Lleoedd mewn Ysgolion Iau yn 2023 ar gyfer disgyblion sy'n gadael Blwyddyn 2 mewn Ysgol Babanod ar ddiwedd Tymor yr Haf 2023.
- Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar-lein rhwng 1 Medi 2022 a 12 Tachwedd 2022.
- Byddwch chi'n derbyn canlyniad eich cais ar 17 Ebrill 2023.
Cyflwyno cais
Mae cyflwyno cais ar-lein yn syml.
Nodwch - Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi i wneud eich cais ar-lein.
Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos. Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Nodwch: Dyw pob teclyn symudol (iPhone / iPad a ffonau / llechen gyfrifiadur android) ddim yn addas ar gyfer y system derbyn disgyblion ar-lein. Cyngor y cwmni sydd wedi creu'r meddalwedd yw mai defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur fyddai orau. Os nad oes cyfrifiadur/gliniadur gyda chi, mae modd i chi ddefnyddio'r cyfrifiaduron yn un o'n Llyfrgelloedd.
Gwybodaeth ddefnyddiol: