Skip to main content

Hysbysrwydd Preifatrwydd Gwasanaeth Allgymorth Tai Arbenigol - Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau Cwm Taf Morgannwg

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer dibenion Gwasanaeth Allgymorth Tai Arbenigol - Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau yn ardal Cwm Taf Morgannwg (CTM).

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gwasanaeth Allgymorth Tai Arbenigol - Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau Cwm Taf Morgannwg.

Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn unol â thudalennau diogelu data corfforaethol y Cyngor yma www.rctcbc.gov.uk/diogeludata

1.    Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae Gwasanaeth Allgymorth Tai Arbenigol - Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau CTM yn garfan amlasiantaeth sydd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys y sefydliadau canlynol:

  • Gwasanaethau Iechyd (GIG)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Barod
  • Adferiad (WCADA)

Caiff atgyfeiriadau eu gwneud i'r garfan yn bennaf gan ein darparwyr trydydd sector sy'n goruchwylio ein hosteli, lleoliadau llety dros dro a Phrosiectau Tai yn Gyntaf. Bydd hyn yn bennaf ar gyfer pobl ddigartref sengl sydd mewn argyfwng ac sydd angen ymyrraeth iechyd.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am unigolion rydyn ni'n ymdrin â nhw ac yn eu cefnogi o dan Ddeddf Tai Cymru 2014, gan gynnwys llety dros dro a phrosiectau Tai yn Gyntaf.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Enw
  • Dyddiad geni
  • Manylion cyswllt
  • Manylion tai gan gynnwys cyfeiriadau cyfredol a blaenorol
  • Gwybodaeth iechyd gan gynnwys manylion unrhyw feddyginiaeth ar bresgripsiwn
  • Manylion dadansoddiad y cartref
  • Anghenion cymorth materion tai
  • Asesiad Risg o ran Tai
  • Gwybodaeth am unrhyw euogfarnau neu droseddau
  • Manylion ariannol - incwm

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n cael yr wybodaeth bersonol mewn nifer o ffyrdd, fel y manylir isod:

  • yn uniongyrchol oddi wrthoch chi;
  • atgyfeiriadau gan wasanaeth arall y cyngor neu sefydliad/trydydd parti arall, er enghraifft Gweithiwr Cymdeithasol, Carfan / Darparwr Tai, Gweithiwr Cymorth, Swyddog Prawf, aelod o'r gwasanaeth Iechyd neu'r Heddlu;
  • atgyfeiriadau i'r gwasanaeth gan aelod o'r teulu / ffrind ac ati.

Rydyn ni hefyd yn paratoi ein gwybodaeth ein hunain pan fyddwn ni'n asesu eich anghenion.

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth uchod er mwyn:

  • ein helpu i ddeall y gwasanaeth y mae angen i ni ei ddarparu;
  • blaenoriaethu atgyfeiriadau i sicrhau ein bod ni'n diwallu anghenion personol ac yn atal digartrefedd;
  • ein helpu i asesu'ch anghenion ac i dargedu'r gefnogaeth gywir ar yr amser iawn; a
  • cwblhau atgyfeiriad i wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner eraill i ddarparu cymorth.

Rydyn ni hefyd yn defnyddio'r wybodaeth er mwyn:

  • rheoli ein gwasanaeth o ddydd i ddydd;
  • datblygu gwell dealltwriaeth o ddarpariaeth ein gwasanaeth, y gwasanaethau y mae angen i ni eu darparu a'r ffordd orau o ddiwallu'ch anghenion; a
  • sicrhau gwelliant parhaus mewn gwasanaeth.

5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Fel awdurdod cyhoeddus, rydyn ni'n cyflawni ein dyletswyddau swyddogol ar gyfer y cyngor ac yn bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol i helpu i fynd i'r afael â chamddefnydd sylweddau, materion iechyd meddwl ac atal digartrefedd o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Tai (Cymru) 2014 
  • Adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998
    • Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
    • Adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977
    • Adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Er mwyn cyflawni hyn, weithiau bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth â phartneriaid dibynadwy, sy'n gweithio gyda ni i gyflawni'r un nod a darparu gwasanaethau a all eich cynorthwyo gyda'ch anghenion tymor hwy.

Sylwch, er y byddwn ni, o bosibl, yn gofyn am eich awdurdodiad i gymryd rhan yn ein gwasanaethau cymorth, nid cydsyniad yw'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth o dan y gyfraith diogelu data. 

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Fel y soniwyd uchod, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth â gwasanaethau eraill y cyngor a sefydliadau partner perthnasol, yn dibynnu ar eich anghenion. Mae modd i'r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Adrannau eraill y cyngor, e.e. Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, Gwasanaethau i Blant
  • Awdurdodau Lleol eraill
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Partneriaid sector gwirfoddol e.e. Barod, Adferiad (WCADA)
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Darparwyr Tai
  • Heddlu De Cymru

Rydyn ni hefyd yn rhannu gwybodaeth does dim modd ei hadnabod (anhysbys) sy'n ymwneud â'r gwasanaeth at ddibenion ystadegol ac ymchwil gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

7.    Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Byddwn ni ond yn cadw gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bo angen ac yn unol â gofynion cyfreithiol.

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9.    Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

Ebost:  AllgymorthArbenigol@rctcbc.gov.uk

Ffonio: 01443 809446 neu 01443 809444

Drwy lythyr: Carfan Allgymorth Tai Arbenigol - Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau, Hostel Stryd y Felin, Stryd y Felin, Pontypridd, CF37 1HF