Skip to main content
 

Reidiau Beic

 

Mae beicio yn ffordd hwyliog a difyr o gadw'n gorfforol egnïol. Yn Rhondda Cynon Taf rydyn ni'n ffodus bod gyda ni ystod eang o lwybrau, sy'n rhan o'r rhwydwaith beicio cenedlaethol. Mae rhannau o rai llwybrau ar y ffordd gerbydau, ond mae llawer ohonyn nhw oddi ar y ffordd a heb draffig. Mae digon o lwybrau tarmac oddi ar y ffordd sy'n berffaith ar gyfer y teulu. Mae digon o lwybrau mwy heriol i feicwyr hyderus lle byddwch chi'n beicio ar y ffordd gerbydau, ar lwybrau graean ac ar rai serth hefyd. Isod, mae fideos a mapiau o'r llwybrau, a fydd yn eich helpu chi i ymgyfarwyddo â'r llwybr, a gobeithio yn eich annog i roi cynnig arni.

Abercynon i Bontypridd

Defnyddiwch Lwybr Taith Taf i deithio o Abercynon i Bontypridd, gan droelli i'r de yn dilyn Afon Taf. Gadewch y llwybr wrth gyrraedd y Trallwng, mynd o gwmpas y system unffordd ac i Barc Coffa Ynysangharad.

Map
Abercynon i Trelewis

Abercynon i Lynnoedd Taf Bargoed a Chanolfan Ddringo Rock UK Summit. Taith feicio hamddenol 90 munud / 14 cilometr yno ac yn ôl. Dyma daith wastad gan amlaf, ffordd fer igam-ogam i fyny rhiw.

Map
Cylchdaith Aberdâr

Dechrau o ganol tref Aberdâr, mae'r rhan fwyaf o'r gylchdaith 15 cilomedr yma o gwmpas Cwm Cynon ar lwybrau beicio tarmac. Fodd bynnag,  mae un rhan o'r llwybr o Gwmaman i Abercwmboi ar lwybrau graean allai fod yn heriol i feicwyr heb lawer o brofiad.

Map
Aberdâr i Barc Gwledig Cwm Dâr

Taith i deuluoedd o Ganol Tref Aberdâr i Barc Gwledig Cwm Dâr. Mae parcio ar gael yn y lleoliad ar ddechrau'r daith ac mae lluniaeth ar gael yn y parc ar ddiwedd y daith.

Map
Aberdâr i Hirwaun

Mae seiclo i'r gwaith yn ffordd wych o gadw'n heini ac yn llesol iawn i'r amgylchedd. Mae ein fideo yn dangos sut i deithio rhwng: Gorsaf Drenau Aberdâr & Ystad Ddiwydiannol Hirwaun. Gyda mynediad i lawer o weithleoedd!

Map
Aberdâr i Benderyn

Dechrau o Ganolfan Hamdden Sobell. Mae'r llwybr yn dilyn llwybr Sustrans 478 i'r gogledd, gan droelli ar hyd Afon Cynon wrth ddilyn hen linellau mwynau gorffennol diwydiannol yr ardal. Mae'r daith yn gorffen y tu allan i ffatri Penderyn Whisky cyn ailymuno â'r daith yn ôl i Aberdâr.

Map
Aberdâr i Abercynon

Mae mor hawdd teithio yng Nghwm Cynon. Gadewch eich car gartref, ymarfer corff a diogelu'r amgylchedd. Defnyddiwch y llwybr i gysylltu rhwng Gorsaf Drenau Aberdâr, Ysbyty Cwm Cynon, Gorsaf Drenau Aberpennar, Parc Busnes Cwm Cynon, Ystad Ddiwydiannol Pontcynon, Canolfan Chwaraeon Abercynon a Pharc Navigation yn Abercynon.

Map
Pontypridd i Barc Gwledig Barry Sidings

Taith fer sy'n dechrau ac yn gorffen yn yr un lleoliad, dyma daith o Bontypridd i Barc Gwledig Barry Sidings. Mae'r parc yn drysor cudd troed Cymoedd y Rhondda. Lleoliad poblogaidd i deuluoedd a beicwyr mynydd.

Map
Pontypridd i Gaerffili

Pontypridd i Gaerffili gan ddefnyddio Llwybr 8 a Llwybr 4. 24 cilomedr yno ac yn ôl – taith wych i feicwyr hyderus. Ewch i ymweld â’r ail gaer Ganoloesol fwyaf ym Mhrydain.

Map
Pontypridd i Lanwynno

Defnyddiwch Lwybrau 8 a 47. 25 cilometr yno ac yn ôl – rhai bryniau serth hyd at 10%.

Map
Pontypridd i Ferthyr

Pontypridd i Ferthyr gan ddefnyddio Llwybr Trevithick ar Lwybr Taith Taf (llwybr 8). Cylch 43km o hyd. Taith wych i feicwyr hyderus.

Map
Pontypridd i Pont-y-clun

3 o Lwybrau Cymunedol wedi'u defnyddio: Trefforest, Pentre'r Eglwys a Llantrisant. 16km un ffordd / 32km dwyffordd. Taith 3 awr o hyd.

Map
Pontypridd i Ffynnon Taf

Defnyddiwch Daith Taf (llwybr 8). 11 cilometr yno / 22 cilometr yno ac yn ôl. Wyneb da, taith wych i feicwyr hyderus. 

Map
Ffynnon Taf i Lan-bad

Mae beicio i'r gwaith yn ffordd wych o gadw'n heini ac yn llesol iawn i'r amgylchedd. Mae ein fideo yn dangos sut i deithio rhwng: Gorsaf drenau Ffynnon Taf, Parc Nantgarw (Coleg Y Cymoedd), Ystad Ddiwydiannol Trefforest a Parc Chwaraeon Prifysgol De Cymru. Gyda mynediad i gannoedd o weithleoedd!

Map
Tonysguboriau hyd at Donyrefail

Gan ddefnyddio Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. 17 cilometr / 60-90 (yna ac yn ôl). Yn mynd heibio i Ynysmaerdy, Coed-elái a Thretomos.

Map


Ydych chi'n mwynhau ein fideos? Ydych chi'n eu defnyddio nhw i archwilio llwybrau newydd? Tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a gadael i ni wybod! Dilynwch @ChwaraeonRhCT / @sportrct ar Facebook, Twitter ac Instagram.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas