-lein.

Sut mae modd cael gwared ar wastraff anifeiliaid?

Rhaid rhoi gwastraff cathod a chŵn yn eich bagiau du. 

 

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y tudalennau yma.

 

Os ydych chi'n credu y byddech chi'n cael trafferth o ganlyniad i'r newidiadau arfaethedig, mae hefyd modd gwneud cais am lwfans bagiau du ychwanegol ar y tudalennau hyn.

Beth fydd yn digwydd os bydd gen i fwy na 3 bag du rhai wythnosau?

Gan fod modd ailgylchu tua 80% o wastraff y cartref, gallwch chi sicrhau nad yw'r bagiau du'n cael eu gorlenwi trwy dynnu unrhyw eitemau y mae modd eu hailgylchu allan ohonyn nhw. Mae hyn yn cynnwys unrhyw eitemau y mae modd eu hailgylchu mewn Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned, gan gynnwys llyfrau a thecstilau.

 

Mae gan y Cyngor garfan o Swyddogion Ymwybyddiaeth profiadol sy'n gallu rhoi cyngor ar bob mater sy'n ymwneud ag ailgylchu yn y cartref. 

 

Os ydych chi'n credu y byddech chi'n cael trafferth o ganlyniad i'r newidiadau arfaethedig, mae hefyd modd gwneud cais am lwfans bagiau du ychwanegol ar y tudalennau hyn.

 

A oes unrhyw newidiadau yng Nghwm Rhondda?

Does dim unrhyw newidiadau arfaethedig i gasgliadau gwastraff yng Nghwm Rhondda.

 

Mae trigolion Cwm Rhondda wedi bod yn rhoi bagiau du ar ymyl y stryd i’w casglu ers nifer o flynyddoedd a byddai’r cynnig yma'n sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol gyfan yn dilyn yr un drefn ac yn gweithredu gwasanaeth gwastraff safonol i BAWB. 

 

Ar hyn o bryd mae trigolion Cwm Rhondda yn ailgylchu tua 30% yn fwy* ac yn rhoi tua 50% yn llai* o wastraff bagiau du allan na thrigolion yr ardaloedd cyfagos. 

A fyddwch chi'n disgwyl i drigolion ag anableddau megis nam ar eu golwg a dementia gydymffurfio â’r newidiadau arfaethedig yma?

Rydyn ni'n deall y posibilrwydd y bydd angen rhagor o gymorth ar rai preswylwyr oherwydd eu hamgylchiadau personol. Mae modd gwneud cais ar-lein am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol. Gallwch chi wneud cais ar-lein am Gasgliad â Chymorth.

Sut ydw i'n cael gwared ar wastraff meddygol?

Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod gan rai trigolion anghenion penodol. Caiff gwastraff clinigol ei gasglu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Mae Gwastraff Clinigol yn cynnwys: Offer meddygol miniog – (nodwyddau, chwistrelli neu offer miniog eraill) – wedi'u storio mewn biniau miniog melyn Gwastraff clinigol peryglus – (dresin neu rwymynnau wedi'u halogi â gwaed a gwastraff dialysis) – yn cael eu storio mewn bagiau gwastraff clinigol oren Padiau anymataliaeth a stoma, dydy gwastraff cathetr/colostomi ddim yn rhan o gategori Gwastraff Clinigol – rhaid cael gwared ar y gwastraff yma yn eich bag du domestig.

 

Os oes angen casgliad gwastraff clinigol arnoch chi, ffoniwch y Gwasanaeth Negesydd Iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 0300 123 9208.

 

Mae modd gwneud cais ar-lein am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol. Mae hefyd modd gwneud cais ar-lein am Gasgliad â Chymorth.

Mae gen i fag STOMA ac mae hyn yn achosi i mi orlenwi fy magiau, beth alla i ei wneud?

Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod gan rai trigolion anghenion penodol. 

 

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd cadw at y cyfyngiad bagiau du oherwydd amgylchiadau personol, mae modd i chi wneud cais ar-lein am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol.

Mae sawl anifail anwes gen i – beth ydw i'n ei wneud gyda'u gwastraff nhw?

Mae angen rhoi gwastraff anifeiliaid mewn bag, ei glymu a'i roi yn eich bag du a'i roi allan i'w gasglu.

 

Mae modd i chi hefyd fynd â bagiau du sy'n cynnwys gwastraff anifeiliaid i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned agosaf

 

Mae modd ailgylchu blawd llif sydd wedi'i ddefnyddio mewn cwt anifeiliaid bach, e.e. moch cwta, cwningod, llygod. Rhowch y blawd llif yn eich sach WERDD amldro a byddwn ni'n ei chasglu yn rhan o'ch gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd wythnosol. 

 

Cofrestrwch ar gyfer Casgliadau Ailgylchu Gwastraff Gwyrdd yma.

 

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd defnyddio dim ond hyn a hyn o fagiau du oherwydd amgylchiadau personol, mae modd i chi gwneud cais ar-lein am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol.

A fydd cynnydd mewn tipio anghyfreithlon os aiff y cynigion yn eu blaenau?

Ni ddylai'r newidiadau arfaethedig effeithio ar lefelau tipio anghyfreithlon – does dim esgus dros droseddau o'r fath. Mae llawer o'r tipio anghyfreithlon rydyn ni'n ei glirio yn cynnwys dodrefn, offer cartref a gwastraff adeiladu sydd ddim yn cael eu casglu o ymyl y ffordd. Os oes modd i chi yrru i fynydd neu lôn i gael gwared ar y pethau yma, mae modd i chi yrru i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned i'w gwaredu. Does DIM RHAID I CHI DALU i ddefnyddio'r canolfannau yma a byddai eu defnyddio nhw yn hytrach na llygru mynyddoedd neu lonydd yn osgoi dirwy fawr pan fyddwch chi'n cael eich dal. Rydyn ni hefyd wedi nodi'n glir y byddwn ni mor gymwynasgar â phosibl. Os oes gyda chi amgylchiadau personol rhesymol sy'n ei gwneud hi'n anodd cydymffurfio â'r cyfyngiadau, cysylltwch â ni. Byddai eitemau o'r fath yn cael eu gwaredu drwy'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned neu drwy gasgliad gwastraff swmpus sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw. Mae’r cyfyngiad rydyn ni wedi’i osod ar gasgliadau gwastraff yn seiliedig ar y ffaith bod modd ailgylchu 80% o wastraff y cartref – gan gynnwys cewynnau, gwastraff bwyd a gwastraff gwyrdd. Os ydych chi'n ailgylchu cymaint â phosibl, dylai'r cyfyngiadau fod yn ddigon. 

 

Rydyn ni'n deall bod rhai amgylchiadau personol a all effeithio ar allu aelwyd i gadw at y cyfyngiadau ac mae modd gwneud cais ar-lein am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol.

A fydd mwy o ddrewdod a mwy o fermin os aiff y cynigion yn eu blaenau?

Mae llygod mawr a fermin yn cael eu denu at wastraff bwyd mewn sachau du, felly os ydych chi'n yn defnyddio’r ystod lawn o wasanaethau ailgylchu wythnosol, yn enwedig gwastraff bwyd, ni ddylai fod llawer iawn yn eich bagiau/biniau du o gwbl. Ddylai fod dim drewdod felly a dim rheswm i ddenu plâu ychwanegol. Mae modd gwneud cais ar-lein i gofrestru ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd.

 

Rydyn ni yma i helpu a chynghori trigolion ar sut i ailgylchu ac os ydych chi'n teimlo y byddwch chi'n cael trafferth ymdopi â'r newidiadau arfaethedig, mae modd gwneud cais ar-lein am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol.

Beth am deuluoedd mwy sydd eisoes yn ailgylchu cymaint â phosibl ond a fydd yn dal i gael trafferth gyda'r newidiadau arfaethedig?

Caiff cartrefi roi uchafswm o DRI bag du safonol (dim mwy na 70l) allan i'w casglu bob tair wythnos. 

 

Rydyn ni o'r farn os ydych chi'n ailgylchu cymaint ag y bo modd, yna dylai'r nifer yma o fagiau/biniau du fod yn ddigon ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

 

Os ydych chi'n credu y byddech chi'n cael trafferth ymdopi â'r newidiadau arfaethedig, mae modd gwneud cais ar-lein am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol, ond byddwch cystal ag aros nes y bydd penderfyniad terfynol wedi'i gadarnhau cyn gwneud hyn.