Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Recriwtio

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Recriwtio  

Mae'r Cyngor yn gyflogwr ac mae'n darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae gwneud y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am ein cyflogedigion a'n gweithlu a'r bobl sy'n gwneud cais am swyddi gyda'r Cyngor, a chadw cofnodion amdanyn nhw. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion sy'n gwneud cais am swydd gyda ni, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion recriwtio. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd gweithlu'r Cyngor  a hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf (y sefydliad) yn casglu a phrosesu data personol sy'n ymwneud â'r ymgeiswyr er mwyn rheoli'r broses ymgeisio, dewis a recriwtio fel ein bod ni'n recriwtio ymgeiswyr addas i'r sefydliad.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma'n trafod ein proses recriwtio ar gyfer gweithwyr â thâl a'n gweithwyr heb dâl, gan gynnwys gwirfoddolwr. Os ydych chi'n cyflawni profiad gwaith neu interniaeth gyda'r Cyngor, darllenwch 'Hysbysiad Preifatrwydd Profiad Gwaith ac Interniaeth' y Cyngor. Os ydych chi'n cyflawni hyfforddeiaeth, darllenwch 'Hysbysiad Preifatrwydd rhaglen Gofal i Waith a rhaglen Camu i'r Cyfeiriad Cywir'.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ymgeiswyr am swyddi.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Eich enw, eich cyfeiriad a'ch manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn, dyddiad geni a rhyw. 
  • Manylion eich cymwysterau, eich sgiliau, eich profiad a'ch hanes cyflogaeth, gan gynnwys dyddiadau dechrau a gorffen, gyda chyflogwyr blaenorol a'r sefydliad os yw'n berthnasol. 
  • Gwybodaeth am eich gradd / cyflog blaenorol. 
  • Gwybodaeth am eich cenedligrwydd a'ch hawl i weithio yn y DU. 
  • Gwybodaeth am eich cofnod troseddol. 
  • Gwybodaeth am gyflyrau meddygol neu iechyd, er enghraifft, a oes gyda chi anabledd y mae angen i'r sefydliad wneud addasiadau rhesymol ar ei gyfer. 
  • Gwybodaeth monitro cyfleoedd cyfartal gan gynnwys gwybodaeth am eich tarddiad ethnig, tuedd rywiol a chrefydd neu gred.

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae'r sefydliad yn casglu'r wybodaeth yma mewn ffyrdd amrywiol. Er enghraifft, yn uniongyrchol oddi wrthych chi trwy'ch ffurflen gais ac o'ch pasbort neu ddogfennau adnabod eraill, fel eich trwydded yrru. Caiff gwybodaeth hefyd ei chasglu gan drydydd parti. Mae modd i hyn gynnwys geirdaon gan eich cyn-gyflogwyr, gwybodaeth gan ddarparwyr gwirio cefndir at ddibenion cyflogaeth, ac archwiliadau cofnod troseddol sy'n cael eu caniatáu yn ôl y gyfraith.

4.  Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Mae angen i ni brosesu data i greu rhestr fer o ymgeiswyr, dewis a recriwtio pobl addas i swyddi gwag a bodloni'n rhwymedigaethau cyfreithiol. Er enghraifft, mae angen gwybodaeth gyswllt arnon ni i roi gwybod i chi am gynnydd, efallai bydd angen cymwysterau a phrofiad penodol ar rai swyddi, neu efallai bydd angen i ni gynnal gwiriad cofnod troseddol.

Efallai bydd angen i ni hefyd brosesu data i sicrhau ein bod yn bodloni'n rhwymedigaethau cyfreithiol, er enghraifft i wirio'ch hawl i weithio yn y DU.

Efallai byddwn ni'n defnyddio'ch data i gysylltu â chi mewn perthynas â chyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

Os ydych chi'n llwyddiannus ac yn derbyn y swydd rydych chi wedi gwneud cais amdani, bydd yr wybodaeth rydych chi wedi'i darparu ar eich ffurflen gais yn cael ei throsglwyddo i'ch ffeil bersonol.

Mae categorïau arbennig eraill o ddata personol, fel gwybodaeth am ei tarddiad ethnig, tuedd rywiol, crefydd neu gred, yn cael eu casglu at ddibenion monitro cyfleoedd cyfartal a'u trosglwyddo i'ch ffeil bersonél os ydych chi'n llwyddiannus ac yn derbyn y swydd y gwnaethoch chi gais amdani. Mae'r rheiny sy'n cymryd rhan yn gwbl rydd i benderfynu a ydyn nhw'n darparu data o'r fath ai peidio a does dim canlyniadau o beidio â gwneud hynny. Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydyn ni'n defnyddio gwybodaeth monitro cyfleoedd cyfartal, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Cydraddoldeb ac Amrywioldeb.

5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio'ch gwybodaeth bersonol fydd prosesu eich gwybodaeth bersonol a gweithredu yn unol â'ch cais cyn cychwyn contract gyda chi. Rydyn ni angen prosesu'ch gwybodaeth er mwyn cychwyn contract cyflogaeth gyda chi ac i fodloni'n rhwymedigaethau cyfreithiol fel cyflogwr. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, gwirio bod hawl gyda chi i weithio yn y DU.

Os ydych chi'n gwneud cais am swydd heb dâl, er enghraiff,; cais i wirfoddoli, ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yw prosesu'ch gwybodaeth bersonol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau yn ymwneud â swyddogaeth Recriwtio, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth gyda'r canlynol:

Adrannau eraill y Cyngor, er enghraifft:

  • Adnoddau Dynol
  • Rheolwr Recriwtio
  • Panel Llunio Rhestr Fer
  • Y panel cyfweld

Lle bo'n berthnasol, efallai bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei rhannu gyda'r canlynol:

Gwasanaethau Cyhoeddus eraill / Cyrff rheoleiddio eraill, er enghraifft:

  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - i gyflawni gwiriadau cofnod troseddol

Efallai bydd y sefydliad hefyd yn rhannu eich data gyda thrydydd parti yng nghyd-destun cyflogwr ar y cyd, er enghraifft Awdurdodau Lleol / Cynghorau eraill a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Lle bo hyn yn berthnasol, byddwn ni'n cyfeirio at y cyflogwyr eraill ym manylion y swydd.

Sefydliadau / Unigolion eraill, er enghraifft:

  • Cyrff achredu ar gyfer cymwysterau unigol a safonau gwasanaeth
  • Ymgynghorwyr ac asiantaethau recriwtio
  • Ysgolion
  • Cyn-weithwyr
  • Canolwyr eraill
  • Sefydliadau fel Coleg y Cymoedd ac ymgynghorwyr fel Saville Consulting ar gyfer profion datblygu, profion seicometreg a phrofion gallu

Cyflenwyr y System:

  • Oleeo - system e-recriwtio.

7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd ei hangen arnon ni. Fyddwn ni ddim yn cadw'ch gwybodaeth yn hirach nag sydd ei hangen. Os yw'ch cais yn llwyddiannus, bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'ch ffeil bersonél, gydag unrhyw ddata categori arbennig a data cydraddoldeb rydych chi wedi'u rhoi.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau"

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9. Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost recriwtio@rctcbc.gov.uk

Ffôn:   01443 444533

Trwy lythyr: Yr Adran Adnoddau Dynol, Tŷ Elái, Trewiliam, Tonypandy. CF40 1NY