Skip to main content
 

Newyddion

Mehefin 20

Mae'r 'Rhondda Miners' yn chwilio am aelodau NAWR ar gyfer tymor 2019/2020
Os ydych chi'n ystyried ymuno ar gyfer y tymor nesaf, ac rydych chi ym mlynyddoedd ysgol 8-13, dewch i Barc Wattstown bob dydd Mercher am 6pm ar gyfer ffitrwydd a hwyl. Mae ganddyn nhw hyfforddwyr cymwys lefel 1 a 2 a gweithwyr cymorth cyntaf cymwys. Mae pob un wedi'i wiro gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae croeso i bobl o bob gallu, a does dim angen profiad arnoch chi.

rhondda miners 2019

 

Mehefin 14

Achlysur y gyfres 'insport' YFORY yn Abercynon! Gweithgareddau cynhwysol ar gyfer pob oedran - rhagor o fanylion ar y daflen

insport cym

 

Mehefin 13

Cynon Valley Cavaliers - Clwb rygbi cynghrair newydd sydd wedi'i leoli yn Hirwaun! Maen nhw'n chwilio am chwaraewyr ar gyfer eu timau Dan 12 a Dan 14 oed. Darllenwch y daflen wybodaeth am ragor o wybodaeth!

cynon cavaliers flyer

 

Mehefin 8

Gyda'r Hwyr yn y Parc - grŵp rhedeg cyfeillgar ym Mhontypridd, sy'n addas ar gyfer pobl o bob gallu. Gweler y daflen am fanylion pellach!

Dark in the Park Flyer

 

 

Mehefin 3

Ydych chi wedi gweld gwedd newydd gwefan Atebion Clwb? Mae @clubsolutionswales yn declyn ac adnodd arbennig ar gyfer clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr! Dysgwch ragor yma: http://www.atebionclwb.cymru

 

Mehefin 2

Llongyfarchiadau Jason Cook o Glwb Rygbi Mini ac Iau Ystrad Cwm Rhondda! - chi yw ein Gwirfoddolwr y Mis!
Jason yw hyfforddwr Dan 11 oed y clwb ar hyn o bryd, ond mae ei rôl yn y clwb yn fwy na hyfforddwr yn unig. Mae Jason wedi rhoi ei fywyd i rygbi ac mae'n angerddol iawn dros ei glwb a'r gamp. Mae'n gweithio'n galed y tu ôl i'r llen er mwyn datblygu'r clwb, gan dreulio'i amser yn trefnu achlysuron codi arian, dod o hyd i noddwyr a threfnu amserlen hyfforddi a gemau. Mae'n gwneud hyn oll wrth weithio a chynnal ei fywyd teulu ac mae'r clwb yn ddiolchgar iawn am ei ymroddiad.
Da iawn #WythnosGwirfoddolwyr

 

Mehefin 1

Mae heddiw yn nodi dechrau Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr. Dyma 20 rheswm i gymryd rhan! Cofrestrwch gyda ni a byddwn ni'n paratoi cyfle gwirfoddoli a'r cymorth a hyfforddi sydd eu hangen arnoch. Cofrestrwch ar www.rctcbc.gov.uk/ByddwchYnWirfoddolwrArRanChwaraeonRhCT #WythnosGwirfoddolwyr

Sport-RCT-Education-VOLUNTEERING-WLSH

 

Mai 23

Mai yw mis Cerdded Cenedlaethol. Mae gyda ni rai llwybrau cerdded hardd yn Rhondda Cynon Taf ac mae nifer o fanteision i'ch iechyd. Dyma 20 rheswm pam dylech chi gerdded mwy. Ewch i'n gwefan i ddod o hyd i'ch llwybrau lleol: www.rctcbc.gov.uk/chwaraeonrhctcerdded

Sport-RCT-Education-WALKING-WLSH

 

Mai 21

Ydych chi eisiau dechrau rhedeg? Ydych chi'n byw yng Nghwm Rhondda? Darllenwch am grwpiau Fast Daps Glynrhedynog a'r Maerdy a Fast Daps Treorci! Sesiynau Cerdded i Redeg sy'n berffaith i ddechreuwyr.

ferndale and maerdy fast daps Treorchy Fast Daps flyer

 

Mai 20

Yr wythnos yma yw wythnos Cerdded i'r Ysgol. Ydych chi a'ch plant yn cymryd rhan? Dyma 20 rheswm pam mae cerdded yn fwy aml yn fuddiol.

Sport-RCT-Education-WALKING-WLSH

 

Mai 17

Mae Clwb Pêl-droed Merched Llwydcoed yn chwilio am chwaraewyr newydd!! Rhagor o fanylion isod!

afc llwydcoed GIRLS SECTION web

 

Mai 13

Yr wythnos yma yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. A wyddoch chi fod gan weithgarwch corfforol fanteision gwych ar gyfer eich iechyd meddwl? Dyma 10 rheswm gwych i fod yn heini a 5 awgrym ar sut i ddechrau. Cysylltwch â ni am gymorth neu gyngor.

Sport-RCT-Education-MENTAL-HEALTH-WLSH

 

Mai 12

A oes angen gwirfoddolwyr newydd ar eich clwb chwaraeon chi?
A hoffech chi i ni hysbysebu eich cyfleoedd i'n gwirfoddolwyr Chwaraeon RhCT?
Cwblhewch ein ffurflen recriwtio gwirfoddolwyr yma: www.rctcbc.gov.uk/RecriwtioGwirfoddolwyr

 

Mai 9

Wyddoch chi fod Cwm Cycling yn Aberdâr yn cynnig opsiwn i logi beiciau mewn amgylchedd beicio diogel. Gweler y manylion llawn ar y daflen!

Cwm-cycling-flyers-2019-welsh

 

Mai 8

Mae ein sesiwn Pêl-droed Cerdded yn dechrau heno yn Abercynon. Dewch yn llu i roi cynnig arni! Gweler y manylion llawn ar y daflen.

Sport-RCT-Walking-Footbal-Flyer-Welsh

 

Mai 3

Mae'n bryd cyhoeddi Gwirfoddolwr y Mis ar gyfer mis Ebrill...
Llongyfarchiadau Ellie Jones!
Ellie yw hyfforddwr tîm iau'r Rhondda Rockets. Ddwy flynedd yn ôl roedd y clwb Codi Hwyl eisiau creu tîm newydd ar gyfer plant 3-6 oed ac roedd angen hyfforddwr! Gwirfoddolodd Ellie ac mae hi wedi bod yn hyfforddi'r plant ers hynny. Mae pob un o'r plant wrth eu bodd â hi ac mae wedi datblygu i fod yn hyfforddwr anhygoel!  Mae hi bob amser yn brysur, yn cynnal sesiynau hyfforddi, cystadlu mewn achlysuron Codi Hwyl ei hun a gweithio llawn amser. Da iawn Ellie!

 

Mai 1

Neithiwr gwobrwyodd Cist Gymunedol Datblygu Chwaraeon Cymru £15,660 i glybiau chwaraeon 13 o Rondda Cynon Taf. Llongyfarchiadau i'r holl ymgeiswyr llwyddiannus!

 

Ebrill 29

Rydyn ni'n recriwtio hyfforddwyr chwaraeon newydd! Os hoffech chi ymuno â'n tîm ni, anfonwch eich CV chi atom ni ar Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk

 

Ebrill 27

Mae'r gwyliau'n dod i ben.  Os ydy'ch plentyn wedi cwblhau'i Gerdyn Bingo'r Pasg, cofiwch am ein raffl. Anfonwch lun mewn ebost neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol gyda'r tag @Sportrct

 

Ebrill 24

Gweithdai Hyfforddi AM DDIM – Cynnal Chwaraeon i Blant Bach a Chynnal Chwaraeon i Blant Iau
Mae'n berffaith i unrhyw un sy'n cynnal gweithgareddau chwaraeon i blant o dan 11 oed.
Dysgwch syniadau a chwaraeon newydd.
2 Ebrill a 9 Ebrill 6.00-9.00pm yn Ysgol Gymuned Abercynon
E-bost chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk

Ebrill 23

Sesiynau Wicketz NEWYDD yn dechrau yn Abercynon ar 1 Mai.
Sesiynau criced hwyl i bobl ifainc 11-16 oed.
Darllenwch y manylion llawn ar y daflen

Wicketz A5 Flyer April 2019 (002)

Ebrill 19

Diwrnod Agored Clwb Bowls Athletaidd Pont-y-clun i Ddynion a Menywod
Dydd Sul 28 Ebrill
Gweler y manylion llawn ar y daflen 

Pontyclun bowls POSTER 2019

 

Ebrill 10

Chwaraeodd pum chwaraewr o Glwb Bowls Dan Do Iau Cwm Rhondda yn y twrnamaint a gafodd ei gynnal gan Gymdeithas Bowls Dan Do Cymru. Cafodd y twrnamaint ei gynnal ym Mhort Talbot, a chymerodd 5 tîm ran. Yr enillwyr oedd Dylan Hawkins, Tegan Rees, Lauren Gowen, Estee Parry ac Emily Lawrence. Llongyfarchiadau!

Ebrill 9

Mae'n hen bryd i ni gyhoeddi Gwirfoddolwr y Mis ar gyfer mis Mawrth... Llongyfarchiadau i Barrie Rees – Sylfaenydd a Phrif Sensai Carate Shotokan Wattstown! Mae Barrie wastad wedi ymddiddori mewn carate, ac yn 2011 penderfynodd sefydlu ei glwb ei hun. Mae dros 50 o aelodau, ac mae rhai mor ifanc â 4 oed. Mae'r clwb yn teithio i Bencampwriaethau Ewrop a'r Byd bob blwyddyn, a daeth y clwb yn ôl o daith i Falta yn ddiweddar gyda 2 wobr Aur Ewropeaidd. Mae Barrie yn gweithio 6 diwrnod yr wythnos ac mae gyda fe fywyd teuluol prysur, ond mae fe'n ymrwymo i'w glwb a chwaraeon ac mae'n frwdfrydig amdanyn nhw. Mae fe'n ysbrydoliaeth i'w fyfyrwyr ac mae'n haeddu'r gydnabyddiaeth yma. Da iawn Barrie! 

Ebrill 8

Sesiynau Chwarae Pêl-droed i blant dan 7 oed 
Yn dechrau yn fuan yn Aberdâr ac Abercynon 
Manylion llawn isod

Just Play Football WELSH

Ebrill 3

Mae manteision o wneud gweithgareddau corfforol a chwaraeon. Gofynnodd Canolfan Gymuned Ton-teg i ni fynd i'r afael ag unigrwydd cymdeithasol yn yr ardal. Rhoeson ni gymorth iddyn nhw ddechrau sesiynau bowlio dan do.  Edrychwch ar y ffilm

 

Ebrill 1

Ebrill yw mis Ymwybyddiaeth Straen. A wyddoch chi fod gan weithgarwch corfforol fanteision gwych ar gyfer eich iechyd meddwl? Dyma 10 rheswm gwych i fod yn heini a 5 awgrym ar sut i ddechrau. Cysylltwch â ni am gymorth neu gyngor. 

Sport-RCT-Education-MENTAL-HEALTH-WLSH

Mawrth 31

Sul y Mamau Hapus! Diolch i bob un o'r mamau sy'n gwneud i chwaraeon ddigwydd trwy gefnogi eu plant a rhoi o'u hamser. Tagiwch fam sy'n gwneud i chwaraeon ddigwydd yn RhCT. 

 

Mawrth 27

Llongyfarchiadau i Scarlett o Glwb Karate Kyokushin Pontypridd a enillodd Fedal Efydd yn ddiweddar yng nghategori Karate Kata Anabledd Pencampwriaethau Cymru WKGB. Mae Scarlett yn dilyn ôl troed Darlene, aelod arall o'r clwb sydd wedi ennill Medal Arian ym Mhencampwriaethau Karate Anabledd y Byd ac Ewrop.  Bydd Darlene yn teithio yr wythnos nesaf i Sbaen ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop eleni. Pob lwc Darlene!!

 

Mawrth 27

Daeth 20 o glybiau chwaraeon i'n sesiwn Datblygu Clybiau galw heibio heddiw. Mae ein carfan yn rhoi cymorth i unrhyw glybiau a sefydliadau sy'n awyddus i ddatblygu – os ydy'ch clwb eisiau cymorth, cofiwch gysylltu neu gadw lle ar ein sesiwn Datblygu Clybiau galw heibio nesaf ym mis Mai!

 

Mawrth 21

Gweithdai Hyfforddi AM DDIM – Cynnal Chwaraeon i Blant Bach a Chynnal Chwaraeon i Blant Iau
Mae'n berffaith i unrhyw un sy'n cynnal gweithgareddau chwaraeon i blant o dan 11 oed. Dysgwch syniadau a chwaraeon newydd.
2 Ebrill a 9 Ebrill 6.00-9.00pm yn Ysgol Gymuned Abercynon
Ewch i www.rctcbc.gov.uk/calendrhyfforddirgweithlu i gadw lle

 

Mawrth 18

Ydy eich clwb chwaraeon yn chwilio am gymorth? Mae modd i ni ddarparu cymorth gyda threfniadau llywodraethu, cyllid, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, cysylltiadau â'r gymuned a hyrwyddo'ch clwb. Oes diddordeb gyda chi? Dewch i un o'n sesiynau Datblygu Clybiau galw heibio ar 27 Mawrth rhwng 1pm a 8pm yng Nghanolfan Hamdden Sobell, Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen neu'r Play Yard. Cadwch le nawr ar www.rctcbc.gov.uk/calendrhyfforddirgweithlu

 

Mawrth 15

Y penwythnos olaf... Cymru yn erbyn Iwerddon!
Mae'r tîm dan 20 yn chwarae heno am 7.05pm.
Bydd tîm y dynion yn chwarae am 2.45pm yfory.
Bydd cic gyntaf gêm y Menywod am 1.30pm, ddydd Sul.
Rydyn ni'n falch iawn o'r holl chwaraewyr o RCT.
#CymruAmByth

 

Mawrth 13

Yn ystod yr haf y flwyddyn ddiwethaf, aethon ni i gwrdd ag aelodau clwb tennis Llantrisant. Dyma fideo sy'n dangos sesiynau Tennis i Blant a Thennis Cardio y clwb. Mae gan y clwb lwyth o sesiynau i bobl o bob oed a gallu. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y clwb ar y cyfryngau cymdeithasol neu fynd i https://clubspark.lta.org.uk/Llantrisanttennis

 

Mawrth 11

Mae Chwaraeon Cymru yn cynnig grant Cist Gymunedol o hyd at £1500 i glybiau chwaraeon cymunedol a sefydliadau sy'n chwilio am ragor o aelodau ac/neu sydd eisiau gwella safonau. Mae'r ffeithlun yma yn dangos buddsoddiad y Gist Gymunedol yn Rhondda Cynon Taf dros y flwyddyn ddiwethaf.

Sport-RCT-Community-Chest-Infographic-201819 WEL

 

 

Mawrth 8

Heddiw rydyn ni'n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Gwyliwch y ffilm astudiaeth achos yma i ddysgu am glwb Pêl-rwyd Cerdded Llanilltud Faerdref. Maen nhw o'r farn na ddylech chi byth ofni rhoi cynnig ar rywbeth newydd, beth bynnag fo'ch oedran. Mae stori'r clwb yn enghraifft berffaith o sut mae modd i chwaraeon eich helpu chi'n gorfforol ac yn feddyliol.

 

Mawrth 8

Rownd pedwar - Yr Alban
Mae'r tîm dan 20 yn chwarae heno am 7.30pm.
Bydd tîm y menywod yn chwarae heno am 7.35pm.
Bydd cic gyntaf gêm y dynion am 2.15pm yfory.
Cefnogwch y tri thîm a'r holl chwaraewyr o RCT.
#CymruAmByth 

Mawrth 6

Mae'n amser i gyhoeddi Gwirfoddolwr y Mis ar gyfer mis Chwefror...
Llongyfarchiadau Glyn Harries!
Mae Glyn wedi bod yn hyfforddwr gyda Chlwb Nofio Cwm Rhondda ers sefydlu'r clwb yn 1975. Fe oedd un o'r aelodau a sefydlodd y clwb. Mae Glyn bellach yn 83 oed ac mae wrth ei fodd yn helpu plant i wella eu sgiliau nofio. Mae Glyn wrth y pwll bob nos Wener ar gyfer hyfforddiant ac er ei fod yn dasgfeistr, mae'r plant i gyd yn dwlu ar ei sesiynau ac yn parchu ei wybodaeth a phrofiad. Mae Glyn hefyd yn hyfforddi gyda chlwb nofio i'r anabl Rhondda Polar Bears, dydy e byth yn colli gala nofio. Ar ôl dros 40 o flynyddoedd yn gwirfoddoli ac yn rhoi cymaint o'i amser i'r clwb ac i'w gymuned, rydyn ni o'r farn ei fod yn haeddu clod. Da iawn Glyn. 

 

Mawrth 5

Dewch i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched gyda ni y penwythnos yma. Cymerwch ran mewn sesiynau Ioga, Pêl-rwyd Cerdded, Hoci Cerdded, Pickleball a Cherdded.

 International Womens Day

 

Mawrth 1

Dydd Gŵyl Dewi Hapus! Rydyn ni'n teimlo'n wladgarol iawn wrth siarad am ein hoff atgofion chwaraeon o Gymru. Pa atgofion chwaraeon sy wedi gwneud i chi deimlo'n hynod o falch? Gadewch sylw isod. 

Chwefror 24

Mae ein map cyfleusterau'r gymuned yn cynnwys canolfannau hamdden, canolfannau cymuned, parciau ac ardaloedd chwarae. Dyma'r lleoedd delfrydol i chi a'ch teulu fod yn weithredol. Ewch i'n gwefan i gael cip arno! www.rctcbc.gov.uk/communitysportfacilities 

 

Chwefror 22

Rownd tri - Lloegr
Mae'r tîm dan 20 yn chwarae heno am 7.05pm.
Bydd tîm y dynion yn chwarae yfory am 4.45pm
Bydd cic gyntaf gêm y menywod am 12.30pm, ddydd Sul.
Pob lwc i bob tîm a'r holl chwaraewyr o RCT.
#CymruAmByth #WALvENG
 

Chwefror 18

Yr wythnos yma yw Wythnos Gwirfoddoli Ymhlith Myfyrwyr. Mae gyda ni bartneriaethau gwych gyda Phrifysgol De Cymru, Coleg y Cymoedd ac Academi Chwaraeon MPCT. Diolch i'r nifer fawr o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli ar ein rhan trwy gydol y flwyddyn sy'n cynorthwyo gyda phrosiectau ac achlysuron. 

Chwefror 17

Chwilio am gwrs Cymorth Cyntaf Chwaraeon? Rydyn ni'n cynnal cwrs yn fuan – dyma'r manylion:
Dydd Mercher 6 Mawrth 6.00-9.00pm yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon
Pris: £25 fesul person
Ewch i www.rctcbc.gov.uk/calendrhyfforddirgweithlu i gadw lle 

 

Chwefror 11

Ydych chi'n chwilio am her?
Beth am roi cynnig ar Aquathlon RhCT?
Mae her GO TRI yn berffaith ar gyfer dechreuwyr...
Cymerwch olwg ar y poster am ragor o fanylion. 

RCT Aquathlon WLSH flyer

 

Chwefror 8

Rownd dau - Yr Eidal
Bydd tîm y dynion yn chwarae yfory am 4.45pm.
Bydd y menywod yn chwarae nos yfory am 7pm.
Bydd cic gyntaf gêm y tîm dan 20 am 2pm, ddydd Sul.
Dymunwch bob hwyl i unrhyw chwaraewyr o'ch ardal chi isod!
#CymruAmByth 

Chwefror 6

Pwy yw enillydd Gwirfoddolwr y Mis, Mis Ionawr?
Llongyfarchiadau Ruth Cochran!
Mae Ruth yn rhoi o'i hamser bob bore Sadwrn i gefnogi achlysur @pontypriddparkrun. Mae hi wedi gwirfoddoli mewn dros 200 o achlysuron. Mae Ruth yn cyrraedd yn gynnar i wirio'r llwybr a helpu gyda gwaith paratoi ar gyfer yr achlysur, yna mae hi'n cyflawni rôl 'tailwalker'. O bryd i'w gilydd, mae'r rheiny sy'n cerdded llwybr Parkrun yn teimlo'n hunanymwybodol. Mae nifer o bobl yn dychwelyd wythnos ar ôl wythnos er mwyn colli pwysau a theimlo'n well, ac mae rhai yn mynd ymlaen i gyflawni'r llwybr 5 cilometr cyfan. 

Chwefror 1

Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi dychwelyd!
Ffrainc sy'n chwarae yn erbyn Cymru yn gyntaf.
Ac mae gyda ni benwythnos llawn dop.
Mae'r uwch garfan (dynion) yn chwarae heno am 8.00pm.
Mae'r menywod yn chwarae nos yfory am 8.00pm.
Ac mae'r tîm dan 20 oed yn chwarae am 2.00pm ddydd Sul.
Rydyn ni'n falch o ddweud bod nifer o'r chwaraewyr wedi'u dewis yn dod o RCT.
#CymruAmByth 

 

Ionawr 30

Ydych chi'n ystyried gwirfoddoli mewn chwaraeon? Dyma 20 rheswm i gymryd rhan! Cofrestrwch gyda ni a byddwn ni'n paratoi cyfle gwirfoddoli a'r cymorth a hyfforddi sydd eu hangen arnoch. Cofrestrwch ar www.rctcbc.gov.uk/ByddwchYnWirfoddolwrArRanChwaraeonRhCT

 

Ionawr 29

Heno, mae gyda ni ein panel Cist Gymunedol 2018-19 olaf. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd mis Ebrill. Fyddai eich clwb chwaraeon yn elwa ar grant o £1500 i gefnogi twf a datblygiad? Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SportsandLeisure/SportRCT/SportsClubs/GrantsandFunding/SportWalesCommunityChestGrant.aspx i ddarllen mwy.

 

Ionawr 23

Ydych chi wedi mynd i'n cyrsiau neu weithdai Chwaraewch Ran? Hoffech chi fynd yn y dyfodol? Rydyn ni'n datblygu ein calendr newydd ac rydyn ni angen eich help!! Cwblhewch yr arolwg erbyn canol dydd 10 Chwefror a byddwch chi'n cael cyfle i ennill gwobr! https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=154780802256

 

Ionawr 19

Llongyfarchiadau i glwb Triathlon y Rhondda am flwyddyn anhygoel! Ar sail eu pwyntiau 'Ironman', nhw yw'r ail glwb gorau yn y DU a'r 28ain clwb gorau yn y BYD. Mae clybiau'n cael pwyntiau bob tro bydd aelod yn cymryd rhan mewn achlysur 'Ironman'. Maen nhw'n cael pwyntiau ychwanegol yn seiliedig ar safleoedd gorffen. Dyma ganlyniad gwych ac rydyn ni'n falch iawn ohonyn nhw.

 

Ionawr 18

Rydyn ni'n recriwtio Gwirfoddolwyr Chwaraeon RhCT i helpu gyda nifer o brosiectau rhedeg. Oes gyda chi gymhwyster 'Run Leader'? Neu ydych chi'n frwd dros redeg ac yn awyddus i gymryd rhan? Os felly, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ByddwchYnWirfoddolwr i gofrestru 

 

Ionawr 16

Mae yna lwybrau cerdded a beicio prydferth yma yn Rhondda Cynon Taf. Os yw'ch teulu chi yn awyddus i fod allan yn yr awyr iach dros y penwythnos, ewch i'n gwefan i weld eich llwybrau lleol - www.rctcbc.gov.uk/chwaraeonrhctcerdded

 

Ionawr 14

Mae'n bryd i gyhoeddi Gwirfoddolwr y Mis…Llongyfarchiadau i Christine Protheroe, Rhondda Rockets Cheerleading! Mae Christine wedi gwirfoddoli i fod yn hyfforddwrwaig gyda'r grwp ers 16 o flynyddoedd. Mae hi'n hyfforddi merched 3 gwaith yr wythnos ynghyd â dal swydd amser llawn. Mae hi'n mynd i'r ail filltir i gefnogi'r merched, gan roi cymorth iddyn nhw deithio o gwmpas y Sir ar gyfer cystadlaethau.  Mae Chris yn darparu amgylchfyd cefnogol sy'n rhoi modd i'r merched fagu hyder a meithrin gallu, a chwrdd â ffrindiau newydd.  Da iawn Christine!

 

Ionawr 11

Ydych chi wedi gweld pob astudiaeth achos ein clybiau? Mae gyda ni dros 20 o ffilmiau astudiaeth achos sy'n hyrwyddo clybiau ledled RhCT. Ewch i'w gwylio trwy fynd i'n fideos ar Facebook neu ein gwefan: https://www.rctcbc.gov.uk/EN/Resident/SportsandLeisure/SportRCT/SportsClubs/CaseStudyFilms/CaseStudyFilms.aspx

 

Ionawr 9

Dechreuodd ein grŵp O'r Soffa i 5k heno ym Mhontypridd, mewn partneriaeth â Hapi a Chymdeithas Tai Newydd. Aeth y sesiwn yn dda iawn a daeth dros 180 o bobl i'r sesiwn. Os colloch chi'r sesiwn heno ond rydych chi'n awyddus i ymuno – dewch i'r parc nos Fercher nesaf am 6.00pm!

 

Ionawr 7

Sesiynau chwaraeon ym Mharc Chwaraeon Prifysgol De Cymru!
3–6 oed
PÊL-RWYD I BLANTOS BACH: Bob dydd Mawrth 4-5pm
RYGBI I BLANTOS BACH: Bob dydd Iau 4-5pm

Sport RCT USW Community Sport Sessions FlyerOct 2018 - TOTS WELSH

 

Ionawr 5

Ydy'ch Clwb Chwaraeon chi yn bwriadu gwneud cais am grant Cist Gymunedol Datblygu Chwaraeon Cymru? Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw 15 Ionawr. Byddwn ni'n cynnal sesiwn galw heibio ar 8 Ionawr yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon. E-bostiwch Chwaraeonrhct@rhondda-cynon-taf.gov.uk er mwyn trefnu apwyntiad un awr.

 

Ionawr 3

Ydych chi wedi ymuno ag unrhyw deithiau cerdded yn rhan o 'Festival of Winter Walks Ramblers Cymru? Mae yna nifer o deithiau anhygoel dros y Nadolig - a dydy e ddim yn rhy hwyr i gymryd rhan. Mae'r ŵyl yn para tan 6 Ionawr! Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.ramblers.org.uk/go-walking/festival-of-winter-walks.aspx

 

Ionawr 1

Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth Chwaraeon RhCT! Croesi bysedd bydd 2019 yn llawn chwaraeon ac ymarfer corff!! Beth yw eich Addunedau Blwyddyn Newydd? Hoffech chi wneud rhagor o chwaraeon neu weithgareddau ymarfer corff? 

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas