Skip to main content
 

Carfan Hyfforddi Chwaraeon Rhondda Cynon Taf

Mae Carfan Hyfforddi Chwaraeon Rhondda Cynon Taf yn cynnig gweithgareddau aml-gampau hwyl a chynhwysol. Mae'r hyfforddwyr brwdfrydig a medrus yn gymwys i gynnal ystod eang o sesiynau i blant, pobl ifainc ac oedolion o bob oedran mewn ysgolion, canolfannau hamdden, clybiau chwaraeon ac yn y gymuned.

Yn ogystal â'u cymwysterau ar gyfer sawl camp, mae gan ein hyfforddwyr dystysgrifau diweddaraf gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac maen nhw wedi cwblhau ystod o hyfforddiant megis cymorth cyntaf, diogelu ac amddiffyn plant, a chynnwys pobl anabl er mwyn gofalu bod y sesiynau i gyd yn hwyl, yn ddiogel ac yn gynhwysol.

Carfan Hyfforddi Chwaraeon Rhondda Cynon Taf:

  • Cyflwyno sesiynau aml-chwaraeon mewn clybiau allgyrsiol ysgolion; gall pob plentyn ddysgu, mwynhau ac ymarfer cyn oriau'r ysgol, yn ystod amser cinio ac mewn sesiynau ar ôl oriau'r ysgol.
  • Hyfforddi yn y gymuned; gemau stryd yn y gymuned neu sesiynau hwyl mewn cyfleuster cymunedol neu glwb ieuenctid.
  • Trefnu a chyflwyno achlysuron chwaraeon a chystadlaethau.
  • Cynnal rhaglenni hyfforddi sy'n gweddu'n berffaith i anghenion ysgolion, clybiau chwaraeon a chymunedau.
  • Cynnig hyfforddiant mewn campau chwaraeon penodol ar gyfer teuluoedd, plant ac oedolion o bob gallu.
  • Darparu gwasanaeth mentora ar gyfer eich gwirfoddolwyr a'ch staff.
  • Cynllunio a darparu gweithgareddau ar gyfer cynlluniau a rhaglenni yn ystod gwyliau'r ysgol.

 

Ymuno â'r Garfan Hyfforddi...

Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf canlynol, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk

  • Cymhwyster hyfforddi Lefel 2 (gan gynnwys Tystysgrif C y Gymdeithas Bêl-droed ac Arweinwyr Chwaraeon Lefel 2 / Arweinwyr Chwaraeon Cymunedol Lefel 2)
  • Car ar gael a'r modd i deithio'n annibynnol
  • Ar gael i weithio rhwng yr oriau allweddol 2.00pm a 5.00pm, yn ogystal â'r hwyrnos ac ar y penwythnos
  • Profiad o hyfforddi amrywiaeth o chwaraeon mewn gwahanol leoliadau

Gwahodd y Garfan Hyfforddi...

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas