Gwasanaethau i Blant

Nod y Gwasanaethau i Blant yma yn Rhondda Cynon Taf yw rhoi'r dechrau gorau posibl i blant a phobl ifainc fel bod modd iddyn nhw ddysgu a thyfu'n ddiogel.

Rydyn ni'n cydnabod ei bod hi’n bosibl y bydd angen ychydig o gymorth pellach arnoch chi a’ch teulu o bryd i’w gilydd. Rydyn ni'n cynnig ystod eang o gymorth, gwybodaeth, cyngor ac ymyrraeth gynnar yn rhan o'n dyletswyddau cyfreithiol ar gyfer plant sydd mewn perygl. Mae modd i ni weithio gyda chi a'ch teulu i roi’r newidiadau sydd o bwys i chi ar waith. Bwriwch olwg ar wybodaeth bellach am Ein Moesau a'n Gweledigaeth.

Rhoi gwybod am bryder ynghylch diogelwch plentyn neu berson ifanc

Oriau dydd: Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.30am a 5pm: 01443 425006
Tu Allan i Oriau Swyddfa ac mewn argyfwng yn unig: Rhwng 5pm a 8.30am ac ar benwythnosau a gwyliau'r banc (24 awr): 01443 743665
I weithwyr proffesiynol yn unig: Ffurflen atgyfeirio C1

Advice

Cymorth a chefnogaeth i deuluoedd

 Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad cyffredinol i deuluoedd
Family-2

Gwasanaethau i Blant – Cymorth a Diogelu

Cyngor a chymorth i'r rheiny sy'n derbyn cyngor ac ymyraethau gan y Gwasanaethau i Blant

Caring

Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifainc

Gwefannau a chyngor i blant a phobl ifainc sy'n derbyn cymorth gan y Gwasanaethau i Blant.

Info

Gwybodaeth ar gyfer unigolion sy'n 16 oed a hŷn

Cyngor i bobl ifainc sy'n hŷn nag 16 sy'n derbyn cymorth gan y Gwasanaethau i Blant, sy'n gadael gofal, sy'n ddigartref, neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref.

Hands-Shaking

Gwybodaeth i rieni, cynhalwyr a theuluoedd

Heart-Caring
Bwriwch olwg ar wybodaeth ynglŷn â sut i ddod yn rhiant maeth a gwybodaeth am fabwysiadau a Gorchmynion Gwarcheidwaeth Arbennig (gofalu am blentyn y tu allan i'r cartref / plant sydd ddim yn byw gyda’u rhieni biolegol).
Playing-Kids

Plant a phobl ifainc o dan 18 oed sy'n gofalu am (neu yn bwriadu gofalu am) riant, oedolyn, brawd neu chwaer sâl neu anabl yw cynhalwyr ifainc

Info

Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ifainc yn cyflawni dyletswydd statudol mewn perthynas â phobl ifainc sy'n gyfrifol am dramgwyddau troseddol. Rydyn ni hefyd yn cynnal prosiect atal. 

Speech

Cymorth a chyngor i sicrhau eich bod chi'n cael dweud eich dweud.