Skip to main content
 

Cyfleoedd am Gyllid Allanol

Cawson ni wybod yn ddiweddar fod cyfleoedd am gyllid y mae’n bosibl bod modd i'ch ysgol chi fanteisio arnyn nhw.

GOLEUADAU AR..

Grantiau Natur ar gyfer Ysgolion Lleol

Manylion cyffredinol: Mae modd  i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar yng Nghymru, Lloegr a'r Alban gyflwyno cais ar gyfer grant dysgu yn yr awyr agored. Mae'n cynnwys dwy elfen – offer awyr agored gwerth £500 wedi'i ddewis o gatalog o dros 100 o eitemau, a chwrs hyfforddi dysgu yn yr awyr agored ar gyfer eich staff.

Pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais: Ysgolion a Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar

Mathau o brosiectau sy’n gymwys i dderbyn cyllid: Dysgu yn yr Awyr Agored

Faint o gyllid sydd ar gael ar gyfer pob prosiect: £500

Dolen i'r Ffurflen Gais

Grantiau presennol

 

The Clothworkers Foundation

Manylion cyffredinol: The Clothworkers Foundation yw cangen elusennol y Clothworkers Company, sydd wedi rhoi grantiau i brosiectau cyfalaf ers 1977.

Pwy sy'n gallu cyflwyno cais: Elusennau cofrestredig, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol, Sefydliadau Corfforedig Elusennol ac Ysgolion Arbennig.

Themâu/nodau'r cyllid: Bydd y sefydliad yn darparu cyllid cyfalaf ar gyfer adeiladau; gosodiadau, ffitiadau ac offer; a cherbydau (ac eithrio rhentu ar brydles).

Faint o gyllid ar gyfer pob prosiect: Mae grantiau bach a mawr ar gael. Ymddiriedolwyr sy’n gwneud y penderfyniad terfynol o ran faint o arian i’w ddyfarnu.

Dyddiad cau: Does dim dyddiad cau ar gyfer y cyllid yma. 

Dolen i’r ffurflen gais

 

Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru

Manylion cyffredinol: Lansiodd Dŵr Cymru Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn 2017. Ers lansio'r gronfa, mae wedi rhoi dros £500,000 i gefnogi cannoedd o fentrau cymunedol lleol.

Pwy sy'n gallu cyflwyno cais: Ysgolion, ymddiriedolaethau elusennol, cymdeithasau tai a chymdeithasau cyfeillgar.

Mathau o brosiectau allai dderbyn cyllid: Gwelliannau i'r amgylchedd neu fentrau cymunedol lleol sy’n hybu amcanion iechyd, lles ac amgylcheddol. Gweithgareddau sy'n cael eu cynnal gan grwpiau cymunedol cofrestredig – ag amcanion iechyd, lles, cymorth costau byw ac amgylcheddol yn benodol. Gwella a chefnogi gweithgareddau addysg lleol, er enghraifft buddion effeithlonrwydd dŵr, materion amgylcheddol ac arloesi.

Faint o gyllid ar gyfer pob prosiect: £5,000

Dyddiad cau: Ar agor am ddau gyfnod arall o 8 wythnos.

  • 1 Mai 2024 – 30 Mehefin 2024
  • 1 Medi 2024 - 31 Hydref 2024
  • 1 Ionawr 2025 - 28 Chwefror 2025

Dolen i'r ffurflen gais

 

Arian i Bawb Cymru - y Loteri Genedlaethol

Manylion cyffredinol: Mae modd i gyllid y Loteri Genedlaethol eich help chi i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned. Rydyn ni'n cynnig cyllid rhwng £300 a £10,000 er mwyn cefnogi’r hyn sy'n bwysig i bobl a chymunedau.

Pwy sy’n gymwys i gyflwyno cais: Sefydliadau Cymunedol neu Wirfoddol, Elusennau Cofrestredig, Ysgolion

Mathau o brosiectau sy’n gymwys i dderbyn cyllid: Dod a phobl ynghyd i feithrin perthnasoedd cryf mewn/ledled cymunedau. Gwella lleoedd a mannau sy’n bwysig i’n cymunedau. Helpu rhagor o bobl i gyrraedd eu potensial, drwy ddarparu cymorth iddyn nhw mor gynnar â phosib. Cynorthwyo pobl, cymunedau a sefydliadau sy'n wynebu galw uwch a heriau o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

Faint o gyllid sydd ar gael ar gyfer pob prosiect: £300 - £10,000

Bwriwch olwg ar y prosiect yma gan ysgol yn Abertawe! Clybiau Ar ôl Ysgol Cyfeillion Plasmarl

A llawer o esiamplau gwych eraill YMA!

Dolen i'r Ffurflen Gais

 

Tesco - Stronger Starts

Manylion cyffredinol: Bydd y grantiau'n helpu ysgolion a grwpiau i blant i ddarparu bwyd maethlon a gweithgareddau cadw’n iach sy'n cefnogi iechyd corfforol a lles meddyliol pobl ifainc, megis clybiau brecwast neu fyrbrydau, ac offer ar gyfer gweithgareddau cadw’n iach.

Pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais: Ysgolion a Grwpiau i Blant

Mathau o brosiectau sy’n gymwys i dderbyn cyllid: Clybiau brecwast, clybiau yn ystod y gwyliau, mannau chwarae, banciau bwyd, offer neu wasanaethau an-statudol ar gyfer plant.

Faint o gyllid sydd ar gael ar gyfer pob prosiect: £1500

Dolen i'r Ffurflen Gais

 

Greggs Foundation - Clybiau Brecwast

Manylion cyffredinol: Cafodd Rhaglen Clybiau Brecwast Greggs ei sefydlu yn 1999 er mwyn helpu plant ysgol gynradd i gael pryd maethlon i ddechrau eu diwrnod ysgol. Mae pob ysgol yn derbyn bara ffres gan y siop Greggs agosaf, a grant i helpu â chostau sefydlu’r clwb a chostau parhaus. Ar gyfartaledd, mae clwb brecwast sydd â 65 o blant yn costio £3000 i'w sefydlu a'i gynnal am flwyddyn.

Pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais: Ysgolion Cynradd sydd ag o leiaf 40% o ddisgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.

Mathau o brosiectau sy’n gymwys i dderbyn cyllid: Clwb Brecwast

Dolen i'r Ffurflen Gais

 

Grantiau Natur ar gyfer Ysgolion Lleol

Manylion cyffredinol: Mae modd  i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar yng Nghymru, Lloegr a'r Alban gyflwyno cais ar gyfer grant dysgu yn yr awyr agored. Mae'n cynnwys dwy elfen – offer awyr agored gwerth £500 wedi'i ddewis o gatalog o dros 100 o eitemau, a chwrs hyfforddi dysgu yn yr awyr agored ar gyfer eich staff.

Pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais: Ysgolion a Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar

Mathau o brosiectau sy’n gymwys i dderbyn cyllid: Dysgu yn yr Awyr Agored

Faint o gyllid sydd ar gael ar gyfer pob prosiect: £500

Dolen i'r Ffurflen Gais

 

Ymddiriedolaeth Ford Britain Trust

Trosolwg: Mae Ymddiriedolaeth Ford Britain wedi ymrwymo i fod yn gefn i gymunedau wrth iddyn nhw 'blannu hadau newid".

Pwy all wneud cais: Elusennau cofrestredig, Ysgolion / Cymdeithasau Rhieni a Staff a sefydliadau Nid Er Elw.

Themâu / nodau o ran y gronfa: Bydd y gronfa yma'n le i gael cymorth sy'n gyfraniadau i brosiectau cyfalaf, gwariant cyfalaf (gan gynnwys offer) a Chyfraniadau at brynu cerbyd newydd. Yn rhoi sylw pendodol i:

  • Addysg
  • Yr Amgylchedd
  • Plant
  • Personau Anabl
  • Prosiectau Ieuenctid


Y cyllid sydd ar gael fesul prosiect: Hyd at £250  ar gyfer prosiectau bach ac yna rhwng £250 a £3000 ar gyfer prosiectau mawr. 

Dyddiadau Cau:

  • Grantiau Mawr 31 Gorffennaf 2024 (Y bwrdd yn ystyried ym mis Medi 2024) a 31 Ionawr 2025 (Y bwrdd yn ystyried ym mis Mawrth 2025)
  • Grantiau Bach 30 Mehefin, 31 Hydref a 28 Chwefror.

Dolen i’r ffurflen gais

 

Twinkl: Cymuned Gwobrau

Trosolwg: Beth bynnag sydd gyda chi ar y gweill, boed yn offer Addysg Gorfforol newydd, cael gafael ar offer ar gyfer eich clybiau ar ôl ysgol neu hyd yn oed planhigion ar gyfer eich dosbarth, mae Casgliad Cymuned Gwobrau Twinkl yma i'ch helpu

Pwy gaiff wneud cais: Ysgolion a Sefydliadau.

Themâu/nodau o ran y gronfa: Casgliad y Gymuned yw ein ffordd ni o helpu i ariannu prosiect, boed yn offer newydd ar gyfer maes chwarae, sefydlu clwb ysgol newydd neu roi dechrau da i brosiectau mawr, er mwyn gofalu bod pob plentyn yn cael y cyfleoedd gorau posib. Rydyn ni'n cynnig hyd at £500 ar gyfer unrhyw brosiect o'ch dewis – gall unrhyw ysgol neu sefydliad addysgol wneud cais. 

Mae modd gwneud cais drwy gydol y flwyddyn. 

Y cyllid sydd ar gael ar gyfer pob prosiect: £500

Dyddiadau cau: Mae modd gwneud cais drwy gydol y flwyddyn, ac mae enillwyr yn cael eu dewis bob mis. 

Dolen i’r ffurflen gais

 

Y Loteri Genedlaethol: Camau Cynaliadwy Cymru – Grantiau Egin 

Trosolwg:  Rydyn ni am fod yn gefn i grwpiau cymunedol yng Nghymru sy'n dechrau cymryd camau i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac sydd am geisio byw mewn modd mwy cynaliadwy. Bydd ein grantiau'n gefn i grwpiau sy'n cael cymorth gan Camau Cynaliadwy Cymru –  Gwasanaeth Mentora Egin, a bydd yn rhoi dechrau da i'w syniadau. Fe allwch chi wneud cais i gael eich mentora.

Pwy gaiff gyflwyno cais: 

  • Elusennau Cofrestredig
  • Sefydliadau gwirfoddol a chymunedol  
  • Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO)
  • Sefydliad gwirfoddol neu gymunedol sydd heb ei gofrestru
  • Cynghorau tref a chymunedau (cyn belled â bod cefnogaeth gref gan y gymuned o ran datblygu'r syniad).
  • Ysgolion (cyn belled â bod y cymunedau o amgylch yr ysgol yn rhan o'r prosiect a'u bod yn cael budd ohono)


Themâu/nodau o ran y gronfa: 

  • dylai'r prosiect ganolbwyntio'n bennaf ar ymgysylltu â newid hinsawdd a byw mewn modd mwy cynaliadwy. Ond fe hoffem ni gael gwybod hefyd am unrhyw fuddion eraill o ran eich prosiect. Gallai'r rhain gynnwys pethau fel gwella lles pobl, gwella perthnasoedd rhwng pobl a sefydliadau, neu wella bioamrywiaeth.
  • Rydyn ni am ariannu prosiectau y mae ôl meddwl arnyn nhw o ran yr effaith y bydd y gweithgareddau cysylltiedig yn ei gael ar natur a, lle bo'n bosib, sy'n sicrhau cyn lleied â phosib o niwed i'r amgylchedd.
  • Rydyn ni am ariannu prosiectau fydd am rannu'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu gydag eraill. Fe fyddwn ni'n ariannu sefydliadau sydd am ddysgu, ac sy'n bwriadu rhannu'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu gyda grwpiau tebyg.

Y cyllid sydd ar gael fesul prosiect: hyd at £15,000

Dyddiadau cau: Ddim yn berthnasol, mae modd gwneud cais pryd bynnag rydych chi'n barod! (unwaith y byddwch chi wedi cofrestru i gael eich mentora gan Egin).

Dolen i’r ffurflen gais

 

Tlodi plant: grant arloesi a chefnogi cymunedau (Llywodraeth Cymru)

Trosolwg: Mae'r grant ar gael i gefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn eu hymdrechion i gyflawni'r canlynol:

  • Gwella gallu sefydliadau i ffurfio trefniadau cydweithio i fynd i'r afael â thlodi plant, sy'n gysylltiedig ag un neu fwy o 5 amcan Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024.
  • Cefnogi sefydliadau i gyfathrebu'n effeithiol, cydweithio a throsglwyddo gwybodaeth wrth ymateb i dlodi plant ar lefel ranbarthol, lleol neu gymunedol.

Pwy all wneud cais: Mae £900,000 ar gael i gefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector (sy'n cynnwys grwpiau ffydd). 

Themâu / nodau o ran y gronfa: Gwella gallu sefydliadau i ffurfio trefniadau cydweithio i fynd i'r afael â thlodi plant, sy'n gysylltiedig ag un neu fwy o 5 amcan  Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024.

  • Amcan 1. Lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd.
  • Amcan 2: creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial.
  • Amcan 3: cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a sicrhau bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a sicrhau canlyniadau gwell.
  • Amcan 4: herio'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi a sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi.
  • Amcan 5: sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol.

 

Y cyllid sydd ar gael fesul prosiect: £5000 - £100,000 

Dyddiadau Cau:

  • 14 Gorffennaf 2024:  y cyfnod ymgeisio am grant yn cau.
  • Wythnos yn dechrau 12 Awst 2024: anfon llythyr at yr ymgeiswyr ynghylch y canlyniad.
  • Wythnos yn dechrau 19 Awst 2024: anfon y llythyrau dyfarnu grant.

Dolen i’r ffurflen gais

 

Grantiau cyllid caeedig - i fod i ailagor yn 2024

Local Giving - Magic Little Grants

Nodwch fod ysgolion yn gymwys i gyflwyno cais os ydyn nhw'n elusen gofrestredig.

Manylion cyffredinol: Mae Local Giving wedi agor eu cylch cyllid "Magic Little Grants" unwaith yn rhagor ar gyfer 2023. Cafodd mwy na 2,600 o grantiau eu dyrannu y llynedd, a dyma un o'r ffurflenni cais ysgrifenedig hawsaf y byddwch chi’n dod ar ei thraws!

Pwy sy'n gallu cyflwyno cais: Sefydliadau yn eu blwyddyn gyntaf, neu gydag incwm sy’n llai na £250,000.

Themâu/nodau'r cyllid: Bydd ceisiadau'n cael eu derbyn o dan un o saith thema, gan gynnwys annog pobl i gymryd rhan mewn ymarfer corff; atal neu leihau effaith tlodi; helpu grwpiau ar y cyrion a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.

Dyddiad cau: 31 Hydref 2023.

Dolen i’r ffurflen gais

 

 

Awgrymiadau

Ymchwiliwch i'r grant:

  • Darllenwch y meini prawf cymhwysedd yn fanwl er mwyn gwirio bod y grant yn addas i chi.
  • Rhowch gynnig ar y cwis cymhwysedd / gwiriwch a oes un ar gael.
  • Os oes modd, darllenwch enghreifftiau o brosiectau sydd wedi cael cyllid yn y gorffennol.
  • Gwiriwch yr eithriadau (yr hyn does dim modd hawlio cyllid ar ei gyfer).
  • Nodwch y dyddiad cau er mwyn sicrhau eich bod chi'n cyflwyno cais mewn da bryd.

 

Llenwi'r ffurflen gais:

  • Defnyddiwch lais eich disgyblion – gallai mewnbwn gan eich llysgenhadon a/neu arweinwyr ifainc gryfhau’ch cais.
  • Ysgrifennwch mewn ffordd ddealladwy - peidiwch â defnyddio acronymau nac iaith gymhleth. Cofiwch nad yw llawer o'r grantiau’n benodol i ysgolion felly mae’n bosibl na fydd y rhai sy'n dyfarnu arian yn gyfarwydd ag iaith yn ymwneud ag addysg.
  • Nodwch yr hyn rydych chi'n bwriadu ei wneud yn benodol - byddwch yn gryno.
  • Canolbwyntiwch ar flaenoriaethau'r rheiny sy'n dyfarnu arian y grant - bydd gan y rhan fwyaf o grantiau ddeilliannau neu feysydd allweddol, felly mae angen i chi sicrhau bod eich prosiect yn mynd i'r afael ag o leiaf un o'r rhain.
  • Ceisiwch roi tystiolaeth sy’n nodi bod angen eich prosiect chi - defnyddiwch lais eich disgyblion neu ymchwil/ystadegau lleol er mwyn perswadio'r rhai sy'n dyfarnu arian y grant fod angen eich prosiect chi.
  • Peidiwch â chyflwyno cais am fwy na'r hyn sydd ei angen er mwyn cael mwy o arian – dim ond costau’ch prosiect! Sicrhewch fod holl gostau'r prosiect yn benodol a pheidiwch â nodi 'amrywiol'.

 

 

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas