Skip to main content
    

Hysbysiad preifatrwydd Gwasanaethau Maethu

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gwasanaethau Maethu

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i'r angen i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yma, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gwasanaethau Maethu. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae'r Gwasanaeth Maethu a'i Rieni Maeth yn rhan o garfan ymroddedig o weithwyr proffesiynol sy'n cefnogi dros 600 o blant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni'n recriwtio, adolygu ac yn cefnogi unigolion i ddarparu cartrefi diogel, cefnogol a gofalgar ar gyfer plant a phobl ifainc nad oes modd iddyn nhw fyw gyda'u teuluoedd biolegol am amrywiaeth o resymau.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Mae'r Gwasanaethau Maethu yn cadw gwybodaeth am yr holl bobl sy'n rhan o'r broses, o dderbyn cais hyd at leoli plentyn.  Byddwn ni'n cadw gwybodaeth amdanoch chi, eich teulu a'ch ffrindiau, eich cyflogwr, pwy bynnag fydd o'ch amgylch chi a'r plentyn/plant y byddwch chi'n darparu cartref ar ei gyfer/eu cyfer.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

Chi - yr ymgeisydd

  • Eich manylion personol megis enw, dyddiad geni, cyfeiriad (gan gynnwys cyfeiriadau blaenorol), manylion cyswllt
  • Cyfansoddiad y cartref
  • Manylion cyflogaeth, gan gynnwys geirda gan gyflogwr
  • Manylion incwm
  • Manylion banc at ddibenion gwneud taliadau
  • Manylion addysg
  • Ymwelydd Iechyd os oes gennych chi blentyn sy'n iau na 5 oed
  • Gwiriad gan y landlord os ydych chi'n rhentu eich cartref
  • SAFFA - os ydych chi erioed wedi bod yn rhan o'r lluoedd arfog
  • Canlyniad Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Canolwyr personol
  • Manylion cyn-bartner a geirdaon (os yw'n berthnasol)
  • Sylwadau ein hymgynghorwyr meddygol ac adroddiadau mewn perthynas â'ch iechyd chi
  • Crynodeb cynhwysfawr o'ch bywyd o'ch geni hyd at heddiw, eich cymhelliant i faethu a'r sgiliau rydych chi'n meddu arnyn nhw
  • Cofnodion y panel maethu a'r penderfyniad pam rydych chi'n gymwys i faethu
  • Y Rhwydwaith Maethu
  • Adran Yswiriant RhCT
  • Adran Hyfforddi RhCT
  • Adolygiad blynyddol o'ch gyrfa faethu (cyn belled â'ch bod wedi'ch cofrestru)
  • Manylion unrhyw gyfathrebu rhyngoch chi a'ch Gweithiwr Cymdeithasol sy'n eich goruchwylio
  • Manylion taliadau rydyn ni'n eu gwneud i chi
  • Manylion sesiynau hyfforddiant rydych chi wedi mynd iddyn nhw i ddangos tystiolaeth o'ch datblygiad personol yn unol â'ch statws cymeradwyo

Teulu, ffrindiau (unrhyw un sydd â chysylltiad cyfredol i'ch cais/rôl faethu)

  • Eu henwau, cyfeiriadau, manylion cyswllt
  • Canlyniad eu gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os ydyn nhw'n cefnogi eich rôl faethu yn weithredol neu'n aelod o'r cartref sy'n hŷn nag 16 oed
  • Manylion y gefnogaeth maen nhw'n ei darparu i chi

Ti – y plentyn

  • Dy enw, cyfeiriad a dyddiad geni
  • Manylion dy rieni
  • Yr amgylchiadau sydd wedi arwain at dy leoliad presennol
  • A yw'r lleoliad yn bodloni dy holl anghenion?

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Yn gyffredinol, byddwn ni'n derbyn gwybodaeth amdanoch chi gan y ffynonellau canlynol:

Chi - adeg cyflwyno cais

Byddwn ni'n gofyn i chi rannu eich manylion personol gyda ni mewn perthynas â chi'ch hun a chyfansoddiad eich cartref. Byddwn ni'n gofyn i chi am fanylion y bobl y bydd angen i ni gysylltu â nhw yn rhan o'r broses asesu, ac yn gofyn am eich caniatâd ysgrifenedig i wneud hyn. 

Byddwn ni'n gofyn am farn Gweithwyr Cymdeithasol y plant/pobl ifainc rydych chi'n gofalu amdanyn nhw mewn perthynas â'r gofal rydych chi'n ei ddarparu.

Teulu, Ffrindiau

Pan fydd aelod o'ch teulu/ffrind yn gwneud cais i ddod yn rhiant maeth, byddan nhw'n rhoi eich enw a'ch cyfeiriad chi i ni fel bod modd i ni gysylltu â chi i ofyn am eirda. 

Ti – y plentyn

Gan ddibynnu ar dy oed, byddwn ni'n troi at gofnodion Gwasanaethau i Blant i gael y rhan fwyaf o wybodaeth amdanat ti a byddwn ni hefyd yn gofyn i ti am wybodaeth, i dy rieni, neu i’r sawl sy'n gofalu amdanat ti ar hyn o bryd.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth er mwyn gwneud y canlynol:

Rhiant maeth posibl/cymeradwy

Cynnal asesiad o'ch cais i ddod yn rhiant maeth. Ar ôl i chi ddod yn rhiant maeth cymeradwy, byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth i'ch paru chi â phlentyn sydd angen cartref. Os ydych chi'n cael eich asesu gan eich bod chi'n berson cysylltiedig neu'n gynhaliwr sy'n berthynas, byddwch chi ond yn cael eich asesu mewn perthynas â phlentyn/person ifanc penodol. Byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth gyda'r Rhwydwaith Maethu er mwyn i chi gael manteisio ar aelodaeth a chyngor a chymorth cyfreithiol am ddim. Byddwn ni hefyd yn rhannu eich manylion banc gydag Adran y Gyflogres er mwyn dechrau gwneud taliadau.

Os byddwn ni'n dod â'ch statws cymeradwyo i ben oherwydd pryderon am y gofal rydych chi wedi'i ddarparu, bydd rhwymedigaeth gyfreithiol i ni rannu'r wybodaeth yma ag asiantaethau eraill at ddibenion diogelu.

Teulu, ffrindiau

Pan fydd aelod o'ch teulu/ffrind yn gwneud cais i ddod yn rhiant maeth, byddan nhw'n rhoi'ch enw, cyfeiriad a rhif ffôn i ni fel bod modd i ni gysylltu â chi i ofyn am eirda. 

Ti – y plentyn

Er mwyn sicrhau bod dy leoliad yn bodloni dy anghenion.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Ein sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth bersonol er mwyn eich asesu a'ch cymeradwyo'n rhiant maeth yw cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan:

  • Deddf Plant 1989  
  • Deddf Plant 2004
  • Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
  • Gweithdrefnau Diogelu Cymru

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Er mwyn darparu gwasanaethau maethu rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda nifer o sefydliadau. Mae'r rhain yn cynnwys:

Rhiant maeth posibl/cymeradwy

 Byddwn ni'n rhannu eich manylion personol er mwyn cael gwiriadau statudol yn ystod y broses asesu, a diweddariadau pan fyddwch chi'n cael eich cymeradwyo, ac i gynorthwyo gydag unrhyw honiadau, os bydd achos o hynny'n codi. Yn ogystal â'r asiantaethau partner yma, ar ôl i chi gael eich cymeradwyo byddwn ni'n rhannu'ch gwybodaeth gyda'r canlynol:

  • Awdurdod Lleol arall os ydych chi wedi byw yn yr ardal honno (mae hyn yn ofynnol yn ôl y rheoliadau)
  • Y Rhwydwaith Maethu er mwyn sicrhau aelodaeth ar eich rhan
  • Adran Yswiriant RhCT er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn ein Hyswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
  • Gwasanaethau Hamdden RhCT os byddwch chi eisiau manteisio ar aelodaeth am ddim
  • Dysgu Gydol Oes RhCT er mwyn eich galluogi chi i weithio ar eich cynllun datblygu proffesiynol
  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Ein partneriaid, megis Iechyd, yr Heddlu
  • Arolygiaeth Gofal Cymru

Teulu/ffrindiau

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - byddwn ni'n gofyn i chi lenwi eich manylion er mwyn cynnal gwiriad statudol.

Ti – y plentyn

Byddwn ni'n rhannu dy fanylion personol ag asiantaethau statudol eraill sy'n ymwneud â dy ofal megis Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac asiantaethau gwirfoddol

7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw? 

Bydd hyn yn dibynnu ar y gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu i chi.

Er enghraifft;

Rhieni maeth posibl

Byddwn ni'n cadw eich cofnodion am 5 mlynedd wedi i'ch cais ddod i ben.

Rhieni maeth

Ar ôl i chi ddod yn rhiant maeth byddwn ni'n cadw eich cofnodion am 10 mlynedd wedi i chi orffen eich cyfnod yn rhiant maeth. Fodd bynnag, os oes cofnod sy'n cyfeirio atoch chi'n rhiant maeth gweithredol yn rhoi gofal i blentyn dan adain gofal yr awdurdod lleol yma yng nghofnod y plentyn, bydd hwn yn parhau ar y cofnod hwnnw hyd nes y bydd yn cael ei ddileu. Ar hyn o bryd, y cyfnod cadw yw 75 mlynedd wedi pen-blwydd y plentyn yn 18 oed.

Teulu/ffrindiau

Gweler y datganiad uchod.

Ti – y plentyn

Bydd dy wybodaeth di'n cael ei chadw yn dy gofnod Gwasanaethau i Blant yn unig. Os wyt ti'n blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod yma, bydd dy gofnodion di'n cael eu cadw am 75 mlynedd wedi i ti droi'n 18 oed.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltu â ni

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut y mae'r gwasanaeth yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

E-bostiwch: TimCymorthMaethu@rctcbc.gov.uk

Ffoniwch: 01443 425006

Anfonwch lythyr: Y Gwasanaeth Maethu, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4NE