Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Siopau Vision Mobility

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Siopau Vision Mobility

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Siopau Vision Mobility. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae Cwmni Vision Products ynfusnes sy'n derbyn cymorth ac yn rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. 

Siop arbenigol yw Vision Mobility, sy'n gwerthu cymhorthion byw'n annibynnol a symudedd. Mae gennym ystod eang o stoc, o'r sgwteri symudedd a gwelyau arbenigol diweddaraf i gymhorthion syml i'ch cynorthwyo yn y cartref.

Mae dwy siop Vision Mobility wedi'u lleoli yn Aberdâr a Phont-y-clun.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Bydd y math o wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chadw yn ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth sy'n prynu cymhorthion ac offer o'n siopau symudedd yn cynnwys:

  • Enw, cyfeiriad a manylion cyswllt - wrth osod archeb gyda ni ac i drefnu bod y cymhorthion / offer yn cael eu danfon.
  • Ffurflenni TAW - sy'n cofnodi manylion y cleient, yr offer a brynwyd a disgrifiad byr o'r cyflwr iechyd neu'r anabledd perthnasol ar gyfer gostyngiad TAW.
  • Manylion talu - er enghraifft, manylion cardiau.

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn dod yn uniongyrchol gennych chi, ein defnyddiwr gwasanaeth, wrth osod archeb gyda ni am gymhorthion ac offer, i drefnu danfon y nwyddau, neu wrth brynu eitemau sydd mewn stoc yn un o'n siopau Vision Mobility. Mae modd i'r wybodaeth yma gael ei darparu ar ran defnyddwyr y gwasanaeth gan berthynas, ffrind neu weithiwr cymorth sy'n cynorthwyo rhywun i brynu offer.

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i brosesu'ch archeb, gan gynnwys talu, ac i drefnu dosbarthu'r offer lle bo angen. Yn ogystal, byddwn ni'n cadw'r wybodaeth yma at ddibenion warantî ac at ddibenion archwilio yn unol â deddfwriaeth ariannol.

5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny. 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol defnyddiwr y gwasanaeth wrth brynu cymhorthion ac offer yn un o'n siopau Vision Mobility yw cyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol gyda defnyddiwr y gwasanaeth a'r rhwymedigaethau cyfreithiol a osodir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Byddwn ni weithiau'n rhannu'ch enw, cyfeiriad a manylion cyswllt â chyflenwr neu isgontractwr trydydd parti os ydyn nhw'n danfon offer yn uniongyrchol neu'n gwneud gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw yn rhan o warantî. 

Mae taliadau cerdyn yn cael eu prosesu ar ran Cwmni Vision Products gan fanc Barclays.

7.    Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd yr holl gofnodion sy'n ymwneud â phrynu a chyflenwi cymhorthion ac offer ein siopau Vision Mobility yn cael eu cadw am 7 mlynedd.

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi. 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9.    Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

Drwy e-bostio: VisionProductsBusiness@rctcbc.gov.uk 

Drwy ffonio: 01443 229988 

Drwy anfon llythyr at: 

CWMNI VISION PRODUCTS, Ystad Ddiwydiannol Lôn Coedcae, Pont-y-clun, CF72 9HG