Gyda golygfeydd syfrdanol o Gwm Rhondda, mae'r daith yma yn cynnig cipolwg diddorol i chi ar y cwm glo enwog yma.
Gan ganolbwyntio ar yr hen dirwedd ddiwydiannol, mae'r daith yn cychwyn o hen safle Glofa Lewis Merthyr, sydd bellach yn gartref i Daith Pyllau Glo Cymru ac yn dringo'r bryn serth tuag at Lwyncelyn. Ar ben y bryn, cewch chi brofi golygfeydd godidog o Gwm Rhondda oddi tanoch chi.
Mae'r daith 2.5km yn cychwyn ac yn gorffen yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, lle mae modd i chi ddysgu rhagor. Cewch chi'ch tywys ar deithiau dan ddaear gan ein cyn-lowyr, gwarcheidwaid cof y glo, a fydd yn rhannu o'u profiad uniongyrchol o weithio yn y pwll.
Nodwch fod y daith yma yn cynnwys gwahanol fathau o dirwedd, gan gynnwys llwybrau a ffyrdd sydd ag wyneb llyfn a llwybrau cefn gwlad a fydd o bosibl yn anwastad a mwdlyd. Mae'r llwybr yn cynnwys rhai esgyniadau serth a disgyniadau. Dydy'r daith yma ddim yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio, cadeiriau olwyn, neu bobl â phroblemau symudedd. Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n gwisgo esgidiau cerdded.