Skip to main content

Cymeradwyo safleoedd bwyd

Os bydd busnes bwyd yn cynhyrchu, yn paratoi neu'n trin cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid, mae'n bosibl bydd raid i'r busnes a'i weithgarwch gael eu cymeradwyo gan y Cyngor. Os nad oes rhaid cymeradwyo'r safle, mae dal yn ofynnol ei  gofrestru gyda'r Cyngor.

Crynodeb o'r rheoliadau

I gael cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid, bydd angen bodloni safonau hylendid penodol sydd wedi'u nodi yn Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 sy'n pennu Rheolau Hylendid ar gyfer Bwyd Sy'n Dod o Anifeiliaid a Rheoliad (EC) Rhif 852/2004.

Meini Prawf Cymhwysedd

Mae'n bosibl y bydd angen cymeradwyaeth ar safle ar gyfer y cynhyrchion canlynol: cig, pysgod (wedi'u lladd), pysgod cregyn (yn fyw neu wedi'u lladd), llaeth, wyau, coesau brogaod, malwod; a chynhyrchion sydd wedi'u gwneud o unrhyw un o'r rhain. Mae hyn hefyd yn cynnwys cynhyrchion fel braster anifeiliaid wedi'i rendro, coluddion wedi'u trin, gelatin, colagen ac ati. Fydd busnes bwyd ddim yn cael ei gymeradwyo oni bai ei fod yn bodloni'r safon ofynnol.

Cyflwyno Cais

Bydd rhaid i fusnesau bwyd beidio â dechrau unrhyw weithgarwch sydd angen ei gymeradwyo, oni bai eu bod nhw wedi derbyn cymeradwyaeth amodol neu lawn ar gyfer y gweithgarwch arfaethedig gan y garfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch. Mae dechrau busnes heb gymeradwyaeth yn drosedd, ac mae'n debygol bydd y busnes yn cael ei erlyn. Does dim ffi ynghlwm wrth gais am gymeradwyaeth.

Os yw perchennog busnes o'r farn bod angen cymeradwyo eu safle, eu pwynt cyswllt cyntaf yw'r Garfan Bwyd ac Iechyd a Diogelwch. Yn dilyn trafodaethau cychwynnol, gellir penderfynu nad oes angen cymeradwyaeth, a bydd y broses cofrestru bwyd arferol yn ddigon.

Os bydd angen cymeradwyo'r safle, bydd angen cyflwyno'r ffurflen gais, ynghyd â:

  • chynllun safle – gall hyn fod wedi'i fraslunio, ond dylai'r cynllun adlewyrchu'r safle yn gywir
  • tystiolaeth o'r System Rheoli Diogelwch Bwyd sy'n seiliedig ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (‘HACCP’)

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd ddarparu llawer iawn o wybodaeth ar y ffurflen cais am gymeradwyo safle.  Cymerwch amser i ystyried y ffurflen yn ofalus a sicrhau eich bod chi'n ei llenwi'n llawn ac yn fanwl.

Ar ôl derbyn cais am gymeradwyaeth, bydd swyddog yn adolygu'r cais i wirio bod y manylion llawn wedi'u cynnwys, yna'n trefnu gyda'r ymgeisydd i ymweld â'r safle. Mae hyn yn helpu i wirio'r manylion ar y cais, yn ogystal â thrafod unrhyw faterion neu ofynion mae angen i'r ymgeisydd eu bodloni.

Fel arfer, bydd ymweliad â'r safle yn cyfateb i arolygiad safle bwyd.

Yn dilyn arolygiad safle a phenderfyniad y swyddog bod yr holl ofynion wedi'u bodloni, bydd y safle'n cael ei gymeradwyo ac yn derbyn rhif cymeradwyo unigryw, sy'n rhan o'r marc adnabod safonol. Mae'n rhaid cynnwys y rhif yma ar bob cynnyrch a dogfen, sy'n sicrhau bod modd eu holrhain yn ôl at y cwmni. Bydd y swyddog wedi trafod hyn gyda'r ymgeisydd yn ystod y broses cyflwyno cais.

Bydd y Garfan Bwyd ac Iechyd a Diogelwch yn gosod targed o 28 diwrnod olynol er mwyn penderfynu p'un a ellir cymeradwyo'r safle ai peidio. Os fyddwch chi ddim wedi cael unrhyw adborth oddi wrth y garfan ar ôl i'r cyfnod yma ddod i ben, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod. Dyw hynny ddim yn golygu bod eich cais wedi cael ei gymeradwyo.

Wrth benderfynu ar gymeradwyo'r safle, bydd yr ymgeisydd yn derbyn llythyr, ynghyd â'r ffurflen Rhoi Cymeradwyaeth. Os fydd y cais ddim yn cael ei gymeradwyo, bydd yr ymgeisydd yn derbyn llythyr sy'n egluro'r penderfyniad.

Sut mae gwneud cais?

I gwblhau'ch cais am gymeradwyaeth ar-lein, cliciwch y ddolen isod:

NODER: I olygu'r ffurflen gais, bydd angen fersiwn ddiweddar o'r feddalwedd Adobe Acrobat Reader arnoch chi

Neu , bydd modd i chi:

Argraffu'r PDF oddi ar y ddolen uchod, neu ofyn i ni anfon un atoch chi. Ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen, dylech chi ei hanfon trwy’r post neu ei chyflwyno'n bersonol i'r Garfan Bwyd ac Iechyd a Diogelwch gan ddefnyddio'r manylion ar waelod y dudalen yma. 

Y Broses Apelio

Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn gyntaf. Os byddwn ni'n gwrthod eich cais am gymeradwyaeth, bydd modd i chi apelio yn eich llys ynadon lleol. Mae hawliau apelio yn ddarostyngedig i reoliad 12 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005.

Cwynion/Gwrthwynebu

Os ydych chi o'r farn ein bod ni wedi methu â rhoi gwasanaeth da neu'n pryderu ynghylch cynnydd eich cais, cysylltwch â'r garfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch. Byddwn ni'n ceisio datrys unrhyw bryderon sydd gyda chi.

Mae hefyd weithdrefn cwyno ffurfiol gan y Cyngor. 

Cofrestri Cyhoeddus

Bydd manylion cyfeiriad y safle bwyd a natur y busnes yn cael eu hychwanegu at gofrestr. Mae modd i'r cyhoedd weld y gofrestr yma. Fydd cofnodion y manylion eraill sy'n cael eu darparu ddim ar gael i'w gweld gan y cyhoedd nac yn cael eu rhannu gydag unrhyw un y tu allan i'r Cyngor, Adrannau'r Llywodraeth Leol ac Asiantaethau'r Llywodraeth. Bydd y manylion yn cael eu defnyddio at ddibenion cofrestru, gweithredu a diogelu cyllid cyhoeddus.

Carfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch

Uwchadran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy 
CF40 1NY 
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
Tudalennau Perthnasol