Skip to main content
 

Cerdyn Aur

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig cymorth a chefnogaeth i athletwyr rhyngwladol yr ardal drwy'i gynllun Cerdyn Aur. Mae'r cynllun ar gael i unigolion sydd wedi cynrychioli Cymru neu'r Deyrnas Unedig ar lefel ryngwladol lawn yn ystod y 12 mis diwethaf. Rhaid i'r athletwyr fyw yn Rhondda Cynon Taf a rhaid i'r holl athletwyr gael llythyr o gadarnhad gan eu Corff Llywodraethu Cenedlaethol.

Caiff yr unigolion sy'n bodloni'r meini prawf hyn wneud cais am ‘Gerdyn Aur’ sy'n rhoi'r hawliau hyn iddyn nhw am flwyddyn:

  • Mynediad am ddim i byllau nofio sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor
  • Mynediad am ddim i ystafelloedd ffitrwydd sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor (telerau ac amodau arferol)
  • Mynediad i hyfforddiant sy'n berthnasol i'r gamp (yn amodol ar drefniant gyda rheolwyr canolfannau priodol)


I wneud cais am Gerdyn Aur, llenwch Ffurflen Gais Cerdyn Aur

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas