Beth sydd angen i mi'i wneud?
Sample Table
|
Os yw'ch plentyn yn troi'n 3 oed rhwng 1 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2023.
|
Rhaid i chi wneud cais am le Cyn-feithrin ar gyfer Ionawr 2024 a lle yn y Dosbarth Meithrin ar gyfer Medi 2024
|
Os yw'ch plentyn yn troi'n 3 oed rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Mawrth 2024
|
Rhaid i chi wneud cais am le Cyn-feithrin ar gyfer Ebrill 2024 a lle yn y Dosbarth Meithrin ar gyfer Medi 2024
|
Os yw'ch plentyn yn troi'n 3 oed rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Awst 2024
|
Dim ond gwneud cais am le yn y Dosbarth Meithrin ar gyfer Medi 2024 sydd angen i chi ei wneud
|
Lleoedd yn y dosbarth Meithrin yn 2024 ar gyfer disgyblion a fydd yn 3 mlwydd oed cyn 1 Medi 2024.
- Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar-lein rhwng 1 Medi 2023 a 10 Tachwedd 2023.
- Byddwch chi'n derbyn canlyniad cais ar 16 Ebrill 2024.
Cyflwyno cais
Mae cyflwyno cais ar-lein yn syml.
Nodwch - Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi i wneud eich cais ar-lein.
Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos. Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos. Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Nodwch: Dyw pob teclyn symudol (iPhone / iPad a ffonau / llechen gyfrifiadur android) ddim yn addas ar gyfer y system derbyn disgyblion ar-lein. Cyngor y cwmni sydd wedi creu'r meddalwedd yw mai defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur fyddai orau. Os nad oes cyfrifiadur/gliniadur gyda chi, mae modd i chi ddefnyddio'r cyfrifaduron yn un o'n Llyfrgelloedd.
Gwybodaeth ddefnyddiol: