Skip to main content

Home Improvement Loans

 

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Benthyciadau Eiddo

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion, a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yna, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion benthyciadau eiddo. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma'n esbonio pa ddata personol sy'n cael ei gasglu gan Is-adran Strategaeth Tai a Buddsoddi RhCT, a sut a pham rydyn ni'n defnyddio'r data yma.

Rydyn ni'n helpu trigolion RhCT a landlordiaid/perchnogion eiddo i gael benthyciadau gan Lywodraeth Cymru i'w cynorthwyo i wella cyflwr eu heiddo. Mae benthyciadau ar gael i berchen-feddianwyr i wneud gwelliannau i’w cartrefi i wneud eu heiddo’n gynnes ac yn ddiogel. Mae benthyciadau hefyd ar gael i ddarpar fuddsoddwyr i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ar gyfer ei werthu neu ei rentu.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth amdanoch chi, p'un a ydych chi'n cysylltu â ni ar-lein, dros y ffôn, wyneb yn wyneb wrth wneud cais am grant eiddo. Byddwn ni'n casglu data personol amdanoch chi a phobl eraill sy'n gysylltiedig â chi os oes angen.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Enw a chyfeiriad
  • Teitl y swydd ac enw'r cwmni
  • Gwybodaeth er mwyn cysylltu â chi, gan gynnwys rhif ffôn symudol neu rif ffôn tŷ a chyfeiriad e-bost
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Tystiolaeth o bwy ydych chi 
  • Manylion Cyfrif Banc a Datganiadau Banc
  • Biliau cyfleustodau, manylion cofrestru ar gyfer etholiadol lleol
  • Tystiolaeth o fod yn berchen yr eiddo (gan gynnwys dogfennau Teitl y Gofrestrfa Tir), cytundebau tenantiaeth, cyfrifon busnes a manylion hunanasesu
  • Manylion unrhyw anabledd/gyflwr meddygol
  • Gwybodaeth am fudd-daliadau/gwybodaeth ariannol gan gynnwys gostyngiadau yn Nhreth y Cyngor, ôl-ddyledion rhent, dyledion, incwm a chynilion, Trethi Annomestig Cenedlaethol (NNDR)
  • Manylion eich prydles eiddo
  • Arfarniadau datblygu i asesu hyfywedd ariannol

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Bydd y Gwasanaeth yn cael yr wybodaeth yma gennych chi petai chi'n gwneud cais am fenthyciad eiddo trwy ffurflenni cais a ffurflenni eraill sy'n berthnasol i brosesu benthyciad neu pan ydych chi'n gwneud ymholiad gyda'r garfan.

Mae modd i'r Gwasanaeth hefyd dderbyn gwybodaeth gan ein Partneriaid, megis Bancio Cymunedol Robert Owen, cyfeiriadau gan adrannau eraill y Cyngor a hefyd atgyfeiriadau gan adrannau eraill o'r Llywodraeth.

Mae modd i'r gwasanaeth hefyd gael gwybodaeth o ffynonellau a amlinellir isod (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Chwiliad Tŷ'r Cwmnïau
  • Chwiliad y Gofrestrfa Dir
  • Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan sefydliadau sector cyhoeddus eraill, e.e. atgyfeiriadau gan y gwasanaeth iechyd, yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan sefydliadau'r sector preifat, e.e. cyfreithwyr testun data, darparwyr morgais, asiantau neu gyflogwyr, landlordiaid preifat neu gymdeithasol
  • Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan y trydydd sector, e.e. Asiantaeth Gofal a Thrwsio
  • Meysydd gwasanaeth eraill yn y Cyngor, e.e. Treth y Cyngor, Budd-daliadau Tai, Ardrethi Annomestig Cenedlaethol
  • Arolygon rydych chi'n eu cwblhau.

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Bydd yr wybodaeth bersonol a ddarperir yn cael ei defnyddio:

  • Rhoi cyngor cyn i chi gyflwyno cais
  • Yn rhan o'n gwasanaethau Cyn-brynu a Thystysgrifau Cwblhau
  • Prosesu a gweinyddu swyddogaeth statudol Rheolaeth Adeiladu
  • Gwirio gydag adrannau eraill y Cyngor er mwyn asesu os ydy rhywun yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys Adran Ardrethi Annomestig Cenedlaethol, Adran Treth y Cyngor, yr Adran Drwyddedu a'r Adran Gorfodi
  • Er mwyn hwyluso'r broses o asesu eich cais am fenthyciad gan arwain, o bosibl, at ei gymeradwyo
  • Galluogi asesu cais am fenthyciad mae aelodau o'ch cartref/teulu yn ei wneud
  • Gwneud taliadau i 3ydd partïon mewn perthynas â chymeradwyo'ch benthyciad
  • Gwneud taliadau i chi mewn perthynas â'r gwasanaethau sydd wedi'u darparu
  • Yn rhan o'ch apwyntiad ar gyfer gwasanaethau caffael i'r garfan Grantiau Tai
  • Yn rhan o'r broses o gofrestru Tâl Cyfreithiol mewn perthynas â'ch dyfarniad grant
  • Casglu adborth gan gwsmeriaid sy'n ymwneud â cheisiadau am fenthyciadau, a
  • Cysylltu â chi yn y dyfodol at ddibenion ymchwil fel bod modd inni wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig
  • Darparu data dienw i Lywodraeth Cymru at ddibenion monitro.

5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n gallu  defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sail gyfreithiol ni ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol i fodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:

Gwybodaeth Bersonol:

Erthygl 6 1.(c), (e) ac Erthygl 9 2. (g) - cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan y darnau canlynol o ddeddfwriaeth:

  • Deddf Tai (Cymru) 2014
  • Deddf Adeiladu 1984
  • Rheoliadau Adeiladu 2010
  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
  • Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai
  • Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio, Adnewyddu Tai y Sector Preifat 2002
  • Polisi Tai Sector Preifat Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2014
  • Gorchymyn Trydan a Nwy (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni) 2014
  • Deddf Ynni 2016
  • Deddf Newid Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2016
  • Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2018
  • Deddf Cynllunio ac Ynni 2008
  • Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000
  • Strategaeth Twf Glân 2018 (BEIS)
  • Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010 (LlC)
  • Strategaeth Defnyddwyr Agored i Niwed 2013
  • Rhwymedigaethau cytundebol lle mae gofyn i unigolion i ymrwymo i gytundeb neu ei gyflawni

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Efallai y bydd angen gwybodaeth ychwanegol amdanoch chi ar y Gwasanaeth er mwyn sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth a'r cyngor cywir ar gyfer y benthyciad sy'n berthnasol i chi. Os nad oes modd i'r Gwasanaeth neu'r Cyngor eich cynorthwyo, byddwn ni'n eich cyfeirio chi at un o'n partneriaid allanol a fydd yn gallu darparu'r cymorth sydd ei angen arnoch chi yn unol â'ch anghenion.

Er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau mewn perthynas â benthyciadau eiddo, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth gyda'r canlynol:

Adrannau eraill y Cyngor:

  • Treth y Cyngor
  • Budd-daliadau Tai
  • Trwyddedu
  • Gorfodi
  • Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Cyllid
  • Iechyd yr Amgylchedd - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
  • Safonau Masnach
  • Y Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Cynllunio
  • Tai Cymunedol
  • Rheoli Adeiladu

Sefydliadau eraill:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Llywodraeth Cymru
  • Yr Asiantaeth Gofal a Thrwsio
  • Yr Asiantaeth Cyngor ar Bopeth
  • Robert Owen Community Banking
  • Awdurdodau Lleol eraill
  • Cofrestrfa Tir
  • Gwasanaethau Iechyd
  • Tŷ'r Cwmnïau
  • Darparwyr Morgeisi

Unigolion eraill:

  • Aelodau Lleol, Aelodau o'r Senedd, Aelodau Seneddol sy'n gweithredu ar eich rhan
  • Unrhyw un sy'n eich cynrychioli megis asiant neu gynrychiolydd cyfreithiol.

7.    Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Byddwn ni dim ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnon ni ei hangen i ddarparu data monitro i Lywodraeth Cymru ac i fynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau neu gwynion sy'n dod i law am hyn. Byddwn ni'n gwneud hyn am 10 mlynedd.

Ar gyfer Benthyciad Arbrisiant Eiddo efallai y bydd angen i ni gadw eich gwybodaeth am hyd at 30 mlynedd neu hyd nes y ceir gwared ar eich eiddo.

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9.    Cysylltu â ni

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

E-bost:                    StrategaethDai@rctcbc.gov.uk

Dros y ffôn:   01443 281136

Anfonwch lythyr:               

Adran Ffyniant a Datblygu

Strategaeth Dai a Buddsoddi Mewn Tai

Tŷ Sardis

Heol Sardis

Pontypridd,

CF37 1DU