Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Deisebau

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion prosesu Deisebau

 Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yna. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw'n bwriad ni o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion prosesu Deisebau. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.     Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn prosesu deisebau sydd wedi'u llenwi a'u cyflwyno i'r Cyngor gan aelodau o'r cyhoedd, ac aelodau etholedig ar ran etholwyr.

2.     Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Er mwyn prosesu'r ddeiseb, mae angen i'r Cyngor gael y llofnodion sy'n cefnogi'r ddeiseb, ynghyd ag enwau a chyfeiriadau'r llofnodwyr i ddilysu'r ddeiseb a chynnal cyfanrwydd ac ansawdd y 'rhestr lofnodion'.

Pan fydd aelod o'r cyhoedd yn arwain y ddeiseb, bydd y ddeiseb hefyd yn cynnwys ei enw a'i gyfeiriad fel pwynt cyswllt.

Pan fydd aelod etholedig yn arwain y ddeiseb ar ran ei etholwyr, bydd y ddeiseb hefyd yn cynnwys enw'r aelod etholedig a'i ward.

3.     O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Caiff yr wybodaeth ei chasglu'n uniongyrchol gennych chi wrth i chi nodi'ch manylion ar y ddeiseb.

 4.     Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu fy ngwybodaeth bersonol?

Unwaith y bydd y Cyngor yn derbyn y ddeiseb, bydd yn cael ei throsglwyddo i'r maes gwasanaeth perthnasol i'w hadolygu a'i hystyried. Bydd yr Aelod perthnasol o'r Cabinet yn cael gwybod am gynnwys y ddeiseb hefyd. Bydd swyddog perthnasol y Cyngor sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â'r ddeiseb yn cadw manylion cyswllt y prif lofnodwr er mwyn ei ddiweddaru ynglŷn â chynnydd y ddeiseb ac unrhyw ganlyniadau a ddaw yn ei sgil.

Yn aml, bydd deisebau'n cael eu cyflwyno gan Aelod Etholedig ar ran ei etholwyr yng nghyfarfod y Cyngor.  Bydd cyflwyno'r ddeiseb yn y ffordd yma yn cael ei nodi yng nghofnodion y Cyngor, ynghyd ag enw'r Aelod Etholedig sy'n ei chyflwyno a chrynodeb o gynnwys y ddeiseb. Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddatgelu yn y cofnodion.

Os yw deiseb yn bodloni 'meini prawf cyhoeddi deisebau' y Cyngor, yna bydd manylion y ddeiseb, h.y. nifer y llofnodwyr a natur y ddeiseb, yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ar ei dudalen ddeiseb bwrpasol.  Wrth ymyl hyn, bydd ymateb yr Aelod o'r Cabinet i'r ddeiseb.  Unwaith eto, ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddatgelu ar y dudalen we hon.


5.    
Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Rydyn ni'n casglu'ch gwybodaeth bersonol a'i defnyddio dim ond pan fo rhaid gwneud hynny i gyflawni'n tasgau neu ddyletswyddau cyhoeddus yn Awdurdod Lleol, yn unol ag Erthygl 6.(1)(e) y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

6.     Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Rhaid cadw cofnodion o ddeiseb am 6 blynedd ar ôl dyddiad y ddeiseb.

7.     Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

8.     Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau canlynol:

E-bost: BusnesyCyngor@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424110

Trwy lythyr: Uned Busnes y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Cambrian, Cwm Clydach, CF40 2XX