Mae Diwrnod Menopos y Byd yn cael ei gynnal ar 18 Hydref bob blwyddyn. Diben y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth am y menopos a'r cymorth sydd ar gael.
Thema Diwrnod Menopos y Byd eleni yw Therapi Hormonau Menopos.
Mae'r Gymdeithas Menopos Ryngwladol wedi paratoi'r pamffled yma er mwyn gwella dealltwriaeth am y menopos, a sut mae modd ei reoli a'i drin.
Beth ydyn ni'n ei wneud er mwyn cefnogi ein staff?
Grŵp Cymorth Menopos
Rydyn ni wedi sefydlu Grŵp Cymorth Menopos. Mae'r grŵp yma:
- Ar gael i bawb, ni waeth eich oed, rhyw, neu rywedd. Mae deall y menopos yn gyfrifoldeb ar bawb!
- Yn lle parchus a diogel ble bydd modd rhannu profiadau, dysgu oddi wrth ein gilydd a gofyn cwestiynau.
Pe hoffech chi ymuno â'n grŵp, cwblhewch y ffurflen isod: https://forms.office.com/e/WUs167aP8s
Fel arall, e-bostiwch y Llinell Gymorth Lles i Staff LlinellGymorth@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 424100.
Nodwch, trwy ymuno â'r grŵp yma rydych chi'n rhoi caniatâd i ni eich ychwanegu i'r sianel Teams a derbyn gohebiaeth yn ymwneud â'r grŵp
Caffi'r Menopos
Rydyn ni, yn y Garfan Iechyd Galwedigaethol, hefyd yn cynnal caffi menopos sy'n rhoi cyfle i ddysgu rhagor am y menopos ac am brofiad y menopos, yn ogystal â thrafod argymhellion am sut i reoli rhai symptomau cyffredin.
Am ragor o wybodaeth ac am ddyddiadau'r sesiwn yma sydd i ddod, cliciwch yma: 'Dewch i ni Siarad'
Your Care
|