Skip to main content
 

Denu gwirfoddolwyr

Ydych chi'n edrych am rywun ymroddgar i wirfoddoli yn eich clwb chwaraeon?

Yn amlach na pheidio, mae swyddi gwirfoddol yn cael eu llenwi gan aelodau, teuluoedd a chyn-aelodau, gan ei bod hi'n hawdd cysylltu â nhw ac maen nhw'n gallu gweld neu fwynhau manteision y clwb yn uniongyrchol.

Ond ble mae dechrau? Sut mae mynd ati ac at bwy mae troi? Peidiwch â phoeni, rydyn ni yma i helpu! Ond cyn dechrau recriwtio gwirfoddolwyr newydd, rhaid i chi ofyn ambell gwestiwn i chi eich hun:

Pam rydych chi eisiau recriwtio gwirfoddolwyr newydd?

  • Pa rôl rydych chi eisiau iddyn nhw ei gwneud?
  • Faint o amser bydd rhaid iddyn nhw ei dreulio'n gwirfoddoli?
  • Pa sgiliau sydd rhaid i'ch gwirfoddolwyr fod wedi'u dysgu?


Bydd yr atebion i'r cwestiynau yma'n eich helpu chi i weld beth ydych chi ei angen a sut bydd gwirfoddolwyr yn cael eu rheoli yn y clwb.

Dyma rai syniadau i helpu'ch clwb i recriwtio gwirfoddolwyr ymroddgar, a'u cadw nhw:

Nodi disgwyliadau wrth gofrestru neu gyflwyno

Does dim ots gan bobl helpu, ond maen nhw angen cael gwybod pryd a sut. Unwaith yr wythnos? Ddwywaith y tymor? Helpu mewn tri digwyddiad y flwyddyn?

Atgoffa pobl

Cofiwch hybu'r angen am wirfoddolwyr ar wefan eich clwb ac yn y cylchlythyrau. Mae sylwadau fel “mae eich cyfraniad chi'n gwneud gwahaniaeth” neu “helpwch ni yn ein digwyddiad nesaf” yn atgoffa aelodau yn gyson fod diwylliant o helpu a gwirfoddoli yn eich clwb.

Disgrifio pob rôl

Bydd pobl yn fwy tebygol o wirfoddoli pan fyddwch chi'n gofyn iddyn nhw lenwi rôl benodol gan roi amlinelliad o'r ymrwymiad amser sydd ei angen. Mae esiamplau o ddisgrifiadau rôl ar gyfer y prif swyddi ar gael yma.

Ffocws ar gyfraniadau a chyflawniadau cadarnhaol

Rhaid i chi fod ag agwedd bositif drwy'r adeg a diolch i bawb sy'n cymryd rhan. Mae hynny'n fwy tebygol o newid ymddygiad na thynnu sylw at y rhai sydd ddim yn helpu, oherwydd bydd pobl yn mynd yn amddiffynnol yn aml iawn.

Cadw cofrestr sgiliau

Pur anaml mae hyn yn cael ei wneud, ond mae'n ddefnyddiol iawn. Rhestr o'r aelodau sydd ag unrhyw sgiliau penodol yw'r gofrestr. Mae hyn yn eich helpu chi i fod yn fwy penodol wrth ofyn i bobl lenwi rôl. Er enghraifft, os oes gennych chi saer coed yn eich clwb ac os oes drws yn dechrau dod yn rhydd, mae'n fwy tebygol o allu helpu'n gyflym ac yn effeithiol, heb roi fawr ddim pwysau arno.

Hyfforddi'r bobl yn eich clwb 

Mae cyfle i ddysgu sgiliau newydd, fel Cymorth Cyntaf, yn gallu cymell pobl yn aml i ymwneud â rhedeg clwb. Felly, byddwch yn gwbl agored am y cyfleoedd hyfforddi rydych chi'n eu cynnig.

Gwobrwyo a chydnabod cyfraniadau 

Mae diolch yn fawr syml, tocyn rhodd neu ad-dalu aelodaeth i gyd yn ffyrdd gwych o ddiolch i wirfoddolwyr eich clwb. Gwirfoddolwyr ydy asgwrn cefn ein clybiau chwaraeon ni ac mae'n rhaid cydnabod eu hymdrechion nhw.

  

Cymorth gan Chwaraeon Rhondda Cynon Taf

Os oes angen gwirfoddolwyr ar eich clwb chwaraeon ac os hoffech chi i ni eich rhestru llenwch y ffurflen yma.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas