Skip to main content
 

Sbotolau ar Ysgolion Chwaraeon RhCT

 

Mae ein Sbotolau ar Ysgolion yn amlygu gwaith gwych ysgolion, athrawon a disgyblion ar draws Rhondda Cynon Taf. Byddwn ni'n ei ddefnyddio i ddathlu'r rhai sy'n defnyddio ein rhaglenni neu eu syniadau eu hunain i gael rhagor o blant i fod yn fwy egnïol, yn amlach. Bob mis byddwn ni'n arddangos prosiect sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ysgolion.

Os hoffech chi ddweud wrthyn ni am brosiect chwaraeon neu weithgaredd corfforol gwych y mae eich ysgol, athrawon neu ddisgyblion wedi'i wneud, anfonwch e-bost aton ni: Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk

Oriel Anfarwolion Sbotolau Ysgolion

Gorffennaf 2023

Ysgol Gyfun Aberpennar: Cyflwynodd dau Lysgennad Ifanc Aur o Ysgol Gyfun Aberpennar gais i'n Dragon's Den am gyllid i ddarparu prosiect. Roedden nhw eisiau cynnig cyfleoedd newydd ac annog rhagor o bobl ifainc yn eu hysgol i gadw'n heini. Roedden nhw'n llwyddiannus ac fe dderbynion nhw gyllid gwerth £450 er mwyn lansio prosiect Kin-ball. Maen nhw'n darparu sesiynau Kin-ball yn ystod gwersi Addysg Gorfforol ac yn bwriadu dechrau clwb ar ôl ysgol. Gwyliwch y fideo yma am ragor o wybodaeth.

Mehefin 2023

Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain: Cafodd pedwar disgybl o Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain eu hethol yn Llysgenhadon Ifainc Efydd. Ar ôl i'r disgyblion ddod i'n cynhadledd, roedden nhw wedi dychwelyd i'r ysgol a datblygu prosiect i wella iechyd, lles a ffitrwydd eu cyfoedion. Eu nod oedd annog eu cyfoedion sydd ddim yn gwneud llawer o ymarfer corff i fod yn fwy actif yn ystod amser chwarae, gan gydnabod bod angen gwella buarth yr ysgol. Mae'r buarth yn fach, a daeth i'r amlwg bod gemau pêl-droed yn dominyddu'r lle chwarae sy'n atal plant eraill rhag bod yn actif. Roedden nhw o'r farn byddai rhannu'r buarth i rannau cyfartal yn rhoi cyfle teg i bob plentyn i gymryd rhan mewn ffordd ddiogel. Gwyliwch y fideo yma am ragor o wybodaeth. 

Mai 2023

Ysgol Gynradd Caegarw: Yn dilyn cais llwyddiannus i'n Cronfa Ysgol Sylfaenol, sefydlodd yr ysgol glwb beic balans ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion oed cyfnod sylfaen. Mynychodd un athrawes hyfforddiant cyn cynnal 6 sesiwn beic balans hwyl ar gyfer 5 plentyn. Roedd y plant wrth eu boddau gyda'r sesiynau ac roedden nhw i gyd wedi cynyddu eu hyder a gwella eu sgiliau. Bu teuluoedd yn mynychu'r sesiwn olaf ac roedd rhieni'n falch iawn â chynnydd y plant. Mae'r ysgol hefyd yn cynnal cynllun rhentu beiciau balans gan ganiatáu i deuluoedd logi'r beiciau ar gyfer y penwythnos a gwyliau ysgol. Gwyliwch y fideo yma am ragor o wybodaeth. 

Ebrill 2023

Y mis yma rydyn ni'n dathlu ein partneriaeth â Chwaraeon Prifysgol De Cymru. Yn rhan o'u lleoliadau gwaith, gweithiodd myfyrwyr gyda ni i gyflwyno prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ysgolion. Cwblhaodd 22 o fyfyrwyr 1470 awr mewn 10 ysgol, gan ymgysylltu â 553 o ddisgyblion. Mae crynodeb o bob prosiect wedi'i gynnwys isod.

