Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Ddibenion Gofal a Chymorth

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gofal a Chymorth

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yna. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw'n bwriad ni o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Gofal a Chymorth. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae'r gwasanaeth yn gweithio gydag oedolion sy'n agored i niwed ac oedolion sydd ag anghenion cymhleth er mwyn cynnal

  • Asesiad Gofal Cymdeithasol
  • Asesiad Galluedd Meddwl
  • Cynllunio ac adolygu gofal a chymorth
  • Cynllunio ac adolygu gofal a thriniaeth (ar gyfer pobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl)
  • Comisiynu gofal a chymorth
  • Gwasanaethau cymdeithasol gan gynnwys diogelu

Mae'r gwasanaeth yn gweithio i gyrraedd y nodau canlynol

  • Sicrhau bod yr unigolion a’u hanghenion yn ganolog i’w gofal, a rhoi llais a rheolaeth i bobl o ran sicrhau’r deilliannau a fydd yn eu helpu i sicrhau'u lles.
  • Cefnogi pobl ag ymyriadau sy'n lleihau'r angen am gymorth critigol a gwella eu hannibyniaeth.
  • Cyd-weithio ag unigolion ac adeiladu ar y pethau da sydd eisoes yn gweithio ym mywydau pobl.

Mae'n ddyletswydd ar y gwasanaeth i gydymffurfio â'r Gyfraith a gweithio i ofynion penodol y canlynol:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
  • Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983
  • Mesur Iechyd Meddwl 2010

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Mae modd i'r wybodaeth amdanoch chi rydyn ni'n ei chasglu wrth gynnal asesiad o'ch anghenion gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

Chi

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad Geni
  • Manylion cyswllt gan gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost
  • Manylion eich meddyg teulu
  • Manylion am eich anghenion gofal a chymorth a sut y dylid diwallu'r rhain

Eich teulu/cynhalwyr

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt gan gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost
  • Manylion unrhyw anawsterau y gallech fod wedi gorfod diwallu anghenion aelod o'ch teulu. 

Er mwyn sicrhau ein bod yn deall eich holl anghenion, mae'n bosibl bydd raid i ni ofyn i chi, eich teulu a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill am wybodaeth bersonol a sensitif iawn amdanoch chi. Bydd hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • Gwybodaeth am unrhyw gyflyrau iechyd, gan gynnwys meddyginiaeth
  • Anghenion ymataliaeth
  • Diddordebau cymdeithasol, diddordebau, anghenion crefyddol a diwylliannol (os yw'n addas)
  • Cartref, a sut mae'ch cartref yn diwallu'ch anghenion
  • Rôl y teulu a sut maen nhw'n eich cefnogi chi

3.  O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae modd i ni dderbyn eich gwybodaeth bersonol mewn nifer o ffyrdd, a allai gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • Atgyfeiriadau gan garfan Un Pwynt Mynediad y Cyngor
  • Gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill, er enghraifft nyrsys ardal, wardiau ysbyty, nyrsys seiciatryddol, meddygon teulu, Therapyddion Galwedigaethol ac ati
  • Sefydliadau trydydd parti, er enghraifft, darparwyr gofal cartref, darparwyr cartrefi gofal, awdurdodau lleol eraill ac ati
  • Chi a'ch teulu

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei darparu i ni i sicrhau bod eich asesiad yn gynhwysfawr ac i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'ch amgylchiadau mewn ffordd gyfannol

5.  Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond pan fo rheswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig gwasanaeth cymorth yn y cartref i chi ac i fodloni gofynion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:

Gwybodaeth Bersonol:

Erthygl 6 1. (c), (e) - i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
  • Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983
  • Mesur Iechyd Meddwl 2010 

Gwybodaeth Categori Arbennig (h.y. gwybodaeth  am hil, tarddiad ethnig, gwleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth undeb llafur, geneteg, biometreg, iechyd, bywyd neu gyfeiriadedd rhyw):

Erthygl 9 2. (g) - i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
  • Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983
  • Mesur Iechyd Meddwl 2010

Erthygl 9 2.(h) - Cefnogi darparu meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, diagnosis meddygol, darparu triniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Sylwch, er bod modd i ni ddarparu gwybodaeth i chi am rannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill sy'n ymwneud â'ch gofal, dyw caniatâd ddim yn sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth o dan y gyfraith diogelu data. 

6.  Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Er mwyn rhoi’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnoch chi, bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth chi â gwasanaethau / sefydliadau / gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, yn dibynnu ar eich anghenion. Mae'r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

Mewnol

  • Cymorth yn y cartref
  • Gwasanaeth Byw Bywyd yn Annibynnol
  • Trafnidiaeth
  • Hamdden
  • Gofal preswyl
  • Ailalluogi a Gofal Canolraddol
  • Gofal Oriau Dydd
  • Gwasanaeth codi tâl am ofal preswyl a dibreswyl
  • Gwasanaethau Materion y Synhwyrau
  • Therapydd Galwedigaethol yn y Gymuned
  • Cyngor ar faterion Tai
  • Cefnogi Pobl
  • Gwasanaeth prynu a chomisiynu (brocer gofal yn y cartref)
  • Adran Gyfreithiol
  • Cynllun Cynnal y Cynhalwyr 

Allanol

  • Meddygon Teulu
  • Seiciatrydd
  • Nyrs Seiciatrig Gymunedol
  • Clinig Cof
  • Carfan ymyrraeth dementia arbenigol
  • Staff ysbyty
  • Nyrsys ardal
  • Therapydd Galwedigaethol
  • Ffisiotherapyddion Iechyd
  • Darparwyr Gofal yn y Cartref
  • Darparwyr Cartrefi Gofal
  • Y Gwasanaeth Prawf
  • Yr Heddlu
  • Y Llysoedd
  • Darparwyr Tai
  • Canolfan Byw Annibynnol DEWIS
  • Darparwyr trydydd sector (e.e. Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Age Connect, Care and Repair, Cymdeithas Alzheimers, Friendly Trust ac ati)
  • Sefydliadau allanol rydyn ni'n eu comisiynu i gyflawni gwaith ar ein rhan.

Mae gyda ni hefyd ddyletswydd i rannu unrhyw bryderon sydd gyda ni ynglŷn â diogelwch a / neu les unigolyn sy'n agored i niwed i'r garfan Diogelu Oedolion

7. Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Mae cofnodion sy'n ymwneud ag Oedolion yn cael eu cadw at ddibenion gweinyddol am o leiaf 7 mlynedd ar ôl i'w cysylltiad ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben. 

Mae cofnodion am anghenion iechyd unigolyn yn cael eu cadw am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i'w gysylltiad ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

Adborth Cwsmeriaid 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Bronwydd
Y Porth
CF39 9DL

neu

Pennaeth Gofal a Chymorth i Oedolion
Tŷ Elái,
Ystad Ddiwydiannol Dinas Isaf,
Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY