Skip to main content

Hysbysiad Gorfodi Gofal y Strydoedd

Hysbysiad Gorfodi Gofal y Strydoedd
Dewiswch yr Hysbysiad Gorfodi Gofal y Strydoedd ar y dudalen nesaf ar  eich cyfeirnod 9 digid gan ddechrau gyda 3.
Beth mae'r Cyngor yn ei wneud am graffiti?

Rydyn ni'n cymryd pob achos o graffiti o ddifrif. Os bydd y graffiti o natur ymosodol neu sarhaus, byddwn ni'n ceisio cael gwared arno neu baentio drosto o fewn diwrnod gwaith o gael gwybod am yr achos. Mae graffiti sarhaus, difrïol, tramgwyddus, neu gas yn cynnwys unrhyw iaith frwnt; datganiadau sy'n hiliol, yn wleidyddol neu'n grefyddol; neu unrhyw lun neu sylw anweddus.

Byddwn ni'n ceisio cael gwared ar graffiti sydd ddim yn ddifrïol, tramgwyddus, cas, sarhaus, neu ddifenwol o fewn pum niwrnod gwaith o gael gwybod amdano.

Byddwn ni'n cael gwared ar graffiti sarhaus, difrïol, tramgwyddus, a chas o unrhyw eiddo, a graffiti sydd ddim yn sarhaus, difrïol, tramgwyddus, neu gas o holl eiddo'r Cyngor.

Er mwyn cael gwared ar graffiti'n gyflym, mae tair carfan ymateb brys gyda ni. Mae'r carfanau hyn hefyd yn cael gwared ar bosteri anghyfreithlon a gwm cnoi.

Sut rydw i'n rhoi gwybod i'r Cyngor am graffiti?

Hoffech chi roi gwybod i ni am graffiti? Defnyddiwch y manylion cyswllt ar waelod y dudalen yma.

Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl, gan gynnwys:

  • Ble mae'r graffiti?
  • Ydy'r graffiti ar dŷ, wal, pont, cysgodfa bws ac ati?
  • Ydy'r graffiti ar bwys tirnod (swyddfa'r post, tafarn, cofeb ac ati)?
  • Beth yw'r graffiti?
  • Ydy'r graffiti yn hiliol, yn ymosodol neu'n sarhaus?
  • Ydy'r graffiti yn cynnwys geiriau neu luniau?
  • Ar ba fath o wyneb mae'r graffiti?
  • Ydy'r graffiti ar friciau, gro chwipio (pebble-dash), drysau rholio, paneli pren ac ati?
  • Pa liw mae'r graffiti?
  • Ydy'r graffiti yn baent chwistrell lliw, yn farciwr du ac ati?
  • Ydy'r graffiti ar eiddo'r Cyngor neu ar eiddo perchennog preifat?
  • Welsoch chi'r troseddwr?

Os gwelsoch chi'r unigolyn neu'r bobl sy'n gyfrifol am y graffiti, rhowch yr wybodaeth ganlynol i ni:

  • Pryd digwyddodd yr achos?
  • Pa ddiwrnod roedd hi? Faint o'r gloch roedd hi? Beth oedd y dyddiad?
  • Beth welsoch chi?
  • Faint o bobl oedd yn gyfrifol am y difrod?
  • Ydych chi'n gallu eu disgrifio nhw?
  • Beth oedden nhw'n ei wneud?
  • Oedd unrhyw gerbydau ganddyn nhw?
  • Beth oedd lliw, gwneuthuriad a rhif cofrestru'r cerbyd?
  • Ble roeddech chi?
  • Pa mor agos roeddech chi?
  • Oeddech chi'n gallu gweld yn glir?
  • Sut dywydd roedd hi?
  • Pa mor olau oedd hi?

Ydych chi'n barod i'n helpu ni i ddwyn achos yn erbyn pobl sy'n difrodi eiddo trwy wneud datganiad am y digwyddiad?

Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd

Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd 

Gwasanaeth Gofal Strydoedd Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 844310