Skip to main content

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Beth yw'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid?

Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gosod dyletswydd statudol ar bobl ifainc rhwng 10 a 18 oed sy'n gyfrifol am dramgwyddau troseddol. Mae'r Gwasanaeth hefyd yn darparu gwasanaethau atal pwrpasol ar gyfer y plant hynny rhwng 8 ac 17 oed.

Pwy sy'n gweithio i'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid?

Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn garfan aml-asiantaeth sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cyfiawnder ieuenctid, gweithwyr ieuenctid, swyddogion yr heddlu, swyddogion prawf a gweithwyr sy'n helpu dioddefwyr. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnwys swyddog rhianta a gweithwyr sy'n helpu plant a phobl ifainc i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn recriwtio gwirfoddolwyr o'r gymuned a gweithwyr sesiynol ac yn darparu hyfforddiant iddyn nhw er mwyn ymgysylltu â phlant gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Beth yw 'Dull Plant yn Gyntaf'? (Sut rydyn ni'n cefnogi plant a phobl ifainc)

Mae'r Gwasanaeth yng Nghwm Taf yn rhoi dull 'Plant yn Gyntaf' ar waith. Mae'r dull yma'n trin plant fel plant ac yn ceisio sicrhau nad yw plant yn cael eu troseddoli'n ddiangen oherwydd eu bod nhw'n agored i niwed a'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu.

Rydyn ni'n gweithio i

  • Atal aildroseddu
  • Lleihau'r risg o droseddu pellach.
  • Cefnogi plant ar fechnïaeth.
  • Llunio adroddiadau ar gyfer y llys.
  • Goruchwylio plant ar orchmynion llys.
  • Helpu gyda phlant sy'n cael eu rhyddhau i ofal awdurdod lleol.
  • Helpu plant sydd yn y carchar a'r rheiny sydd wedi gadael.

Rydyn ni hefyd yn:

  • Cynnal rhaglenni atal troseddau lleol
  • Cynnig ymyriadau gwirfoddol i blant sydd mewn perygl o gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Helpu plant yn yr orsaf heddlu os ydyn nhw'n cael eu harestio.
  • Cynnal prosiectau allgymorth yn y gymuned.
  • Helpu rhieni, gan gynnwys goruchwylio Gorchmynion Rhianta.
  • Rhoi cymorth i ddioddefwyr

Sut i gysylltu â ni

Ffoniwch y Gwasanaeth yng Nghwm Taf ar:

Ffôn: 01443 827300
E-bost: gwybgti@rctcbc.gov.uk