Ysgol Gynradd Bodringallt - Nod y prosiect oedd datblygu sgiliau symudedd sylfaenol drwy gemau a gweithgareddau hwyl. Cyflwynodd y myfyrwyr sesiynau aml-chwaraeon/sgiliau ar gyfer plant rhwng 4 ac 11 oed. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd Caegarw - Nod y prosiect yma oedd datblygu Badminton yn yr ysgol. Roedd y disgyblion am roi cynnig ar chwaraeon newydd, felly fe dargedodd y myfyrwyr flynyddoedd 4 a 5 a rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth iddyn nhw gymryd rhan yn y chwaraeon newydd yma'n hyderus. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd Cwm-bach yr Eglwys yng Nghymru – Nod y prosiect yma oedd datblygu sgiliau symudedd sylfaenol drwy roi'r cyfle i ddisgyblion roi cynnig ar ystod o chwaraeon newydd. Canolbwyntiodd y myfyrwyr ar chwaraeon tîm gyda phlant rhwng 7 ac 11 oed, gan ddatblygu sgiliau taflu a dal. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gyfun Aberpennar - Nod y prosiect yma oedd cynyddu gweithgarwch corfforol a lefelau hyder merched ym mlynyddoedd 7 ac 8. Gweithiodd y myfyrwyr i greu amgylchedd diogel a chyfforddus iddyn nhw gymryd rhan mewn pêl-droed. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd Gymunedol Penyrenglyn - Nod y prosiect yma oedd rhoi'r cyfle i ddisgyblion roi cynnig ar chwaraeon a gemau newydd. Fe wnaeth y myfyrwyr deilwra'r sesiynau i ddatblygu sgiliau megis gwaith tîm, datrys problemau a sgiliau symudedd sylfaenol. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd Gwaunfarren - Gweithiodd y myfyrwyr gyda'r ysgol a Heini Merthyr Tudful i ddatblygu ystod o sgiliau symudedd sylfaenol gyda disgyblion ym mlwyddyn 1. Rhoddon nhw bwyslais ar bwysigrwydd gweithgarwch corfforol rheolaidd gan gynnwys yr ystod o fanteision iechyd. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd Ynys-hir - Nod y prosiect yma oedd cynyddu lefelau cyfranogiad ym mlynyddoedd 2 a 3, mewn ymgais i wneud yn iawn am y cyfleoedd y gwnaethon nhw eu colli yn ystod pandemig COVID-19. Defnyddioddd y myfyrwyr themâu creadigol i ddatbygu'r sesiynau a ganolbwyntiodd ar hyder. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen - Cyflwynodd y prosiect yma gweithagreddau newydd i ddisgyblion, wrth hybu eu hyder a'u cefnogi nhw i ddatblygu eu perthnasau â'u ffrindiau ymhellach. Targedodd y myfyrwyr ddisgyblion o ddosbarth derbyn i flwyddyn 4 gydag ymyrraeth aml-sgiliau. Cliciwch yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd yr Hafod - oedd prosiect yr ysgol yma'n galw am Lysgenhadon Efydd Ifainc i ddarparu gweithgareddau chwaraeon. Cynhaliwyd amrywiaeth o sesiynau a chafodd clybiau newydd eu datblygu yn seiliedig ar farn y disgyblion. Dilynwch y ddolen yma i weld effaith y prosiect.

Ysgol Gynradd Blaengwawr - Roedd y prosiect yma'n cynnwys sesiynau chwaraeon a oedd yn galw am nifer o sgiliau gwahanol i ddysgu'r plant sut i weithio gyda'i gilydd yn un tîm. Roedd y sesiynau awyr agored yma'n addas i blant o'r feithrinfa hyd at flwyddyn 3. Dilynwch y ddolen yma i weld effaith y prosiect. 

Mawrth 2023

Ysgol Gynradd Tref Aberdâr yr Eglwys yng Nghymru: Roedd sesiynau llais y disgybl wedi dangos bod disgyblion yn teimlo'n bryderus a dan straen yn dilyn y pandemig. Yn sgil hyn penderfynodd yr ysgol wneud cais i’n Cronfa Ysgolion i sefydlu clwb ioga ar ôl ysgol. Roedd yr ysgol yn gobeithio y byddai gweithgareddau o'r math yma'n cael effaith gadarnhaol ar les emosiynol, meddyliol a chorfforol y disgyblion. Defnyddiodd yr ysgol yr arian i brynu offer newydd a chytunodd athro i gynnal y sesiynau. Yn rhan o'r sesiynau, roedd y disgyblion yn gwneud ystod o symudiadau ymestyn ioga/pilates yn ogystal ag ymarfer dulliau ymlacio meddylgar trwy adrodd stori. Mwynhaodd y disgyblion y sesiynau a dywedodd 100% ohonyn nhw eu bod nhw'n teimlo'n hapusach a dywedodd 83% eu bod nhw'n teimlo'n fwy hyderus. Gwyliwch y fideo yma am ragor o wybodaeth. 

Chwefror 2023

Ysgol Gynradd yr Hafod: Cyflwynodd Llysgenhadon Ifainc Efydd yr ysgol gais i'n Cronfa Ysgolion i sefydlu clwb hoci ar ôl ysgol. Defnyddiodd yr ysgol yr arian yma i brynu offer ac adnoddau.Penderfynodd y Llysgenhadon i adael i ddisgyblion ddefnyddio'r offer yma yn ystod amser egwyl. Gwyliwch y fideo yma i gael rhagor o wybodaeth.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas