Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Llwybr Cerdded Treforest

 
 
Francis-Crawshay's-Egyptian-style-obelisk

Er mwyn cael cipolwg diddorol ar hanes diwydiannol Trefforest, byddwch chi'n eich arwain eich hun ar y daith yma, gan ymweld â mannau o ddiddordeb hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol. 

Mae'r daith yn tynnu sylw at leoliadau pwysig yng ngorffennol Trefforest. Un o'r adeiladau yw Tŷ Fforest - Tŷ Crawshay, adeilad rhestredig gradd II ar safle Prifysgol De Cymru, a fu'n gartref i Francis Crawshay. Yn ôl y sôn roedd hwn yn fan cyfarfod ar gyfer seremonïau derwyddol cyfrinachol gyda'i ffrind ecsentrig Dr William Price a ddyfeisiodd y dull modern o amlosgi. Mae safleoedd eraill yn cynnwys man geni Syr Tom Jones a ‘Teyrnas y Grogiaid’. 

Does dim llwybr penodol ar gyfer y daith ac mae modd i chi ddilyn eich trywydd eich gan ymweld â'r mannau sydd o ddiddordeb i chi. Mae'r holl leoliadau wedi'u hamlygu ar fap y daith. 

Nodwch: does dim llwybr penodol ac felly mae'n bosibl y byddwch chi'n dewis cerdded dros dir anwastad, gyda rhai esgyniadau serth a disgyniadau o gwmpas y brifysgol. Mae'n bosibl y bydd y rhain yn anodd ar gyfer pobl sy'n defnyddio cadeiriau gwthio neu gadeiriau olwyn.