Skip to main content
 

Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden yn y Gymuned

 

Nod Rhaglen Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden yn y Gymuned, Chwaraeon RhCT yw darparu ystod o gyfleoedd i bob oed a gallu ledled Rhondda Cynon Taf. Mae’r rhaglen wedi’i datblygu ar y cyd ag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon, canolfannau hamdden a darparwyr eraill yn y gymuned. Mae hyn yn ein galluogi ni i gynnig ystod eang o gyfleoedd chwaraeon a hamdden yn ychwanegol at yr holl gynigion traddodiadol sydd ar gael gan glybiau chwaraeon. Mae rhai o'r sesiynau yn cael eu harwain gennyn ni, gydag eraill yn cael eu cynnal gan y partneriaid rydyn ni'n eu cefnogi. Ein nod yw nid yn unig hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael, ond hefyd gweithio gyda chi i sicrhau bod pob sesiwn yn gynaliadwy ac yn ddymunol i'r rhai sy'n cymryd rhan!

Ydych chi'n meddwl cychwyn sesiwn newydd neu eisiau cymorth gyda sesiwn bresennol?

Cofrestrwch ar gyfer ein Rhaglen Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden yn y Gymuned!

Cofrestrwch a llenwi ein ffurflen cymorth yn y gymuned i dderbyn y cymorth canlynol: 

  • Cymorth gyda hyrwyddo eich sesiynau ar ein gwefan, ein ap a'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol

  • Cymorth gyda thaflenni a phosteri hyrwyddo, yn ogystal â fideos hyrwyddo

  • Cymorth i gynyddu nifer eich aelodaeth

  • Cymorth gydag unrhyw anghenion gweithlu

  • Cymorth gydag unrhyw anghenion yn ymwneud ag offer

  • Cymorth/arweiniad gyda chyfleusterau

  • Cymorth gydag unrhyw faterion eraill y gallech chi fod yn eu hwynebu

 

E-bostiwch ChwaraeonRhCT@rctcbc.gov.uk i gofrestru!

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas