Skip to main content

Ysgol Gyfun Rhydywaun

Mae'r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-waun wedi elwa ar fuddsoddiad gwerth £12.1m sydd wedi’i galluogi i ehangu capasiti'r ysgol a darparu cyfleusterau newydd sbon i staff, disgyblion a'r gymuned ehangach.

Yn rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif yn flaenorol), mae’r buddsoddiad wedi cynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol o 1,038 i 1,225, sef cynnydd o 187 disgybl. Fe wnaeth y Cyngor dderbyn cyfraniad o 65% gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflwyno'r cyfleusterau newydd sbon.

Wedi'i gyflwyno ym mis Medi 2022, mae'r cynllun cyffredinol wedi darparu cyfleusterau addysgu a chwaraeon sylweddol ar dir presennol yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dymchwel tŷ presennol y gofalwr a chael gwared ar ystafelloedd dosbarth dros dro'r ysgol.
  • Adeiladu bloc wyth ystafell ddosbarth newydd sy'n cynnwys ystafelloedd i'r gymuned, ynghyd â chyfleusterau drama a cherddoriaeth i'r ysgol.
  • Derbynfa newydd i'r ysgol, neuadd chwaraeon, ystafell ffitrwydd ac ystafelloedd newid, ynghyd â maes parcio newydd gyda lle i 45 cerbyd a man cadw beiciau.

Bydd modd i'r gymuned ehangach ddefnyddio rhai o'r cyfleusterau yma hefyd, ond bydd aelodau'r gymuned a disgyblion yr ysgol yn cael eu cadw ar wahân. Mae'r datblygiad wedi ategu'r cae chwaraeon 3G 'pob tywydd' newydd a gafodd ei ddarparu gan y Cyngor ym mis Ebrill 2019 ar gyfer yr ysgol a'r gymuned.

Yn dilyn cyflwyno'r cynllun, fe barhaodd y gwaith i ailfodelu cyfleusterau ym mloc presennol yr ysgol, erbyn diwedd mis Mawrth 2023. Mae hyn yn cynnwys ystafelloedd dosbarth Gwyddoniaeth a Dylunio a Thechnoleg newydd, swyddfa, ystafell ddosbarth ar ffurf darlithfa, caffi a chyfleusterau ar gyfer y chweched dosbarth. 

Ymweliad Aelod o'r Cabinet ar ôl cwblhau'r prosiect – Hydref 2022

YG Rhydywaun - 21st Century Schools - Cllr Lewis - 2
YG Rhydywaun - 21st Century Schools - Cllr Lewis - 4
YG Rhydywaun - 21st Century Schools - Cllr Lewis - 8
 
YG Rhydywaun - 21st Century Schools - Cllr Lewis - 10
YG Rhydywaun - 21st Century Schools - Cllr Lewis - 15
YG Rhydywaun - 21st Century Schools - Cllr Lewis -22

Hoffech chi ragor o wybodaeth am y prosiect yma? Anfonwch ebost i Garfan Ysgolion yr 21ain Ganrif