Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Adfywio

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Adfywio

 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion, a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yna, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Adfywio, Cynllunio a Thai. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn unol â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma'n esbonio pa ddata personol sy'n cael ei gasglu gan Wasanaeth Adfywio RhCT trwy'n gweithgareddau ni, a sut a pham rydyn ni'n defnyddio'r data yma.

Mae'r Gwasanaeth yn gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid yn rhanbarthol i sicrhau twf yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae cymunedau yn Rhondda Cynon Taf yn elwa o'r twf, trwy fuddsoddiad a chyfleoedd ledled De Ddwyrain Cymru. Mae hyn yn cynnwys cefnogi gwaith y Fargen Ddinesig, arwain ar ddatblygu ymyriadau adfywio (gan gynnwys cymorth cyllid) a phrosiectau; a dylanwadu ar ddarpariaeth ranbarthol yn y dyfodol. 

Rydyn ni'n cynorthwyo â'r broses o feithrin cyflogaeth drwy waith partneriaeth er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth orau bosibl o swyddi. Rydyn ni'n cefnogi'r economi ac yn galluogi tirfeddianwyr (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) i hyrwyddo datblygiad ar eu safleoedd. 

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth amdanoch chi, p'un a ydych chi'n cysylltu â ni ar-lein, dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu'n gwneud cais am gyllid. Byddwn ni'n casglu data personol amdanoch chi a phobl eraill sy'n gysylltiedig â chi os ydy hynny'n berthnasol.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu prosesu, fel arfer, yn cynnwys, lle bo hynny'n berthnasol:

  • Enw a chyfeiriad
  • Teitl y swydd ac enw'r cwmni
  • Gwybodaeth er mwyn cysylltu â chi, gan gynnwys rhif ffôn symudol neu rif ffôn tŷ a chyfeiriad e-bost
  • Manylion eich cyfrif banc
  • Tystiolaeth o fod yn berchen ar yr eiddo (gan gynnwys dogfennau Teitl y Gofrestrfa Tir), cyfrifon busnes a manylion hunanasesu
  • Manylion am werth yr eiddo a manylion y morgais
  • Gwybodaeth bersonol arall sy'n cael ei chyflwyno'n dystiolaeth i gefnogi'ch cais am gyllid. Bydd yr wybodaeth yma o bosibl yn cynnwys rhai o'r manylion canlynol, neu'r manylion yma i gyd:
    • Manylion am bobl eraill sy'n ddarostyngedig i'ch cais am gymorth grant, eich partner ac aelodau eraill eich cartref, partneriaid busnes a pherchnogion eiddo. 

Bydd yr wybodaeth sy'n cael ei chadw'n cynnwys rhai o'r manylion canlynol neu'r manylion yma i gyd:

  • Manylion personol, e.e. enw, cyfeiriad
  • Manylion cyswllt e.e. cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
  • Tystiolaeth o incwm a chynilion
  • Tystiolaeth o incwm a gwariant
  • Hysbysiad Galw am Dalu Treth y Cyngor
  • Gweithredoedd eiddo
  • Bil cyfleustodau, cofrestriad ar y gofrestr etholiadol leol a chyfriflenni banc
  • Rhif Cyfeirnod Treth Unigryw Cyllid a Thollau ei Mawrhydi
  • Prawf o forgais hunan-adeiladu neu forgais adeiladu ar ddewis sy wedi'i gymeradwyo gan fanc neu gymdeithas adeiladu
  • Prawf o warantî hunan-adeiladu arbenigol neu warantî adeiladu ar ddewis
  • Datganiad yn ymwneud â rheoli cymhorthdal
  • Affidafid ar gyfer tystysgrifau datblygu cyfreithlon neu dystiolaeth Seilwaith Cymunedol bod yr adeilad yn 'cael ei ddefnyddio'
  • Cytundebau cyfreithiol S106 (gan gynnwys yr holl sbardunau sy'n ymwneud â chytundeb, fydd yn cynnwys gwybodaeth ariannol)
  • Grant y Gyfadran – caniatâd yr Eglwys yng Nghymru i wneud gwaith adeiladu ar eglwysi.
  • Contract Cyflogaeth
  • Prydles eiddo
  • Gwerthusiadau datblygu i asesu dichonoldeb ariannol

Efallai byddwn ni'n derbyn/casglu'r wybodaeth ganlynol gan eraill i gefnogi'ch cais:

  • Enw, cyfeiriad a dyddiad geni
  • Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost
  • Manylion Banc
  • Cadarnhad o Berchenogaeth eich tŷ/eiddo (y tŷ/eiddo rydych chi'n gwneud cais am gymorth grant ar ei gyfer)
  • Cadarnhad o faint o amser rydych chi wedi bod yn y tŷ/eiddo
  • Cadarnhad o'ch hawl i ostyngiad yn Nhreth y Cyngor
  • Tystiolaeth eich bod yn berchen ar y tŷ/yr eiddo, neu yn denant yn y tŷ/yr eiddo
  • Hanes cynllunio
  • Ardrethi Annomestig Cenedlaethol

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae'r gwasanaeth yn cael eich gwybodaeth o nifer o ffynonellau:

