Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yng Nghanolfan Hyfforddi Hen Felin
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y ganolfan hyfforddi. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud
Mae Hyfforddiant Hen Felin yn darparu addysg yn seiliedig ar waith i bobl yn Rhondda Cynon Taf sydd dros 16 oed ac wedi gadael yr ysgol.
Fel arfer rydyn ni'n darparu'r cymwysterau lefel 2 a 3 canlynol:
- Y Blynyddoedd Cynnar
- Cynorthwyydd Addysgu
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gwneud Gwaith Cynhyrchu
O bryd i'w gilydd, mae'r ganolfan hefyd yn darparu cyrsiau eraill fel cymorth cyntaf, hylendid bwyd a gwaith codi a chario, er mwyn gwella cyfleoedd cyflogaeth y dysgwyr.
Mae'r ganolfan hefyd yn darparu addysg i ddysgwyr 18 oed neu'n hŷn ar ffurf prentisiaethau mewn Gofal, Blynyddoedd Cynnar a Chymorth Addysgu fel is-ganolfan ar gyfer ACT sy'n gwmni hyfforddi yng Nghaerdydd.
Yn yr hysbysiad yma, rydyn ni'n cyfeirio at y bobl rydyn ni'n darparu hyfforddiant ar eu cyfer fel 'dysgwyr' ond mae'r term yma hefyd yn cynnwys hyfforddeion a phrentisiaid.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Mae'r mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu casglu a'u defnyddio yn ymwneud â'r dysgwr e.e. prentisiaid a bydd fel arfer yn cynnwys
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac ati
- Dyddiad geni a rhyw
- Statws anghenion dysgu ychwanegol, angen / anhawster dysgu ychwanegol
- Cyrhaeddiad addysgol
- Asesiad a chynnydd ar y cwrs sy'n cael ei ddilyn
- Presenoldeb ar y cwrs
- Gwybodaeth iechyd
- Manylion cyflogaeth
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ddysgwyr y gorffennol a'r presennol sy wedi derbyn gwasanaethau wrthyn ni.
Weithiau rydyn ni hefyd yn cadw manylion cyswllt mewn argyfwng ar gyfer rhiant, cynhaliwr neu berthynas agosaf y dysgwyr, gan gynnwys:
- Enw, cyfeiriad, rhif ffôn cartref a gwaith, perthynas â'r dysgwr
Byddwn ni hefyd yn cadw gwybodaeth am gyflogwyr prentisiaid. Mae modd i hyn gynnwys gwybodaeth bersonol:
- Manylion cyswllt y cyflogwr gan gynnwys enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost
- Gwybodaeth am y busnes gan gynnwys nifer y gweithwyr, trosiant ac ati
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Bydd yr wybodaeth uchod yn cael ei darparu gan:
- Dysgwyr yn uniongyrchol
- Rhieni/gwarcheidwaid
- Ysgolion
- Cyflogwyr
- ACT (y rhiant-gwmni ar gyfer prentisiaethau)
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma ar gyfer y rhesymau canlynol:
- Rhoi cyngor ac arweiniad i'r dysgwr wrth iddyn nhw fynd drwy'r cwrs
- Cynnig am gymwysterau allanol a'u dyfarnu
- Cysylltu â'r dysgwr yn achos absenoldeb heb ei esbonio neu absenoldebau hir
- Cysylltu â'r rhiant / gofalwr / cyswllt mewn argyfwng os oes angen
- Dod o hyd i gyllid
- Cysylltu â'r awdurdodau perthnasol neu'r gwasanaethau brys dan amgylchiadau lles neu ddiogelu
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma yw:
- Cyflawni dyletswyddau swyddogol y Cyngor a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y deddfau canlynol:
- Deddf Addysg 1996 a 2002
- Fframwaith cynllunio ac ariannu ôl-16 2013
- Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996
- Manyleb Safonau Prentisiaeth i Gymru 2013
- Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
Er mwyn i'r Gwasanaeth gyflawni ei ddyletswyddau a darparu'r gwasanaethau perthnasol i'r dysgwr, rydyn ni fel arfer yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r canlynol:
- Ysgolion - rhoi gwybod i'r ysgol am gais hyfforddi llwyddiannus a phresenoldeb yn ymwneud â phrotocolau diogelu
- ACT (y rhiant-gwmni ar gyfer prentisiaethau)
- Sefydliadau cymhwyster prentisiaeth (e.e. EDEXCEL ac ACW)
- Cyflogwr y prentis
- Llywodraeth Cymru
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am 6 blynedd. I'r rhai sydd dan 18 oed, bydd y cyfnod o 6 mlynedd yn dechrau pan fyddant yn cael eu pen-blwydd yn 18 oed.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltu â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost : Martyn.Silezin@rctcbc.gov.uk
Ffôn : 01443 744240
Trwy lythyr : Adran 14-19 Oed, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ
|