Skip to main content
 

Teithio Llesol

Mae beicio yn ffurf eco-gyfeillgar a charedig i'r amgylchedd o deithio. Mae'n gallu cynorthwyo i leihau tagfeydd a llygredd swn, a gwella ansawdd awyr lleol. Yn ogystal a hynny, mae beicio yn cynnig nifer o fanteision iechyd.

Mae beicio yn cynnig dewis realistig arall yn lle llawer o deithiau pellter byr sy'n cael eu gwneud mewn car ar hyn o bryd. Mae'r Cyngor, mewn partneriaeth a nifer o sefydliadau, fel mudiad Sustrans, er enghraifft, yn cynnig y seilwaith angenrheidiol i hyrwyddo ac annog mwy o deithio ar gefn beic.

Llwybrau Teithio Llesol yn Rhondda Cynon Taf

Map Teithio Llesol

Cliciwch yma i weld ein map Teithio Llesol, sy'n tynnu sylw at y llwybrau canlynol ac yn cynnwys fideos ar gyfer pob adran.

  • Taith Taf
    • Abercynon i Drallwn
    • Trallwn (llwybr y de)
    • Trallwn (llwybr y gogledd)
    • Pontypridd (Parc Coffa Ynysangharad)
    • Pontypridd (llwybr y ffordd)
    • Pontypridd i Nantgarw
    • Nantgarw i Ffynnon Taf
    • Gwyriad Ffynnon Taf
  • Taith Cynon
    • Penderyn i Hirwaun
    • Hirwaun (llwybr gogledd)
    • Hirwaun i Drecynon
    • Trecynon i Aberdâr
    • Aberdâr i Aberpennar
    • Aberpennar i Abercynon
  • Llwybr i'r Gymuned Pentre'r Eglwys

Am wybodaeth bellach, cliciwch yma i fynd i dudalen we Teithio Llesol a Beicio’r Cyngor.

 

Y Rhwydawaith Beicio Cenedlaethol Sustrans

Mae Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans yn rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio ar draws y DU. 
Mae chwe llwybr yn cysylltu cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf, sy'n darparu cyfleoedd i drigolion gadw'n heini a chymudo. 

Cliciwch yma am fap symlach sy'n dangos y llwybrau sy'n rhedeg trwy RCT a rhai o'r cymunedau agos. Hefyd wedi'u nodi ar y map mae'r gorsafoedd trên sydd ar hyd y llwybr - a all fod o ddefnydd wrth gymudo i'r gwaith, sy'n eich galluogi i feicio neu gerdded rhan o'ch taith.

I gael cefnogaeth bellach gwyliwch ein fideos o lwyrbau a'n mapiau sy'n darparu cyfarwyddiadau ac awgrymiadau defnyddiol i chi. 

Ar gyfer map llawn y DU ewch i: https://www.sustrans.org.uk/national-cycle-network/

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas