Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Parcio

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gwasanaethau Parcio 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaethau Parcio. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

1. Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud.

  • Rheoli meysydd parcio'r Cyngor

  • Gorfodi rheoliadau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd.

  • Prosesu holl Hysbysiadau Tâl Cosb sy'n cael eu cyflwyno i gerbydau sydd wedi parcio'n anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf ac hefyd ar ran CBS Merthyr Tudful.

  • Dosbarthu trwyddedau parcio i breswylwyr

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw'r categorïau canlynol o wybodaeth am fodurwyr sydd wedi derbyn Hysbysiad Tâl Cosb am barcio'n anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ac sydd wedi herio, apelio neu gyflwyno sylwadau yn erbyn yr Hysbysiad.

 

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth ynghylch cerbydau sydd wedi’u parcio mewn modd anghyfreithlon a'u perchenogion cofrestredig, yn ogystal â'r wybodaeth mewn perthynas â deiliaid trwyddedu

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Manylion cyswllt, e.e. enw, cyfeiriad e-bost

  • Manylion y cerbyd

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu'n uniongyrchol gan y testun data. 

  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. 

  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan y Ganolfan Gorfodi Traffig. 

  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan asiantaethau gorfodi allanol (casglwyr dyledion). 

  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan y Tribiwnlys Cosbau Traffig.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n prosesu Hysbysiadau Tâl Cosb a thrwyddedau parcio. Mae'r swyddogaethau yma'n cynnwys cysylltu â modurwyr sy'n herio neu sy'n anwybyddu Hysbysiadau Tâl Cosb, gan gynnwys trosglwyddo manylion cyswllt a manylion cerbyd y modurwr i asiantaethau allanol at ddibenion nodi a chasglu dyledion. Byddwn ni hefyd yn storio manylion cyswllt i'w defnyddio yn y dyfodol mewn perthynas â chyflwyno trwyddedau parcio yn unol â chais preswylwyr. 

 

5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

  • Mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Gorfodi Sifil; 

  • Mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein swyddogaeth fel corff cyhoeddus; 

Caiff ein rhwymedigaethau cyfreithiol eu gorfodi gan y ddeddfwriaeth ganlynol:

 

  • Deddf Rheoli Traffig 2004 

  • Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Cymru) 2013

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?

Er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau mewn perthynas â'r swyddogaethau'r gwasanaethau parcio, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth gyda'r canlynol:

 

Adrannau eraill y Cyngor:

  • Yr Adran Dwyll

 Sefydliadau / Unigolion Eraill yn cynnwys:

  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (er mwyn dod o hyd i fanylion perchennog y cerbyd)

  • Canolfan Gorfodi Traffig (er mwyn cael caniatâd i gasglu dyledion heb eu talu)

  • Asiantaethau gorfodi allanol (er mwyn cyflawni gwarantau)

  • Tribiwnlys Cosbau Traffig (er mwyn prosesu apeliadau annibynnol)

 Darparwyr Systemau:

  • Systems Engineering & Assessment

  • Imperial

7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth am ba bynnag hyd rydyn ni ei angen er mwyn prosesu'r Hysbysiad neu'r Drwydded; mae modd i hyn fod tua 2 flwyddyn.

 

Am ragor o wybodaeth, gweler Polisi ac Amserlen Cadw Gwybodaeth a Chael Gwared ar
Wybodaeth y Cyngor

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

 

Edrychwch ar fanylion pellach am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw

 

9. Cysylltu â ni 

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r   gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

 

E-bost: gwasanaethauparcio@rctcbc.gov.uk

 

Ffôn: 01443 425001

 

Trwy lythyr: Tŷ Sardis, Sardis Road, Pontypridd CF37 1DU