Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Carfan Integredig Cymorth i Deuluoedd a Charfan Teuluoedd Therapiwtig Meisgyn

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Carfan Integredig Cymorth i Deuluoedd a Charfan Teuluoedd Therapiwtig Meisgyn

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Meisgyn, Carfan Integredig Cymorth i Deuluoedd a Charfan Teuluoedd Therapiwtig. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Rydyn ni'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifainc a'u teuluoedd i leihau risg ac i ddarparu deilliannau cadarnhaol megis dychwelyd plant adre ar ôl derbyn gofal ac atal plant rhag dod o dan adain gofal y Cyngor. 

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cofnodi manylion personol megis; enw, dyddiad geni, a chyfeiriad pob aelod o'r teulu sy'n byw yng nghartref y teulu ac sy'n rhan o'r uned deuluol.

Mae'n bosibl y byddwn ni'n gofyn i chi am eich lles ac unrhyw bryderon o ran diogelu a byddwn ni'n cofnodi manylion ein gwaith gyda chi.

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth sydd gyda ni amdanoch chi a'ch teulu yn dod yn uniongyrchol oddi wrthoch chi wrth i chi gael eich atgyfeirio aton ni o'r Garfan Ymholi ac Asesu, Carfan Ymyrraeth Ddwys a Charfanau 16+.

Gallen ni hefyd dderbyn gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol eraill megis;

  • Carfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
  • Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifainc
  • Carfan Plant Anabl
  • Yr Heddlu
  • Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc
  • Seicolegwyr Addysg
  • Ysgolion
  • Gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd fel Ymwelydd Iechyd

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni i ddarparu cymorth perthnasol i chi a'ch teulu, er mwyn;

  • Prosesu'ch atgyfeiriad a chynnig cymorth
  • Cynnal asesiad o'ch anghenion ac anghenion eich teulu
  • Datblygu ac adolygu'ch cynllun cymorth

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu'ch gwybodaeth â sefydliadau eraill mae modd iddyn nhw ddarparu cymorth ychwanegol i chi.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig.

A ninnau'n gorff cyhoeddus, mae gyda ni rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu cymorth i chi a'ch teulu.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Mae'n bosibl y byddwn ni hefyd yn rhannu'ch gwybodaeth â sefydliadau eraill mae modd iddyn nhw ddarparu cymorth i chi. Bydd hyn yn cael ei nodi yn rhan o'n gwaith parhaus gyda chi.

Os bydd argyfwng megis damwain wrth fynychu gweithgaredd, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth â gweithiwr iechyd.

Os oes pryderon o ran amddiffyn/diogelu plentyn, mae gyda ni rwymedigaeth gyfreithiol i brosesu data person heb eich caniatâd.

Os nad oes pryderon o ran diogelu ond mae modd gwneud atgyfeiriad am gymorth, mae angen ceisio caniatâd.

7. Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn unol â deddfwriaeth a fyddwn ni ddim yn ei chadw am gyfnod hwy nag sy'n angenrheidiol at y diben y cafodd yr wybodaeth ei chasglu. 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn golygu bod gyda chi hawliau pwysig, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad i unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi sy'n cael ei chadw gan y gwasanaethau.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost: ProsiectMeisgyn@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 420940

Trwy lythyr: Rheolwr y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar, Canolfan Glyncornel, Heol Nant-y-gwyddon, Llwynypïa, Rhondda Cynon Taf, CF40 2JF