Mae profedigaeth yn rhywbeth y bydd y rhan fwyaf o unigolion yn ei brofi ar ryw adeg, ond gall fod yn un o'r profiadau mwyaf heriol i fynd drwyddo.
Weithiau gall fod yn anodd gwybod beth yw'r ffordd orau o gefnogi aelod o staff yn ystod y cyfnod heriol hwn tra'u bod nhw yn y gwaith neu’n absennol oherwydd profedigaeth.
Er mwyn helpu, rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â CASE UK, a fydd yn cynnal gweithdy 'Gadewch i ni siarad am alar'. Bydd y gweithdy yma'n addas ar gyfer rheolwyr a chydweithwyr Adnoddau Dynol a bydd yn canolbwyntio ar ddeall y broses alaru, sut i gefnogi rhywun sy'n profi profedigaeth a phryd y mae'n addas i atgyfeirio aelod o staff ar gyfer cymorth ychwanegol.