  • Ffurflenni cais cyllid
  • Ymholiadau dros y ffôn, e-bost, llythyr, neu ymholiad ar-lein
  • Chwiliadau pridiannau tir lleol
  • Gwiriadau adfywio
  • Ymgynghoriad / / ymatebion holiadur – os ydych chi'n cymryd rhan
  • Ffurflenni ymgynghoriad ffurfiol
  • Ymatebion cymdogion
  • Deisebau
  • Ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Chwiliad Tŷ'r Cwmnïau
  • Chwilio ar y rhyngrwyd
  • Chwiliad y Gofrestrfa Dir
  • Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan sefydliadau eraill h.y. Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), Llywodraeth Cymru
  • Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan sefydliadau sector cyhoeddus eraill, e.e. atgyfeiriadau gan y gwasanaeth iechyd, yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan sefydliadau'r sector preifat, e.e. cyfreithwyr testun data, darparwyr morgais, asiantau neu gyflogwyr, landlordiaid preifat neu gymdeithasol
  • Meysydd gwasanaeth eraill yn y Cyngor, e.e. Treth y Cyngor, Budd-daliadau Tai, Ardrethi Annomestig Cenedlaethol
  • Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan awdurdodau lleol eraill, e.e. Cyngor Merthyr Tudful a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caiff data lleoliad dienw ei gymryd o ffonau symudol i fesur nifer yr ymwelwyr yng nghanol trefi, ond dydy hi ddim yn bosibl cysylltu hyn ag unigolion.

4.         Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

  • Darparu gwybodaeth i'n gwasanaeth cymorth i fusnesau
  • Prosesu a gweinyddu ystod o gymorth cyllid
  • Asesu, cymeradwyo a gwneud taliadau sy'n ymwneud â'ch cais am gyllid
  • Gwirio gydag adrannau eraill y Cyngor am gymorth cyllid. Mae hyn yn cynnwys Adran Ardrethi Annomestig Cenedlaethol, Adran Treth y Cyngor, yr Adran Drwyddedu a'r Adran Gorfodi
  • Hwyluso asesiad a chymeradwyaeth bosibl eich cais am Fenthyciad Gwella Cartrefi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf neu ddarparwyr 3ydd parti
  • Pan gawn ni ein penodi'n asiant. Cyflogi contractwyr preifat, cwmnïau cyfleustodau, peirianwyr arbenigol, a darparwyr offer arbenigol i gynllunio a chynnal gwaith â chymorth grant.
  • Gwneud taliadau i 3ydd partïon mewn perthynas â chymeradwyo'ch grant
  • Gwneud taliadau i chi mewn perthynas â'r gwasanaethau sydd wedi'u darparu
  • Yn rhan o'r broses o gofrestru Tâl Cyfreithiol mewn perthynas â'ch dyfarniad grant
  • Casglu adborth gan gwsmeriaid sy'n ymwneud â cheisiadau am gyllid.
  • Cysylltu â chi at ddibenion ymchwil fel bod modd inni wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig
  • Cysylltu â chi at ddibenion marchnata fel bod modd i ni hyrwyddo'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig a gwasanaethau rydyn ni o'r farn a fydd efallai o ddiddordeb i chi

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sail gyfreithiol ni ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol i fodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:

Gwybodaeth Bersonol:

Erthygl 6 1.(c),(e) – i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Deddf Lleoliaeth 2011
  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
  • Deddf Ynni 2016
  • Deddf Newid Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2016
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Strategaeth Twf Glân 2018 (BEIS)
  • Rhwymedigaethau cytundebol lle mae gofyn i unigolion ymrwymo i gytundeb neu ei gyflawni.

Fyddwn ni ddim yn casglu nac yn defnyddio data personol at ddibenion y tu hwnt i'n dyletswyddau statudol a chytundebol ac eithrio lle mae gyda ni eich caniatâd neu lle rydyn ni wedi rhoi gwybod i chi am y sail gyfreithiol berthnasol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yn y modd yma.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Er mwyn i'r Gwasanaeth Adfywio ymgymryd â'i ddyletswyddau, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth gyda'r canlynol:

Adrannau eraill y Cyngor:

  • Ardrethi Annomestig Cenedlaethol
  • Treth y Cyngor
  • Budd-daliadau Tai
  • Trwyddedu
  • Gorfodi
  • Cyfreithiol
  • Cyllid
  • Cludiant
  • Addysg
  • Parciau a Chefn Gwlad

Sefydliadau eraill megis:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Awdurdodau Lleol De-ddwyrain Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • DVLA
  • Llywodraeth Cymru

Unigolion eraill megis:

  • Aelodau Lleol, Aelodau o'r Senedd, Aelodau Seneddol
  • Datblygwyr, Adeiladwyr, Penseiri
  • Pobl sy'n byw yn yr eiddo
  • Landlordiaid preifat a chymdeithasol
  • Eich cynrychiolwyr cyfreithiol chi
  • Eich asiant/cynrychiolydd

7. Am ba mor hir gaiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Byddwn ni dim ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnon ni ei hangen i ddarparu'r gwasanaeth perthnasol ac i fynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau neu gwynion sy'n dod i law am hyn.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a sut i'w harfer nhw. 

9. Cysylltu â ni

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

E-bost:adfywio@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 281124

Drwy anfon llythyr: Y Gwasanaeth Adfywio, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU