Skip to main content

Independent Travel Training

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Hyfforddiant Teithio'n Annibynnol

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion, a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yna, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu. 

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion Hyfforddiant Teithio'n Annibynnol. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd y Cyngor yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddiben Hyfforddiant Teithio'n Annibynnol

Mae'r cynllun Hyfforddiant Teithio'n Annibynnol yn cefnogi pobl ifainc â galluoedd ac anghenion gwahanol i fod yn fwy annibynnol, wrth iddynt deithio i/o leoliad i dderbyn addysg neu'r gwaith.  Mae modd i'r hyfforddai gwneud atgyfeiriadau ei hun i'r cynllun, neu mae modd i weithwyr proffesiynol a rhieni/gwarcheidwaid wneud atgyfeiriad mewn cytundeb â'r person sy'n derbyn yr hyfforddiant.

Mae asesiad risg sy'n canolbwyntio ar alluoedd ac anghenion yr hyfforddai'n cael ei gynnal er mwyn sicrhau bod y rhain yn cael eu bodloni cyn dechrau'r hyfforddiant. Mae modd cynnal yr hyfforddiant ar sail un i un neu fesul grŵp, gan ddibynnu ar sefyllfa'r hyfforddai. Mae'r hyfforddiant yn cefnogi'r person i ddod yn gyfarwydd â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, dysgu sgiliau diogelwch ar y ffyrdd ac ymwybyddiaeth bersonol.

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei phrosesu.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

Y Rheolwr Data

Y Cyngor ydy'r rheolwr data ar gyfer y data personol rydyn ni'n eu prosesu, ac felly mae'r Cyngor wedi'i gofrestru â'r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) fel rheolwr (Z47870100).

Sut i gysylltu â ni ynglŷn â materion neu bryderon diogelu data

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

E-bost: HyfforddiantTeithio@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 425001

Anfon llythyr : Tŷ Glantaf, Uned B23, Heol Ffynnon Taf, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd CF37 5TT

Y Swyddog Diogelu Data

Mae modd cysylltu â'r Swyddog Diogelu Data (DPO) mewn perthynas â materion diogelu data.

Os bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol, mae modd i chi wneud hynny drwy anfon e-bost i'r cyfeiriad e-bost canlynol:

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'r mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu am yr hyfforddai a'u rhieni / gwarcheidwaid fel arfer yn cynnwys:

 Hyfforddai

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Nodi gwybodaeth megis dyddiad geni neu rywedd
  • Gwybodaeth yn ymwneud â'ch anghenion dysgu a chorfforol gan gynnwys unrhyw ymddygiad sy'n peri pryder
  • Gwybodaeth yn ymwneud â'ch iechyd ac anghenion meddygol
  • Gwybodaeth yn ymwneud â pha ysgol, coleg neu weithle rydych chi'n mynychu

Rhieni/Gwarcheidwaid 

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth chi er mwyn creu cynllun hyfforddiant teithio sy'n benodol i'ch anghenion a'ch galluoedd chi. Bydd yr hyfforddiant yn rhoi'r cymorth angenrheidiol er mwyn i chi ddod yn fwy annibynnol wrth deithio i ac o sefydliadau addysg neu eich gweithle.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol;

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig y cynllun hyfforddi i chi ac i fodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:

Gwybodaeth Bersonol

Erthygl 6(1)(c) – rhwymedigaeth gyfreithiol, i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â darparu cludiant.

Erthygl 6(1)(e) – cyflawni tasg sydd er budd y cyhoedd neu er mwyn, yn rhan o'n swyddogaethau swyddogol, ddarparu'r lefel briodol o gymorth.

Gwybodaeth Categori Arbennig

 Erthygl 9 (2)(b) – prosesu data categori arbennig fel iechyd er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau statudol fel uchod.

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Efallai byddwn ni'n derbyn yr wybodaeth o'r canlynol;

  • Chi eich hun fel yr hyfforddai os ydych chi'n hunan atgyfeirio.

Rydyn ni hefyd yn derbyn atgyfeiriadau a gwybodaeth o'r canlynol:

  • Sefydliadau Addysg gan gynnwys colegau
  • Canolfannau Gofal Dydd
  • Gyrfa Cymru
  • Rhieni/Gwarcheidwaid
  • Adrannau mewnol megis y Garfan Plant Anabl, Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant ac Addysg Heblaw yn yr Ysgol

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Efallai y byddwn ni'n rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau allweddol eraill er mwyn eich cefnogi chi wrth bontio i'r cynllun.

Pan rydyn ni'n rhannu'r wybodaeth, dim ond y lleiafswm sydd ei angen mewn perthynas â'r pwrpas sy'n cael ei rannu. Bydd y math o wybodaeth sy'n cael ei rannu a'r bobl y mae'n cael ei rhannu â nhw yn dibynnu ar anghenion unigol yr hyfforddai.

  • Adrannau mewnol megis Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, Gofal yn y Gymuned a Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant. 
  • Sefydliadau Addysg megis Coleg y Cymoedd, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Choleg Merthyr Tudful
  • Gyrfa Cymru
  • Bwrdd Diogelu Amlasiantaeth os oes pryderon yn ymwneud â'r hyfforddai

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag sydd ei hangen i gyflawni dibenion yr hyfforddiant. Mae gwybodaeth sydd heb werth tymor hir yn cael ei dinistrio'n rheolaidd yng nghwrs arferol busnes.

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Os oes pryder gyda chi, rydyn ni'n eich annog i gysylltu â ni yn y lle cyntaf. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost. Pe hoffech chi wneud cwyn swyddogol, mae modd i chi wneud trwy ddefnyddio ein Cynllun Adborth Corfforaethol.

Eich hawl i wneud cwyn i'r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data, ond rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn y lle cyntaf.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:                       

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113

Gwefan: http://www.ico.org.uk