Skip to main content

Meinciau, biniau ac arwyddion ar y stryd - Rhowch wybod am broblem

Mae'n gyfrifoldeb ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i ddarparu a chadw meinciau, biniau, arwyddion stryd a dodrefn stryd eraill yng nghanol ein trefi a'n pentrefi.

Rydyn ni'n gwirio cyflwr ein dodrefn stryd yn rheolaidd a'n nod yw sicrhau eu bod yn lân a thaclus. Yn
fwy na dim, rydyn ni'n sicrhau eu bod yn ddiogel at ddefnydd y cyhoedd;

Rydyn ni'n cynnal a chadw eitemau megis;

  • Biniau sbwriel
  • Biniau sigaréts
  • Basgedi blodau sy'n hongian
  • Meinciau
  • Seddi
  • Diogelwyr coed
  • Planwyr
  • Hysbysfyrddau/Arwyddion
  • Bolardiau
  • Pyst a rheiliau

Rydyn ni'n archwilio i ddifrod a byddwn ni'n gweithredu'n brydlon i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau rydyn ni'n eu hystyried yn fater brys.

Rydyn ni'n trwsio eitemau eraill sy wedi'u difrodi o ran eu golwg fel rhan o'n hamserlen cynnal a chadw reolaidd. Dydy'r rhain ddim yn achosi perygl i iechyd a diogelwch.

Sut rydw i'n rhoi gwybod am broblem yn ymwneud â dodrefn neu arwyddion stryd sy wedi'u torri neu'u difrodi?

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni, dywedwch y canlynol wrthon ni: -

  • Enw'r stryd a'r ardal.
  • Lleoliad ar y stryd, h.y. a yw'n agos at dŷ gyda rhif neu gyffordd?
  • Disgrifiad/manylion y difrod.

  • Eich enw chi a'ch manylion cyswllt.

  • Dyddiad ac amser pan ddaeth y difrod i’ch sylw am y tro cyntaf.

  • Weloch chi'r sawl sy'n gyfrifol am y difrod neu rif cofrestru'r cerbyd? A oedd yr Heddlu yn bresennol?

Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd

Gwasanaeth Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf,
Tŷ Glantaf,
Uned B23, Ystâd Ddiwydiannol Trefforest,
Pontypridd
CF37 5TT

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 844310