Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Cefnogi Pobl

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaethau Cefnogi Pobl 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau iddyn nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaethau Cefnogi Pobl. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.

Nod y Gwasanaethau Cefnogi Pobl yw helpu unigolion i fyw mewn ffordd mor annibynnol â phosibl. Rydyn ni'n gwneud hyn trwy helpu pobl i ddatblygu sgiliau angenrheidiol a gwella eu hyder. Nod y gwasanaeth yw lleihau'r risg y bydd pobl yn mynd yn ddigartref, symud i ofal preswyl, cael eu derbyn i'r ysbyty neu droseddu.

Mae modd i bobl eu hatgyfeirio eu hunain at y Gwasanaethau Cefnogi Pobl, neu mae modd i   asiantaethau eraill, aelodau o'r teulu, cymdogion ac ati eu hatgyfeirio nhw. Unwaith bydd y ffurflen atgyfeirio wedi'i llenwi, caiff ei rhannu gyda'r sefydliad partner perthnasol. Mae'r sefydliad partner yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn.

Mae'r math o gymorth sydd ar gael yn cynnwys:

  • Gwasanaethau ynghylch camddefnyddio cyffuriau ac alcohol
  • Gwasanaethau Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth
  • Gwasanaethau Iechyd
  • Cymorth ar sut i reoli tenantiaeth
  • Cymorth ar sut i reoli'ch cyllid
  • Creu / datblygu cysylltiadau â rhwydweithiau cymdeithasol / teulu a lleihau unigrwydd   cymdeithasol
  • Gwella diogelwch personol
  • Cyngor ar faterion tai e.e. ôl-ddyledion, cael eich troi allan

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am y bobl sy wedi'u hatgyfeirio at ein gwasanaeth, neu fanylion y person a wnaeth atgyfeiriad ar eu rhan.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys: 

  • Enw
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Manylion personol gan gynnwys eich cyfeiriad, tarddiad ethnig, statws priodasol,   cenedligrwydd, crefydd, eich anghenion cymorth, hanes tai ac unrhyw anableddau
  • Er mwyn cwblhau asesiad ystyrlon, gofynnwn ichi amcangyfrif faint o gymorth sydd ei angen arnoch chi gyda rhai pethau, er enghraifft: 
    • ôl-ddyledion rhent, rheoli cyllid, datblygu / ail-ddatblygu perthnasoedd gyda'r teulu, byw   bywyd iach a bywiog

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae yna nifer o wahanol ffyrdd y mae modd i ni ddod o hyd i wybodaeth amdanoch chi. Er  enghraifft:

Ffurflen atgyfeirio rydych chi wedi'i llenwi;

Ffurflen atgyfeirio sydd wedi'i llenwi gan aelod o'r teulu, cymydog ac ati ar eich rhan chi;

Rydych chi wedi cael eich atgyfeirio at y gwasanaeth gan un o wasanaethau eraill y Cyngor neu sefydliadau eraill, e.e. Gweithiwr Cymdeithasol, y Garfan Materion Tai, Gweithiwr Cefnogi, Swyddog Prawf;

Rydyn ni hefyd yn paratoi ein gwybodaeth ein hunain pan fyddwn ni'n asesu anghenion person.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth uchod er mwyn: 

  • Datblygu gwell dealltwriaeth o anghenion unigol pobl
  • Cwblhau asesiad o'u hanghenion
  • Cwblhau atgyfeiriad i wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliad partner dibynadwy i ddarparu cymorth 

Rydyn ni hefyd yn defnyddio'r wybodaeth er mwyn:

  • Rheoli ein gwasanaethau o ddydd i ddydd
  • Datblygu gwell dealltwriaeth o'r gwasanaethau y mae angen i ni eu darparu a'r ffordd orau o fodloni anghenion pobl
  • Gwella'r ffordd rydyn ni'n darparu'r gwasanaethau yma

5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Ein sail gyfreithiol i brosesu eich gwybodaeth at ddibenion y Gwasanaethau Cefnogi Pobl yw ei bod yn Dasg Gyhoeddus.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?

Ydy, mae'r gwasanaeth yn rhannu'ch gwybodaeth gyda'r partner / sefydliad perthnasol. Mae hyn yn dibynnu ar eich anghenion, o'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen gyfeirio, e.e.

  • Action for Children
  • Adref
  • Trivallis
  • Hafod Care
  • Gofal

Rydyn ni hefyd yn rhannu data di-enw at bwrpas ystadegol ac ymchwil lle mae'n briodol gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, Prifysgol Abertawe fel rhan o Brosiect Sail.

7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

3 blynedd ar ôl i'r gwasanaeth ddod i ben.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad i'r wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar fanylion pellach am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost: cymorthibobl@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425005

Trwy lythyr: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Carfan Cefnogi Pobl, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY