Skip to main content
 

Byddwch yn wirfoddolwr ar ran Chwaraeon RhCT

Bydd gwirfoddolwyr Chwaraeon RhCT yn ein helpu i gefnogi a darparu sesiynau chwaraeon ar draws Rhondda Cynon Taf. Croesawn bobl sy wrthi'n gwirfoddoli yn ogystal â'r rheiny sy eisiau dechrau gwirfoddoli am y tro cyntaf. Does dim ots ble rydych chi'n byw neu pa brofiad sy gyda chi, gallwn ni eich helpu chi i chwarae rhan 

Oes diddordeb gyda chi? Dyma ragor o wybodaeth...

Pam cofrestru gyda ni?

  • Bydd Chwaraeon RhCT yn eich cefnogi chi i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli newydd; naill ai drwy wirfoddoli ar raglenni Chwaraeon RhCT neu wirfoddoli gyda'n partneriaid. Pe hoffech chi wirfoddoli mewn lleoliad penodol, gyda grŵp penodol neu mewn maes chwaraeon penodol - byddwn ni'n dod o hyd i'ch lleoliad perffaith!
  • Mae gwirfoddolwyr yn ennill sgiliau bywyd defnyddiol fel sgiliau trefnu, cyfathrebu, 
  • Cryfhau eich CV
  • Rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned - chwaraewch ran gan wneud Rhondda Cynon Taf yr awdurdod lleol mwyaf heini yng Nghymru!
  • Byddwch yn rhan o'ch cymuned - cwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd. Ydych chi'n newydd i'r ardal? Dyma'r cyfle perffaith i chi! 
  • Rhowch gynnig arni!

Edrychwch ar y daflen yma sy’n dangos 20 rheswm dros gwirfoddoli. 


Pa fath o waith gwirfoddoli byddwn i'n ei wneud?

Bydd hyn yn dibynnu arnoch chi... dyma ambell enghraifft o'r hyn cewch chi fod yn rhan ohono:

  • Cefnogi rhaglenni Chwaraeon RhCT fel darpariaeth gwyliau
  • Gwirfoddoli mewn clwb chwaraeon lleol - mae modd gwirfoddoli mewn rolau amrywiol e.e. hyfforddi, marchnata, gwaith gweinyddu
  • Arwain clwb ar ôl ysgol

 

Sut mae cofrestru?

Mae'n syml. Cliciwch ar y ddolen isod er mwyn llenwi ein ffurflen gofrestru ar-lein!

COFRESTRWCH YMA

Beth nesaf?

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas