Skip to main content

Hysbysiad Preifatwrydd Diogelu Plant

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Diogelu Plant

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Diogelu Plant. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am Ran 3 (dyletswydd i asesu), Rhan 6 (plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya) a Rhan 7 (diogelu) y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn ogystal â Deddf Plant 1989, ac felly'n gyfrifol am ymateb i adroddiadau os oes amheuaeth o gam-drin neu esgeuluso plant, gan gynnwys oedolion, gan asiantaethau partner a'r cyhoedd.

Mae modd i'r cyhoedd roi gwybod i Garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y Cyngor am bryderon ynghylch plentyn neu blant sydd mewn perygl, a hynny ar-lein, yn ysgrifenedig, neu'n uniongyrchol wrth siarad â gweithiwr cymdeithasol/rheolwr gofal.

Y garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y Cyngor/rheolwr gofal/gweithiwr cymdeithasol fydd yn penderfynu pa ymateb sydd ei angen, er enghraifft.

  • Trafodaeth gyda'r unigolyn dan sylw ynghylch y pryderon posibl;
  • Penderfynu a yw gwybodaeth a chyngor yn briodol; 
  • Cynnig asesiad neu adolygiad o anghenion gofal a chymorth;
  • Penderfynu a ddylid cyfeirio'r pryderon at Hwb Diogelu Amlasiantaethol Cwm Taf (MASH) i'w ystyried dan weithdrefnau diogelu plant.

Mae'r Hwb Diogelu Amlasiantaeth - Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn fan cysylltu ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol i roi gwybod am bryderon ynghylch unigolion sydd o bosib yn cael eu cam-drin. Mae hon yn bartneriaeth rhwng y sefydliadau a'r asiantaethau canlynol:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau i Blant
  • Heddlu De Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
  • Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol 
  • Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
  • Addysg

Pan fydd pryder yn cael ei gyfeirio at Hwb Diogelu Amlasiantaeth, rhaid gwneud penderfyniad ynghylch rhannu manylion am yr unigolyn a allai fod mewn perygl, yr unigolyn sy'n rhannu'r pryder ac unrhyw bobl honedig sy'n gyfrifol am gam-drin / esgeuluso, gydag unrhyw un o'r partneriaid sydd wedi'u nodi uchod (cyfeiriwch at adran 6 i ddysgu rhagor am rannu gwybodaeth).

Mae'r penderfyniad yma'n cael ei wneud ar sail y risg i'r unigolyn sydd wedi'i asesu ac o ystyried a oes unrhyw risgiau i unigolion eraill, gan gynnwys plant, oedolion sy'n agored i niwed neu i'r cyhoedd yn ehangach.

2.  Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Mae gan y Cyngor wybodaeth sy'n ymwneud ag atgyfeiriadau blaenorol a chyfredol i'r Garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a'r Hwb Diogelu Amlasiantaeth. Gall yr atgyfeiriadau hyn gynnwys gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â:

  • Unrhyw un sydd mewn perygl (plentyn neu oedolyn)
  • Unrhyw un sy'n cael ei amau o gam-drin
  • Aelodau o'r teulu / Cynhalwyr
  • Unrhyw berson neu bobl eraill sydd mewn perygl a all fod yn byw yn y tŷ
  • Unrhyw dystion i hynny
  • Y person a nododd y pryder (gweithiwr proffesiynol neu aelod o'r cyhoedd)

Bydd y math o wybodaeth y bydd y Cyngor yn ei dal yn amrywio yn dibynnu ar natur y pryder, ond mae'n debyg y bydd yn cynnwys peth neu'r cyfan o'r wybodaeth ganlynol:

Y person sydd mewn perygl:

  • Enw, dyddiad geni a manylion personol eraill megis rhif yswiriant gwladol, rhif cyfeirnod yr awdurdod lleol, rhif cyfeirnod iechyd
  • Manylion unrhyw gyswllt blaenorol â'r sefydliadau sydd wedi'u rhestru uchod
  • Gwybodaeth am anabledd (os yw'n berthnasol)
  • Manylion meddyg teulu / gweithiwr cymdeithasol neu fanylion gweithwyr proffesiynol eraill sy'n rhan o bethau
  • Unrhyw hanes o gam-drin domestig
  • Euogfarnau blaenorol
  • Risg posibl i eraill

Gweithiwr proffesiynol sy'n nodi'r pryder:

  • Enw, manylion cyswllt
  • Teitl Swydd
  • Sefydliad/Mudiad
  • Perthynas â'r plentyn/plant

Manylion y person sy'n achosi pryder:

  • Enw
  • Oed, dyddiad geni
  • Rhywedd
  • Ethnigrwydd
  • Manylion cyswllt
  • Perthynas â'r plentyn/plant sydd mewn perygl
  • Cyflogaeth

Cynhaliwr / rhywun arall yn y cartref:

  • Enw, cyfeiriad, dyddiad geni, gwybodaeth gyswllt (e-bost, ffôn ac ati)
  • Perthynas â'r person sydd mewn perygl
  • Rhywedd
  • Ethnigrwydd
  • Perthynas â'r plentyn/oedolyn sydd mewn perygl

Manylion y person sy'n nodi pryder:

  • Enw a chyfeiriad
  • Rhif ffôn cyswllt
  • Perthynas â'r unigolyn sydd mewn perygl

3. O ble mae'r gwasanaeth yn derbyn gwybodaeth bersonol?

Mae'r Garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a/neu'r Hwb Diogelu Amlasiantaeth yn derbyn gwybodaeth sy'n ymwneud â phryder posibl mewn sawl ffordd, mae'r rhain yn cynnwys, ond dydyn nhw ddim yn gyfyngedig, i:

  • Yr unigolyn sydd mewn perygl,
  • Aelod o deulu'r person sydd mewn perygl, neu ffrind neu gymydog iddo,
  • Aelod o'r cyhoedd sy'n pryderu,
  • Gweithiwr proffesiynol gan gynnwys gweithiwr cymdeithasol, nyrs, meddyg teulu neu swyddog tai ac ati.
  • Yr Heddlu

Os yw'r pryderon yn cael eu cyflwyno gan aelod o'r cyhoedd, mae'r person sy'n adrodd yn cael dewis a yw'n barod i'w enw gael ei rannu gyda'r bobl berthnasol. Os yw'r person sy'n adrodd yn aelod o'r cyhoedd, mae gan y person yna hawl i aros yn anhysbys. Dyw hyn ddim yn berthnasol i weithwyr proffesiynol. Rhaid i weithiwr proffesiynol ddatgelu ei hunaniaeth a'i fanylion cyswllt.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'r wybodaeth bersonol?

Bydd staff y Cyngor yn y Garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a/neu'r Garfan Diogelu yn adolygu'r wybodaeth sy'n cael ei darparu ac yn penderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach. Mae'r penderfyniad yma'n seiliedig ar os oes niwed difrifol wedi'i achosi i'r plentyn/plant sydd mewn perygl neu a oes risg barhaus o niwed difrifol.

Pan fydd angen gweithredu ymhellach, mae modd i hyn olygu gofyn i weithiwr proffesiynol perthnasol wneud ymholiadau pellach, gan gynnwys cysylltu â'r plentyn/person ifanc/rhiant/cynhaliwr a/neu warcheidwad a gofyn am ragor o wybodaeth gan yr unigolyn sydd wedi rhoi gwybod am y pryder. Mae hefyd modd gofyn am ragor o wybodaeth gan unrhyw weithwyr proffesiynol neu asiantaethau eraill sydd wedi ymwneud â'r oedolyn mewn perygl ac unrhyw berson sy'n cael ei amau o gam-drin / esgeuluso plentyn/oedolyn sydd mewn perygl.

Yn ddibynnol ar ganlyniad yr ymholiadau hyn, mae modd i Heddlu De Cymru gynnal ymchwiliad troseddol ffurfiol, a allai arwain at ofyn i dystion ddarparu tystiolaethau yn y llys, ac o bosibl, bydd troseddwyr honedig yn cael eu dyfarnu'n euog yn droseddol a / neu'n cael eu nodi i'w cyrff proffesiynol ac i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) os yw'n briodol.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Ein sylfaen gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth bersonol ar gyfer yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth er mwyn cwrdd â gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yw:

Gwybodaeth Bersonol:

Erthygl 6 1. (c), (e) – i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gwybodaeth Categori Arbennig (h.y. gwybodaeth am hil, tarddiad ethnig, gwleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth undeb llafur, geneteg, biometreg, iechyd, bywyd neu gyfeiriadedd rhyw):

Erthygl 9 2. (g) – i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Erthygl 10 - yn unol ag Atodlen 1, Rhan 2.6 (1)(b) o Ddeddf Diogelu Data 2018.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Bydd pryderon sy'n bodloni'r wybodaeth ar gyfer y trothwy o ran diogelu plant yn cael eu rhannu rhwng y sefydliadau partner o fewn yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth (sydd wedi'u rhestru uchod). Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal drwy drafodaeth strategaeth amlasiantaethol. Yn ystod y drafodaeth, rhaid penderfynu ynglyn â'r angen i gymryd unrhyw gamau pellach i ddiogelu'r plentyn neu blant sydd mewn perygl.

Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth bersonol pan fo'n cael ei ystyried yn angenrheidiol er mwyn diogelu person sydd mewn perygl. Mae esiamplau'n cynnwys, ond dydyn nhw ddim yn gyfyngedig i:

  • Rhannu gwybodaeth berthnasol â Heddlu De Cymru er mwyn canfod ac atal troseddu
  • Rhannu Gwybodaeth berthnasol ag awdurdodau lleol eraill os yw'r plant sydd mewn perygl uniongyrchol yn byw yn yr ardal
  • Rhannu gwybodaeth berthnasol â Gwasanaethau i Blant CBS Rhondda Cynon Taf pan fydd plant mewn perygl wedi'u nodi

7. Am faint o amser fyddwch chi'n cadw'r wybodaeth bersonol?

Am resymau gweinyddol, caiff cofnodion sy'n ymwneud â phlant eu cadw gyhyd ag sy'n angenrheidiol, yn unol â deddfwriaeth, a hynny at y diben neu'r dibenion penodol maen nhw'n cael eu cadw.

8. Beth yw fy hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth sydd gyda chi amdanaf?

Mae'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn prosesu gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau canlynol:

  • E-bost: CarfanAdolyguAmddiffynPlant@rctcbc.gov.uk
  • Ffôn: 01443 490120
  • Cyfeiriad post: Y Gwasanaeth Diogelu ac Adolygu, Tŷ Catrin, Uned 1, Ystâd Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime, Pontypridd, CF37 1NY