Skip to main content
 

Llysgenhadon Ifainc

Mae'r Rhaglen Llysgenhadon Ifainc wedi cael ei hadnewyddu a'i hail-lansio ar gyfer 2023. Bydd y rhaglen yn dilyn llwybr pedair haen sy'n adlewyrchu taith datblygiad ac arweinyddiaeth y bobl ifainc hyd at eu lefel bresennol yn hytrach na’u hoedran. Mae llyfrau gwaith sy'n cynnwys gweithgareddau a heriau amrywiol ar bob lefel wedi cael eu creu. Mae modd i'r bobl ifainc gwblhau'r llyfrau yma yn eu hamser eu hunain. Bydd pobl ifainc yn cael eu hannog i gadw cofnod o’u cynnydd, a’i arddangos, mewn ffyrdd creadigol sy'n gweddu eu dysgu unigol. Diben y rhaglen yw datblygu arweinwyr Cymru'r dyfodol trwy chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chwarae.

Bydd Llysgenhadon Ifainc yn defnyddio eu rolau i ysbrydoli, dylanwadu, mentora ac arwain o fewn eu hysgolion a'u cymunedau. Gyda'ch cymorth chi bydd modd i ni ddarparu cymorth parhaus sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i’r Llysgenhadon Ifainc fel bod modd iddyn nhw ddatblygu i fod yn arweinwyr ifainc hyderus a llawn cymhelliant sy'n meddu ar nifer o sgiliau. Rydyn ni'n awyddus iddyn nhw ddysgu sgiliau arweinyddiaeth drwy ddarparu cyfleoedd a phrofiadau cadarnhaol a gwerthfawr i wella eu sgiliau allweddol.

Gweledigaeth

Datblygu Llysgenhadon Ifanc i ddod yn arweinwyr y dyfodol yng Nghymru, drwy chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chwarae. Rydym eisiau iddynt ysbrydoli, dylanwadu, arwain, a mentora o fewn ac ar draws addysg a chymunedau, i gysylltu a chefnogi cymdeithas i fod yn iach ac yn actif.

Cenhadaeth

Darparu cefnogaeth barhaus sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i’r Llysgenhadon Ifanc, i ddatblygu’n arweinwyr ifanc hyderus, llawn cymhelliant a medrus. Rydym eisiau iddynt ddysgu drwy arweinyddiaeth drwy ddarparu cyfleoedd a phrofiadau cadarnhaol ac ystyrlon a fydd yn gwella eu sgiliau craidd.

Pwrpas

Drwy gydweithredu traws-sector, datblygu, cefnogi, a grymuso’r Llysgenhadon Ifanc ar y cyd i hwyluso gweithgareddau, meithrin perthyn, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, a defnyddio pŵer eiriolaeth i drawsnewid Cymru i fod yn genedl fwy iach ac actif.

I gael trosolwg llawn o'r rhaglen, darllenwch: Mudiad Llysgenhadon Ifanc - Gweledigaeth i Gymru.

 

Llwybr Cynnydd

Bydd y Llysgenhadon Ifanc ledled Cymru yn dilyn y Llwybr Cynnydd sy’n cynnwys pedair haen (Efydd, Arian, Aur, a Phlatinwm) ac sy’n adlewyrchu siwrnai arweinyddiaeth a datblygiad y Llysgenhadon Ifanc dros amser. Gweld y llwybr cynnydd fel PDF.
 

Canlyniadu'r rôl

Mae’r llwybr cynnydd yn canolbwyntio ar ddatblygu Canlyniadau rôl penodol a chyffredinol ar gyfer Llysgenhadon Ifanc ar draws y pedair haen. 

Canlyniadau rôl penodol: y dulliau arweinyddiaeth a’r canlyniadau rôl rydym eisiau i Lysgenhadon Ifanc eu datblygu ym mhob haen benodol o’r llwybr (efydd i blatinwm), i sicrhau bod eu siwrnai arweinyddiaeth yn gwneud cynnydd ac yn ddatblygiadol wrth iddynt ddod i mewn a symud ymlaen ar hyd y llwybr cynnydd.

Dulliau arweinyddiaeth

  1. Efydd: arwain gyda'n gilydd

  2. Arian: arwain mewn partneriaeth

  3. Aur: arwain tîm

  4. Platinum: arwain y mudiad
     

Canlyniadau rôl

  1. Ysbrydoli

  2. Dylanwadu

  3. Arwain

  4. Mentora
     

Canlyniadau rôl cyffredinol: y sgiliau craidd y mae angen i Lysgenhadon Ifanc eu datblygu, a’r meysydd blaenoriaeth rydym eisiau iddynt ganolbwyntio arnynt, ar draws pob lefel o’r llwybr cynnydd a thrwy gydol eu siwrnai arweinyddiaeth gyfan, i gefnogi eu datblygiad personol parhaus ac i wneud y gorau o effaith eu rôl.

Sgiliau craidd

  1. Effeithiolrwydd personal

  2. Cynllynio a threfnu

  3. Creadigrwydd ac arloesi

  4. Meddwl yn feiriadol a datrys problemau
     

Meysydd blaenoriaeth

  1. Hwyluso gweithgareddau

  2. Ffocws ar eiriolaeth

  3. Meithrin perthyn

  4. Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau


Gweler disgrifiad llawn o ganlyniadau'r rôl yma.

Dod yn Llysgennad Ifanc

Am fanylion pellach neu i drafod y rhaglen, e-bostiwch ni ar chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas