Skip to main content

Cofrestru busnes bwyd

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n sefydlu busnes bwyd gofrestru gyda'r awdurdod lleol o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn i'r busnes agor.

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n sefydlu busnes bwyd gofrestru gyda'r awdurdod lleol o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn i'r busnes agor.

I gofrestru'ch busnes bwyd ar-lein, cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen isod:

NODER: Mae’r broses gofrestru ar-lein yn cael ei hwyluso gan Lywodraeth San Steffan ac ar gael yn Saesneg yn unig. Cliciwch YMA er mwyn lawrlwytho ffurflen Gymraeg. Mae croeso i chi ei chwblhau a’i hanfon yn uniongyrchol at Bwyd.IechydaDiogelwch@rctcbc.gov.uk

Os bydd busnes bwyd yn cynhyrchu, yn paratoi neu'n trin cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid, mae'n bosibl bydd raid i'r busnes a'i weithgarwch gael eu cymeradwyo gan y Cyngor. Gweler einCofrestru busnes bwyd

Problem wrth lenwi'r ffurflen ar-lein? Fel arall, mae modd i chi:

Argraffu'r PDF oddi ar y ddolen uchod, neu ofyn i ni anfon un atoch chi.
Bydd modd i chi lenwi'r ffurflen gais, a'i hanfon hi (neu'i chyflwyno hi'n bersonol) i'r Garfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch. Mae'r cyfeiriad ar waelod y dudalen.

NODWCH: Mae nodi gwybodaeth sydd ddim yn wir yn fwriadol yn drosedd.

Cyflwyno cais

Bydd rhaid i chi roi tic ym mhob blwch sy'n berthnasol i'ch busnes, ateb pob cwestiwn a nodi'r holl wybodaeth sydd ei heisiau.

Mae cofrestru'r safle bwyd yn awtomatig, cyhyd â bod y cais yn cyrraedd y Garfan Bwyd ac Iechyd a Diogelwch, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf , 28 o ddiwrnodau cyn i'r safle agor. Os bydd y ffurflen yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad anghywir, fydd eich cais ddim yn cael ei weithredu hyd nes y bydd yn cyrraedd y man cywir. Os ydych chi'n cynnal busnes y tu mewn i ffiniau un neu ragor o awdurdodau lleol, mae eisiau i chi gofrestru gyda phob awdurdod unigol.

Crynodeb o'r rheoliadau

Mae Erthygl 6 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 ar Hylendid Bwydydd yn gofyn bod pob busnes bwyd yn llenwi ffurflen gofrestru, ac yn ei dychwelyd i'r awdurdod lleol perthnasol, cyn agor y busnes bwyd. Rhaid i chi hefyd lenwi a dychwelyd ffurflen gofrestru neu roi gwybod i'r Cyngor os yw:

  • Gweithredwr y busnes bwyd yn newid ar eich safle
  • Y busnes bwyd yn symud i gyfeiriad newydd

Meini Prawf Cymhwysedd

Mae'r gofyniad i gofrestru'ch safle yn cwmpasu unrhyw fusnes sy'n gwerthu bwyd, gan gynnwys diodydd. Mae hyn yn cynnwys: tafarndai; bwytai; gwestai; caffis; siopau; archfarchnadoedd; ffreuturau ar gyfer staff; ceginau mewn swyddfeydd; warysau; tai llety; cerbydau sy'n dosbarthu nwyddau; cerbydau bwffe; stondinau mewn marchnadoedd ac ati; arlwywyr symudol; faniau cŵn poeth a hufen iâ ac ati.

Os ydych chi'n defnyddio cerbydau fel rhan o'ch busnes bwyd, mewn perthynas â safle cofrestredig parhaol fel siop neu warws, mae rhaid i chi roi gwybod i'r awdurdod lleol ynglŷn â faint o gerbydau sydd gyda chi. Does dim rhaid i chi gofrestru pob cerbyd yn unigol. Os oes un cerbyd neu ragor gyda chi, ond dim safle parhaol, mae rhaid i chi roi gwybod i'r awdurdod lleol ynglŷn â ble mae'r cerbyd yn cael ei gadw dros nos.

Cofrestri Cyhoeddus

Bydd manylion cyfeiriad y safle bwyd a natur y busnes yn cael eu hychwanegu at gofrestr. Mae modd i'r cyhoedd weld y gofrestr yma. Fydd cofnodion y manylion eraill sy'n cael eu darparu ddim ar gael i'w gweld gan y cyhoedd nac yn cael eu rhannu gydag unrhyw un y tu allan i'r Cyngor, Adrannau'r Llywodraeth Leol ac Asiantaethau'r Llywodraeth. Bydd y manylion yn cael eu defnyddio at ddibenion cofrestru, gweithredu a diogelu cyllid cyhoeddus.

Cysylltu â'r Garfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch

Bwyd ac Iechyd a Diogelwch

Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Tŷ Elái 
Dinas Isaf 
Trewiliam 
Tonypandy 
CF40 1NY 

Ffôn: 01443 425001 
Ffacs: 01443 425301