Skip to main content

Gwerthoedd a Gweledigaeth – Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf

Mae gwerthoedd, gweledigaeth a chanllawiau ymarferol Rhondda Cynon Taf wedi'u datblygu ar y cyd ag ymarferwyr er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cyfleu ein dyheadau a'n dulliau.

Childrens Services Values and Vision Wheel

 

Datganiad Gweledigaeth

Yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni eisiau sicrhau bod yr holl blant a phobl ifainc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd a bod modd iddyn nhw ddysgu a thyfu'n ddiogel. Yn y Gwasanaethau i Blant, rydyn ni'n cydnabod bod angen cymorth ychwanegol ar blant a theuluoedd i gyflawni hyn weithiau.  Gan sefydlu perthnasoedd yn seiliedig ar ein gwerthoedd, rydyn ni'n gweithio ochr yn ochr â phlant a theuluoedd, wrth adeiladu ar gryfderau i alluogi newid cadarnhaol a blaenoriaethu ein rôl yn cadw plant yn ddiogel.

Datganiad Gwerthoedd

  • Teulu: Rydyn ni'n hyrwyddo hawl plant i fywyd teuluol. Byddwn ni bob amser yn gweithio yn ôl ethos 'teulu yn gyntaf' ac yn meddwl yn eang am yr hyn y gallai teulu ei olygu i blentyn.
  • Cymorth: Rydyn ni'n cefnogi teuluoedd i dderbyn y cymorth sydd ei angen pan mae ei angen. Rydyn ni'n rhoi rhagor o gymorth, neu weithiau'n rhoi llai o gymorth, ond dydyn ni ddim yn camu i ffwrdd yn rhy fuan.
  • Parch: Rydyn ni'n parchu unigoliaeth unigryw pawb ynghyd â'u hamgylchiadau a dewisiadau, ac yn sicrhau bod pobl ifainc a'u teuluoedd yn rhan o'n gwaith a phenderfyniadau sy'n ymwneud â'u bywydau ac amgylchiadau.
  • Tosturi: Wrth fynd ati i roi cymorth, rydyn ni'n defnyddio dull sydd wedi'i lywio gan drawma, yn blaenoriaethu empathi a meithrin perthnasoedd cadarn wrth weithio gyda phlant a theuluoedd.
  • Cryfderau teuluoedd a diogelu: gallai hynny olygu gweithio gyda theuluoedd er mwyn nodi deilliannau maen nhw am eu cyflawni, adeiladu ar gryfderau a gweithio i leihau peryglon.
  • Sefydlogrwydd: Rydyn ni'n hyrwyddo sefydlogrwydd ar gyfer pobl ifainc sy'n derbyn cymorth ac yn deall y bydd angen cymorth arbenigol arnyn nhw.
  • Balchder: Rydyn ni'n falch iawn o gyflawniadau'r bobl rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw a'r gwaith rydyn ni'n ei gyflawni gyda nhw.
  • Gwella: Rydyn ni'n chwilfrydig am ba mor effeithiol yw ein gwaith ni – rydyn ni'n deall yr effaith a bob tro'n barod i wella ac arloesi.