Skip to main content

Fis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron.

 
 
Date(s)
Dydd Mawrth 1 - Dydd Iau 31 Hydref 2024
Cyswllt

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, wedi’ch effeithio gan ganser, mae Maggies Cancer Care yn cynnig cymorth ac arweiniad emosiynol ac ymarferol. Ewch i'r wefan: Maggie's Cardiff | Maggie's (maggies.org)

Mae hefyd modd cysylltu trwy e-bost: cardiff@maggies.org neu ffonio 029 2240 8024

Registration URL
https://www.breastcanceruk.org.uk/breast-cancer-awareness-month/
Disgrifiad

Mae mis Hydref yn Fis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron.

Canser y fron yw'r math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU, gyda dros 55,000 o bobl yn cael diagnosis o'r clefyd bob blwyddyn.

Mae gofalu am eich bronnau'n bwysig i'ch helpu i sylwi ar unrhyw newidiadau yn edrychiad a theimlad eich bronnau. Gall hyn wedyn helpu gyda chanfod ac atal canser yn gynnar. Mae modd gweld y pamffled Gofalu am eich Bronnau yma, sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i wirio'ch bronnau a'r hyn y dylech fod yn chwilio amdano.

Gall canser y fron hefyd effeithio ar ddynion, ac yn aml caiff ei ganfod yn ddiweddarach mewn dynion nag mewn menywod. Mae modd gweld mwy o wybodaeth am sut y gall dynion wirio eu hunain yn ogystal â sut y gallant leihau eu risg o ddatblygu'r clefyd ar wefan Breast Cancer UK

Mae gan Breast Cancer UK wybodaeth ac adnoddau ar gyfer pobl drawsryweddol hefyd, gan gynnwys gwybodaeth am lefel risg a sgrinio.

Yn rhan o Fis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, bydd Diwrnod Gwisgo Pinc Breast Cancer Now yn cael ei gynnal ar 18 Hydref. Dyma un o'r digwyddiadau codi arian mwyaf yn y DU ac mae wedi codi miliynau o bunnoedd i elusen canser y fron. I gymryd rhan, llenwch y ffurflen gofrestru  yma a gwisgwch binc!