Skip to main content

Bwyd wedi'i fewnforio

Mewnforion masnachol

Wrth fewnforio bwyd yn fasnachol, mae angen i chi wybod am y rheoliadau sy'n berthnasol i gynhyrchion penodol a hefyd reolau cyffredinol am bethau fel labelu ac ychwanegion. Mae'n bosibl y bydd methu â chydymffurfio â rheolau hylendid a diogelwch y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn achosi oedi wrth gludo llwythi, cynyddu costau ac arwain at gamau gweithredu gan awdurdodau gorfodi.

Os ydych chi'n bwriadu mewnforio bwyd yn fasnachol, mae'n bwysig eich bod chi'n mynd i'r tudalennau am Fewnforion ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am fwyd wedi'i fewnforio a rheolaethau bwyd wedi'i fewnforio, cysylltwch â Changen Bwyd wedi'i Fewnforio yr Asiantaeth Safonau Bwyd:

Ffôn: 020 7276 8018
E-bost: imported.food@foodstandards.gsi.gov.uk

Cyn cysylltu â llinell gymorth yr Asiantaeth, mae modd i weithredwyr busnesau bwyd fewngofnodi i gronfa ddata'r Asiantaeth - sef Canllawiau a Chyngor Rheoliadol ar Ddeddfwriaeth Fewnforio (‘GRAIL’) – a gweld yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfraith bwyd wedi'i fewnforio a chanllawiau.

Mewnforion personol

Mae mewnforion personol yn cynnwys pethau rydych chi'n eu dod â nhw i mewn i'r wlad ar gyfer eich defnydd personol eich hun, ac yn peidio â'u gwerthu i bobl eraill.

Er enghraifft, os byddwch chi'n dod ag ychydig o olew olewydd yn ôl o'ch gwyliau yn Nhwrci i chi gael ei ddefnyddio yn eich cartref, bydd hynny'n fewnforyn personol. Mae rheolau ynglŷn â mewnforion personol hefyd yn cynnwys parseli bwyd wedi'u postio dramor at unigolion yn y Deyrnas Unedig.

Os ydych chi am ddod â bwyd i mewn i'r wlad ar gyfer eich defnydd personol yn unig, ewch i'r adran mewnforion personol ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.