Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y carfan Datblygu Chwarae – Hyfforddi Staff Darparwyr Chwarae

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Datblygu Chwarae – Hyfforddi Staff Darparwyr Chwarae

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Datblygu Chwarae – Hyfforddi Staff Darparwyr Chwarae. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae'r garfan Datblygu Chwarae yn comisiynu darpariaeth chwarae yn ystod tymor yr ysgol a gwyliau'r ysgol. 

Rydyn ni'n comisiynu'r sector gwirfoddol, y sector preifat a'r trydydd sector i gynnal darpariaeth chwarae mynediad agored mewn ardaloedd sydd ei hangen yn RhCT. 

Yn ogystal â hyn, rydyn ni'n nodi anghenion hyfforddi ar eich cyfer a'r gweithiwr chwarae.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am staff darparwr chwarae. Byddwn ni'n cadw ac yn prosesu gwybodaeth gan gynnwys:

  • Enw'r gweithiwr chwarae
  • Ble rydych chi'n gweithio, cyfeiriad/manylion cyswllt
  • Cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn y gweithiwr chwarae 
  • Dymuniad o ran yr iaith Gymraeg a sgiliau cyfathrebu.

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Byddwn ni'n casglu'r rhan fwyaf o'r wybodaeth gan eich cyflogwr chi.

Mae'r garfan yn cynnal archwiliadau hyfforddi ar bob darparwr chwarae ac ar yr hyfforddiant sydd ei angen ar aelodau o staff. 

Byddwn ni'n casglu'r rhan fwyaf o wybodaeth gan eich cyflogwr wrth iddo eich enwebu chi ar gyfer hyfforddiant.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n rhannu'ch gwybodaeth â'r darparwr hyfforddiant perthnasol a thiwtor y cwrs.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig.

Mae'n rhan o dasg gyhoeddus y Cyngor i weithio gyda darparwyr chwarae i helpu i dynnu sylw at yr hyfforddiant sydd ei angen ar ei staff. 

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Byddwn ni ond yn rhannu'ch gwybodaeth â'r darparwr hyfforddiant perthnasol.

7. Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn unol â deddfwriaeth a fyddwn ni ddim yn ei chadw am gyfnod hwy nag sy'n angenrheidiol at y diben y cafodd yr wybodaeth ei chasglu. 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn golygu bod gyda chi hawliau pwysig, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad i unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi sy'n cael ei chadw gan y gwasanaethau.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost: Gail.Beynon@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 281437

Trwy lythyr: Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